Swydd Wag -- Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru- Penodi a Cadeirydd

Manylion y swydd

BWYLLGOR GWASANAETHAU IECHYD ARBENIGOL CYMRU (PGIAC)
Mae gan y Cadeirydd hawl i dderbyn tâl trethadwy o £322 y dydd.
52
blwyddyn

Rôl y corff

Cafodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (‘y Pwyllgor’) sy'n cael ei gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ei sefydlu ar 1 Ebrill 2010. Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am gynllunio gwasanaethau arbenigol ac arbenigol iawn ar y cyd ar ran y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. 

Dyma'r Byrddau Iechyd Lleol: 

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Swyddogaeth pob Bwrdd Iechyd Lleol yw cynllunio, cyllido, datblygu a sicrhau'r gwasanaethau a ddarperir ym maes gofal sylfaenol, cymunedol, a gofal mewn ysbytai, gan gynnwys gwasanaethau arbenigol, ar gyfer pobl yn eu hardaloedd lleol. Mae cyfarwyddiadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru'n gorchymyn i saith Bwrdd Iechyd Lleol Cymru weithio ar y cyd i weithredu'r swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio a sicrhau gwasanaethau arbenigol ac arbenigol iawn.

 

Y diben a'r swyddogaethau dirprwyedig

Cafodd y Pwyllgor ei sefydlu er mwyn gweithredu'r swyddogaethau hynny sy'n berthnasol i gynllunio a sicrhau gwasanaethau arbenigol ac arbenigol iawn penodol i Gymru gyfan, ar ran pob un o'r saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru.  

Mae'r Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol am y bobl hynny sy'n byw yn eu hardaloedd. Er bod y Pwyllgor yn gweithredu ar ran y saith Bwrdd Iechyd Lleol wrth ymgymryd â'i swyddogaethau, mae'r ddyletswydd sydd gan bob un Bwrdd Iechyd Lleol yn parhau. Yn y bôn, y Byrddau Iechyd Lleol sy'n atebol i ddinasyddion Cymru a rhanddeiliaid eraill am ddarparu gwasanaethau arbenigol ac arbenigol iawn i drigolion yn eu hardaloedd. 

Rôl y Pwyllgor yw:

  • Pennu cynllun strategol hirdymor er mwyn datblygu gwasanaethau arbenigol ac arbenigol iawn yng Nghymru, ar y cyd â Gweinidogion Cymru;
  • Cymeradwyo a llofnodi'r cynlluniau tymor canolig integredig tair blynedd a ddatblygir gan y Byrddau Iechyd;
  • Tynnu sylw at driniaethau a gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli a rhai sydd newydd ymddangos, eu gwerthuso, a rhoi cyngor ar ddynodi gwasanaethau o'r fath;
  • Datblygu polisïau cenedlaethol er mwyn sicrhau mynediad teg a chyfiawn i wasanaethau arbenigol ac arbenigol iawn diogel, cynaliadwy ac o ansawdd uchel ar hyd a lled Cymru – p’un a fydd y polisïau'n cael eu cynllunio, eu cyllido a'u sicrhau ar lefel genedlaethol, rhanbarthol neu leol;
  • Cytuno bob blwyddyn ar y gwasanaethau hynny a ddylai gael eu cynllunio ar lefel genedlaethol a'r rhai hynny a ddylai gael eu cynllunio'n lleol;
  • Cynhyrchu cynllun blynyddol y cytunir arno gan y Pwyllgor yn dilyn cyhoeddi Cynlluniau Corfforaethol ac Ansawdd / Cyflawni Blynyddol y Byrddau Iechyd Lleol;
  • Cytuno ar lefel briodol o gyllid ar gyfer darparu gwasanaethau arbenigol ac arbenigol iawn yn genedlaethol, a phennu'r cyfraniad gan bob un Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer y gwasanaethau hynny (a fydd yn cynnwys costau rhedeg y Pwyllgor a Thîm Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru), yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau penodol a bennir gan Weinidogion Cymru;
  • Datblygu ffyrdd o reoli'r risgiau yn ystod y flwyddyn sy'n gysylltiedig â phortffolio'r gwasanaethau y cytunir arno, a'r pwysau newydd a allai godi yn sgil hwnnw
  • Sicrhau bod gwasanaethau arbenigol ac arbenigol iawn yn cael eu cynllunio ar lefel genedlaethol, gan gynnwys y rhai hynny sy'n cael eu darparu gan ddarparwyr y tu allan i Gymru; a
  • Datblygu ffyrdd i fonitro, gwerthuso a chyhoeddi canlyniadau gwasanaethau gofal iechyd arbenigol ac arbenigol iawn a mynd ati i gymryd camau priodol.

Rhaid i'r Pwyllgor sicrhau bod ei holl weithgareddau yn unol â'r swyddogaethau hyn neu unrhyw swyddogaethau eraill a allai gael eu rhoi iddo. Bydd pob Bwrdd Iechyd Lleol yn rhwym wrth benderfyniadau'r Pwyllgor wrth gyflawni ei rolau. Rhaid i’r Cadeirydd sicrhau cydymffurfiaeth â’r gweithdrefnau a nodir yn Rheolau Sefydlog y Pwyllgor mewn perthynas â gwneud penderfyniadau.

I gyflawni ei swyddogaethau, bydd y Pwyllgor yn arwain ac yn archwilio gweithgareddau, swyddogaethau, a phenderfyniadau'r Tîm Rheoli sy'n cael eu gwneud dan gyfarwyddyd y Pwyllgor.

