Swydd Wag -- Penodi dau Aelod Annibynnol - Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Manylion y swydd

Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Mae prif swyddfa AaGIC yn Nhŷ Dysgu, Nantgarw, CF15 7QQ. Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd yn cynnal ei gyfarfodydd o bell yn unol â chyngor o ran iechyd y cyhoedd. Mae'r sefyllfa'n cael ei hadolygu'n rheolaidd. Pan fydd cyfarfodydd corfforol y Bwrdd yn cael eu hailgynnull, yn unol â chyngor o ran iechyd y cyhoedd, byddant yn cael eu cynnal yn bennaf yn Nhŷ Dysgu a hefyd mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru i adlewyrchu swyddogaethau cenedlaethol y sefydliad. Mae AaGIC yn cydnabod y gallai fod achosion lle mae angen gweithio o bell, a bydd yn gweithio'n rhagweithiol gyda’r Aelodau i ystyried ceisiadau a rhoi trefniadau ar waith fesul achos.
£9,360 y dydd, ynghyd â chostau teithio a threuliau rhesymol eraill
4
mis

Rôl y corff

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd ym mis Hydref 2019 a ddaeth, ochr yn ochr â Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd Cymru, yn unfed aelod ar ddeg o deulu GIG Cymru. 

Prif rôl AaGIC yw mynd ati'n strategol i ddatblygu gweithlu iechyd Cymru ar hyn o bryd ac ar gyfer y dyfodol. Mae ei swyddogaethau'n cynnwys: 

Gwybodaeth am y gweithlu – AaGIC yw'r ffynhonnell ganolog, gydnabyddedig ar gyfer gwybodaeth a gwybodaeth am weithlu iechyd Cymru;

Cynllunio'r gweithlu – mae AaGIC yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer cynllunio'r gweithlu, gan weithio gyda byrddau iechyd/ymddiriedolaethau a Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth trawsnewid y gweithlu er mwyn cyflawni modelau iechyd a chymdeithasol newydd o ddarparu gwasanaethau;

Comisiynu, cynllunio a darparu addysg – mae AaGIC yn defnyddio ei gyllid i sicrhau gwerth am arian ac i greu gweithlu sy'n adlewyrchu anghenion gofal iechyd yn y dyfodol;

Rheoli ansawdd – mae AaGIC yn rheoli ansawdd y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant, gan sicrhau ei bod yn bodloni'r safonau gofynnol ac y gwneir gwelliannau lle bo angen;

Cefnogi rheoleiddio – mae AaGIC yn chwarae rhan allweddol drwy gynrychioli Cymru wrth drafod â rheoleiddwyr, gan weithio o fewn y fframwaith polisi a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae AaGIC hefyd yn ymgymryd â rolau cymorth rheoleiddiol penodol, yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru;

Datblygu arweinyddiaeth – mae AaGIC yn sefydlu cyfeiriad strategol a darpariaeth datblygu arweinyddiaeth ar gyfer staff o fewn GIG Cymru ar bob lefel; 

Gyrfaoedd ac ehangu mynediad – Mae AaGIC yn darparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer gyrfaoedd iechyd a'r agenda ehangu mynediad, gan roi agenda barhaus ar waith i hyrwyddo gyrfaoedd iechyd;

Gwella'r gweithlu – mae AaGIC yn darparu rôl arweiniol strategol ar gyfer trawsnewid a gwella'r gweithlu, ac mae'n cyflawni rhaglen barhaus o fewn ei swyddogaethau i gyflawni'r rôl honno;

Cymorth proffesiynol ar gyfer y gweithlu a datblygu sefydliadol yn GIG Cymru – mae AaGIC yn cefnogi'r gweithlu proffesiynol a'r proffesiwn datblygu sefydliadol yng Nghymru. 

Disgrifiad o'r swydd

Dyma gyfle gwych i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i helpu i  greu dull strategol o ddatblygu gweithlu iechyd Cymru yn awr ac yn y dyfodol, gan feithrin dull gwirioneddol amlddisgyblaethol o ymdrin â’n gwasanaeth iechyd.

Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod cyfeiriad strategol AaGIC yn canolbwyntio ar Gymru Iachach ac am roi tystiolaeth o’r egwyddorion ar y cyd ac yn unigol. Disgwylir i'r Bwrdd hefyd gadw at saith egwyddor bywyd cyhoeddus Nolan

Rôl a chyfrifoldebau

Ar y cyd â'r Cadeirydd a'r Uwch Dîm Gweithredol, mae Aelodau Annibynnol y Bwrdd yn gyfrifol am: 

•    sefydlu a bwrw ymlaen â nodau ac amcanion strategol AaGIC yn gyson â'i diben cyffredinol ac o fewn y fframwaith polisi ac adnoddau a bennwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; 
•    sicrhau bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael gwybod am unrhyw newidiadau sy'n debygol o effeithio ar gyfeiriad strategol AaGIC neu ar gyflawni ei dargedau, ac am y camau y mae eu hangen i ddelio â newidiadau o'r fath;  
•    sicrhau bod y corff yn cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol mewn perthynas â defnyddio arian cyhoeddus; ei fod yn gweithredu o fewn terfynau ei awdurdod statudol ac unrhyw awdurdod dirprwyedig y cytunir ag ef â Llywodraeth Cymru, ac yn unol ag unrhyw amodau eraill sy'n ymwneud ag arian cyhoeddus; a'i fod, wrth wneud penderfyniadau, yn cymryd i ystyriaeth ganllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru; 
•    sicrhau eu bod yn cael, yn adolygu, ac yn craffu'n rheolaidd ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd yr wybodaeth ariannol ac ansawdd y gweithredu yn AaGIC; eu bod yn cael gwybod yn amserol am unrhyw bryderon am weithgareddau AaGIC; a'u b od, lle bo'n berthnasol, yn rhoi sicrwydd cadarnhaol i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bod camau unioni priodol wedi'u cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon o'r fath;  
•    dangos safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser, gan gynnwys trwy helpu Pwyllgorau priodol i helpu'r Bwrdd i dderbyn sicrwydd ac i ymdrin â risgiau ariannol a risgiau eraill; 
•    sicrhau diwylliant cadarnhaol a hyrwyddo gwerthoedd a safonau ymddygiad i'r sefydliad a'r staff; 
•    penodi’r Prif Swyddog Gweithredol i'r sefydliad;
•    Penodi’r Aelodau Gweithredol i'r Bwrdd. 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Meini Prawf Hanfodol

I gael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau a’r sgiliau priodol a phrofiad mewn un o'r meysydd canlynol i fodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer yr apwyntiad:
•    profiad o weithio yn y maes cyllid naill ai yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat
•    profiad o weithio yn y sector digidol neu’r sector busnes 
•    cefndir mewn iechyd neu ofal cymdeithasol a dealltwriaeth o flaenoriaethau addysg a hyfforddiant AaGIC

Yn ogystal, dylech fod yn meddu ar y canlynol: 
•    Dealltwriaeth o'r materion a'r blaenoriaethau sy’n bwysig i Addysg a Gwella Iechyd Cymru a'r gallu i ddeall rôl a gwaith Byrddau; 
•    Y gallu i ddwyn eraill i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
•    Y gallu i feddwl yn strategol ac i arfer barn gadarn ar ystod o faterion cymhleth a sensitif;
•    Y gallu i ddadansoddi a dehongli gwybodaeth fanwl, er enghraifft cynigion polisi manwl neu wybodaeth ystadegol;
•    Y gallu i ddangos dealltwriaeth ac ymrwymiad cadarn i werthoedd Un Gwasanaeth Cyhoeddus i Gymru; 
•    Sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i weithio mewn partneriaeth â staff, cynrychiolwyr staff a rhanddeiliaid;
•    Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a hyrwyddo arferion cynhwysol.

Dyddiadau cyfweliadau

6 Rhagfyr 2021
6 Rhagfyr 2021

Dyddiad cau

01/11/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl AaGIC a rôl yr Aelod Annibynnol, cysylltwch â Chris Jones, Cadeirydd AaGIC: 
E-bost: Chris.D.V.Jones2@wales.nhs.uk

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru 
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.