Swydd Wag -- Cadeirydd Pwyllgor Cyllido Cymru - Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Manylion y swydd

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Llundain/Cymru
Y tâl fydd £24000 y flwyddyn. Nid yw’r rôl yn bensiynadwy. Telir treuliau.
40
blwyddyn

Rôl y corff

Sefydlir Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel corff cyhoeddus anadrannol gan Ddeddf Seneddol. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol y Gronfa, fel y nodir yn ei Fframwaith Strategol, Pobl yn Arwain ac am lywodraethu’r Gronfa.

Dirprwyir penderfyniadau ariannu i bum pwyllgor ariannu (y DU, Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban), Swyddogion Gweithredol, ac ar adegau pwyllgorau arbenigol, gyda’r Bwrdd yn cadw goruchwyliaeth strategol ar gyfer cyflawni fframwaith strategol y Gronfa: Pobl yn Arwain, a chyfrifoldeb llywodraethu.

Yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban sy’n gyfrifol am bolisi Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys pennu cyfarwyddiadau polisi. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisi Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys pennu cyfarwyddiadau polisi.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Fframwaith Strategol y Gronfa Pobl yn Arwain a’i rhaglenni ar ein gwefan.

Disgrifiad o'r swydd

  • Cytuno ar gyfeiriad strategol y portffolio i ddarparu Pobl yn Arwain yng Nghymru ar y cyd â’r pwyllgor a’r tîm gweithredol.
  • Sicrhau bod y Bwrdd yn ymgysylltu ac yn ymwybodol o faterion a chyfleoedd allweddol sy’n effeithio ar waith y Gronfa yng Nghymru.
  • Dod â mewnwelediad a safbwynt i’r weithrediaeth er mwyn gwella  
  • effaith y Gronfa drwy ddulliau ariannu o’r radd flaenaf.
  • Sicrhau bod penderfyniadau rhaglenni a chyllid yn cyd-fynd â fframwaith atebolrwydd y Gronfa, a gynghorir gan y weithrediaeth.
  • Llunio a chynnal grŵp o aelodau pwyllgor amrywiol o ansawdd uchel sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth briodol o fywyd cymunedol a chyhoeddus ledled Cymru.
  • Sicrhau bod y pwyllgor yn gweithredu’n unigol ac ar y cyd i’r safonau a’r perfformiad uchaf.
  • Goruchwylio penderfyniadau ar geisiadau ariannu mawr yn uniongyrchol neu drwy bwyllgorau arbenigol.
  • Adolygu ac ystyried cyflwr a datblygiad portffolio Cymru.
  • Gweithredu fel llysgennad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ac, ar adegau, y DU.
  • Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am aelodau presennol pwyllgor Cymru ar ein gwefan yma

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Manyleb y person

Hanfodol

Bydd angen i bob ymgeisydd ddangos yn ei gais ei fod yn bodloni’r rhan fwyaf o’r meini prawf hanfodol canlynol i safon uchel:

  • Dealltwriaeth briodol o’r sector Cymunedol, Gwirfoddol a Mentrau Cymdeithasol yng Nghymru a’r gallu i ymgysylltu ag uwch randdeiliaid ynddo ynghyd ag uwch randdeiliaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
  • Profiad o gyllid elusennol a chymunedol.
  • Profiad helaeth o weithredu fel rhywun anweithredol, a’r gallu i weithredu fel Cadeirydd
  • Dealltwriaeth o reoli portffolios, ariannu penderfyniadau a goruchwylio ar lefel uwch.
  • Cyfathrebu o’r radd flaenaf a sgiliau rhyngbersonol gyda’r gallu i herio’n adeiladol.
  • Ymrwymiad i wella amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg a’r gofynion deddfwriaethol perthnasol.

 

Dymunol

  • Profiad o wneud penderfyniadau mewn portffolio ariannu ar raddfa debyg
  • Ymrwymiad i egwyddorion llywodraethu corfforaethol, cysondeb ac atebolrwydd mewn perthynas â’r cyrff cyhoeddus anadrannol.

Dyddiadau cyfweliadau

7 Rhagfyr 2020
11 Rhagfyr 2020

Dyddiad cau

01/11/20 23:00

Gwybodaeth ychwanegol

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch cais, cysylltwch ag Anders Egeland-Eriksen trwy e-bost yn anders.erikson@dcms.gov.uk.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.