Bydd y Pwyllgor yn gweithio ar y cyd â'i holl bartneriaid a rhanddeiliaid er lles gorau'r boblogaeth ar hyd a lled Cymru.

 

Disgrifiad o'r swydd

Cyfrifoldeb y Cadeirydd yw sicrhau bod y Pwyllgor yn gweithredu’n effeithiol: 

  • Cadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor;
  • Cydymffurfio â'r safonau llywodraethu da sydd wedi'u gosod ar gyfer y GIG yng Nghymru, gan sicrhau bod holl fusnes y Pwyllgor yn cael ei gynnal yn unol â'i Reolau Sefydlog; a
  • Datblygu cysylltiadau cadarnhaol a phroffesiynol ymhlith aelodaeth y Pwyllgor a rhwng aelodau'r Pwyllgor a staff pob Bwrdd Iechyd Lleol.  

Bydd y Cadeirydd yn cydweithio'n agos â Chadeirydd pob Bwrdd Iechyd Lleol. Gyda chefnogaeth Ysgrifennydd y Pwyllgor, bydd hefyd yn sicrhau bod materion allweddol a phriodol yn cael eu trafod gan y Pwyllgor mewn modd amserol, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth a chyngor angenrheidiol ar gael i'r aelodau, er mwyn darparu gwybodaeth a fydd yn mynd yn sail i drafodaethau a phenderfyniadau terfynol.

Mae'r Cadeirydd yn atebol yn uniongyrchol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer perfformiad pob un o'r Byrddau Iechyd Lleol wrth gyflawni swyddogaethau'r  Pwyllgor ar eu rhan, a thrwy Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, ar gyfer cynnal busnes yn unol â'r fframwaith 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Manyleb y person

Bydd y Cadeirydd yn arddangos y rhinweddau canlynol: 

Gwybodaeth a phrofiad

  • Profiad o arwain a datblygu sefydliad preifat, cyhoeddus neu drydydd sector ar lefel uwch-reolwr, a'r gallu i edrych i'r dyfodol a chynnig arweiniad strategol;
  • Profiad o sefydlu a monitro systemau llywodraethu cadarn mewn sefydliad cymhleth;
  • Profiad o annog eraill i ddatrys anghydfod yn effeithiol a hybu cysylltiadau proffesiynol positif;
  • Hanes llwyddiannus o gadeirio’n effeithiol mewn sefyllfaoedd pan fo materion hynod o gymhleth yn cael eu trafod a phan fo tensiynau’n codi yn ymwneud â gwrthdaro buddiannau posibl 
  • Hanes llwyddiannus o feithrin perthynas effeithiol gydag ystod o randdeiliaid;
  • Gwybodaeth am y gwasanaeth iechyd, a'r gwasanaethau arbenigol a ddarperir, a dealltwriaeth ohonynt; a/neu gefndir clinigol.

*Priodoleddau a sgiliau personol

  • Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol â sgiliau dylanwadu a thrafod cadarn;
  • Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau hirdymor a thymor byr;
  • Sgiliau cyfathrebu gwych, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan barchu safbwyntiau pobl eraill;
  • Y gallu i brosesu llawer iawn o wybodaeth a gwerthuso tystiolaeth gymhleth o fewn amserlen dynn;
  • Y gallu i grynhoi a nodi diben cyffredin er mwyn hwyluso penderfyniadau cytûn ac effeithlon;
  • Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
  • Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn.

Rhaid i ymgeiswyr ddangos hefyd:

  • Ddealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, a herio arferion gwahaniaethol lle bo hynny'n briodol;
  • Dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan, ynghyd ag ymrwymiad iddynt

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol. Fodd bynnag, disgwylir i bob ymgeisydd ddangos empathi at yr iaith a rhoi arweiniad ar gryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog yn y GIG yng Nghymru.

Bydd gofyn i ymgeiswyr sy'n cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ymhelaethu ar sut y maent yn bodloni'r meini prawf uchod gan ddefnyddio enghreifftiau a thystiolaeth.

 

 

Dyddiadau cyfweliadau

29 Mai 2020
2 Mehefin 2020

Dyddiad cau

17/04/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Datganiad am Amrywiaeth  

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylai aelodau byrddau cyrff cyhoeddus adlewyrchu’r gymdeithas yng Nghymru – pobl o bob cefndir – er mwyn eu helpu i ddeall anghenion pobl a gwneud penderfyniadau gwell. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn annog ystod eang ac amrywiol o unigolion i ymgeisio am benodiadau i gyrff cyhoeddus. Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gan gynnwys menywod, pobl dan 30 oed, pobl o gefndir du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, pobl anabl a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol.

Cynllun Gwarantu Cyfweliad


Mae gan Lywodraeth Cymru Gynllun Gwarantu Cyfweliad i bobl anabl. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio person anabl fel person sydd â nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith niweidiol sylweddol a hirdymor ar ei allu i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. O dan y Cynllun Gwarantu Cyfweliad, bydd ymgeisydd anabl yn cael ei ddewis ar gyfer cyfweliad os bydd yn bodloni'r meini prawf hanfodol gofynnol ar gyfer y swydd.

Enwau Cyswllt


I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â'r: Tîm Penodiadau Cyhoeddus PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu trafodaeth anffurfiol am rôl y Cadeirydd, cysylltwch â:

Yr Athro Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol.

Ffôn: 03000 257143

E-bost: chris.jones@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, efallai yr hoffech ymweld â’u gwefan: http://www.whssc.wales.nhs.uk/hafan

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.