Swydd Wag -- Penodi Aelod Annibynnol (Cyffredinol / Busnes Corfforaethol)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Aelodau Annibynnol, ymhlith pethau eraill, yn:-
- Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei reoli, yn glinigol ac yn gorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol.
- Gweithredu fel Ymddiriedolwr Corfforaethol Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
- Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd;
- Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
- Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol;
- Bod yn gefnogol i’r angen i weithio’n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau;
- Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
- Disgwylir iddynt gefnogi Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Bwrdd Iechyd, gan 'fyw' y gwerthoedd yn eu rôl fel Aelod o'r Bwrdd.
- Gallu cyfrannu at brosesau llywodraethu ac ariannu y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd angen i ymgeiswyr dystiolaethu'r MEINI PRAWF HANFODOL canlynol yn eu gwybodaeth a'u profiad. Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i gyflawni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer penodi.
Meini Prawf Hanfodol (Arddangosir Trwy CV a Datganiad Personol)
- Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal y Bwrdd Iechyd a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;
- Y gallu i ddwyn y tîm gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
- Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;
- Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth y mae eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth, ee Deddf Diogelu Data 2018 (y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data)
- Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth a sut y mae'r rhain yn ymwneud â'r sector iechyd
Er mwyn cefnogi cymysgedd sgiliau cyfoethog ar draws Aelodau'r Bwrdd, hoffai CTMUHB ddenu ymgeiswyr sydd â'r sgiliau a'r ddealltwriaeth a gafwyd trwy brofiad busnes corfforaethol a / neu fasnachol. Gall y rhain gynnwys y meysydd a nodir yn y tabl canlynol.
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad lle bydd y panel yn archwilio sgiliau a phrofiad arall a gafwyd trwy brofiad busnes corfforaethol a / neu fasnachol. Mae'r sgiliau DESIRABLE canlynol yn arwydd o'r meysydd y bydd y panel yn eu harchwilio mewn cyfweliad;
Sgiliau a Phrofiad Eraill (Arddangoswyd yn y Cyfweliad) :
- Ymwybyddiaeth Fasnachol/Partneriaethau
- Cynhyrchiant ac effeithlonrwydd gan gynnwys gweithredu strategaethau busnes ac agenda weddnewid
- Datblygu Busnes a Thwf
- Arweinyddiaeth Strategol
- Cyfathrebu/Marchnata
- Systemau a Pholisïau Corfforaethol
- Cynllunio a Datblygu Eiddo/Cyfalaf Strategol
- Datblygu perthnasoedd cryf yn fewnol ac yn allanol
- Profiad o weithio yn y sector cyhoeddus a/neu'r sector preifat – Busnes a Masnachol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â'r:
Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Cyrff Cyhoeddus
E-bost: Penodiadaucyhoeddus@LlywCymru
Am ragor o wybodaeth am rôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg cysylltwch â Georgina Galletly, y Cyfarwyddwr Llywodraethiant Corfforaethol.
Ffôn: 01443 744818
E-bost: Georgina.galletly2@wales.nhs.uk
Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar Penodiadaucyhoeddus@LlywCymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.