Swydd Wag -- Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol (y Trydydd Sector) Iechyd Cyhoeddus Cymru

Manylion y swydd

Iechyd Cyhoeddus Cymru
Lleoliadau amrywiol
£9,360 y flwyddyn
4
mis

Rôl y corff

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Ei weledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru ac, wrth gyflawni'r weledigaeth hon, mae'n chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu’r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.

Mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda chymunedau, sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol, gweinidogion a swyddogion ac ystod eang o bartneriaid gan gynnwys y sector gwirfoddol, tai, addysg a'r heddlu a’r system cyfiawnder troseddol. Mae ganddo rôl gynyddol hefyd o ran cefnogi iechyd y cyhoedd yn rhyngwladol fel Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy ei holl gysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd Cyfarwyddwyr Anweithredol, ymysg pethau eraill, yn:

  • Cyflawni dyletswyddau llywodraethu’r sefydliad yn effeithiol, yn ei holl ffurfiau integredig. Bwrdd Unedol yw'r Bwrdd, ac mae Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Anweithredol yn gyfrifol ar y cyd am wneud penderfyniadau ar lefel y Bwrdd. Rôl y Cyfarwyddwyr Anweithredol yw craffu a goruchwylio ac i roi o’u profiad a'u harbenigedd i gefnogi trafodaethau a phenderfyniadau'r Bwrdd.
  • Pennu naws a diwylliant y sefydliad, gan sicrhau y gall yr holl staff ddod i'r gwaith a ffynnu drwy fod yn nhw eu hunain, heb ofni gwahaniaethu nac anfantais o unrhyw fath.
  • Cynnal ‘llwybr clir' o'r Bwrdd i'r rheng flaen ac yn ôl i’r Bwrdd.
  • Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a’ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o’r gwaith rheoli beunyddiol.
  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a’u derbyn, er mwyn sicrhau bod penderfyniadau’r Bwrdd yn gydgysylltiedig, yn gadarn ac yn dryloyw.
  • Mae disgwyl y bydd gennych wybodaeth ymarferol ddigonol o wasanaethau a swyddogaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau trefniadau llywodraethu da, ac i asesu risg yn effeithiol a rheoli a chyflawni yn erbyn cynlluniau cymeradwy.
  • Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill i sicrhau bod yr holl safbwyntiau perthnasol yn cael eu hystyried yn ystod y broses benderfynu. Dylai buddiannau defnyddwyr gwasanaeth fod o'r pwys mwyaf yn hyn o beth.
  • Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol er mwyn sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau mor wybodus â phosibl.
  • Goruchwylio’r broses o stiwardio adnoddau’n effeithiol, gan sicrhau bod y broses o ddyrannu a defnyddio’r adnoddau’n agored a bod atebolrwydd ynghylch hynny
  • Lle mae gan Gyfarwyddwyr Anweithredol bortffolio penodol, adlewyrchu barn rhanddeiliaid y portffolio hwnnw ar lefel y Bwrdd.
  • Cyflawni’r rôl yn unol ag Egwyddorion Nolan a Chod Ymddygiad Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Yn eich cais bydd angen i chi ddangos:

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y Trydydd Sector yng Nghymru;

  • Y gallu i gymhwyso'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â’r Trydydd Sector, mewn perthynas ag iechyd y cyhoedd a phenderfynyddion ehangach iechyd, mewn amgylchedd Bwrdd strategol;

  • Dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar y Trydydd Sector yn genedlaethol a'r gallu i weithio mewn partneriaeth i gyflawni'r canlyniadau ar y cyd/a ddymunir;

  • Profiad o weithio ar lefel uwch swyddog neu lefel Bwrdd.

Dyddiadau cyfweliadau

11 Ionawr 2022
12 Ionawr 2022

Dyddiad cau

03/12/21 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

I gael mwy o wybodaeth am weithio i PHW, gweler y ddolen

Recriwtio cyfarwyddwyr anweithredol i Iechyd Cyhoeddus Cymru - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:

Tîm Penodiadau Cyhoeddus PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cyfarwyddwyr Anweithredol, cysylltwch â:

Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ffôn: 07711 819665

E-bost: helen.bushell@wales.nhs.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru, ewch i wefan y sefydliad: https://icc.gig.cymru/

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

 

Sut i wneud cais

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:

Tîm Penodiadau Cyhoeddus PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cyfarwyddwyr Anweithredol, cysylltwch â:

Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ffôn: 07711 819665

E-bost: helen.bushell@wales.nhs.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru, ewch i wefan y sefydliad: https://icc.gig.cymru/

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.