Swydd Wag -- Cadeirydd - Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru)

Manylion y swydd

Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru)
Gall y Cadeirydd weithio unrhyw le ond cynhelir cyfarfodydd ledled Cymru ac ar lein.
£256 y dydd, gyda chostau teithio ac eraill o fewn rheswm. 
4
mis

Rôl y corff

Cefndir

 

Mae amrywiaeth eang o randdeiliaid o bob rhan o’r sector moroedd ac arfordiroedd yn perthyn i Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru. Maen nhw wedi ymrwymo i gydweithio i wireddu’n gweledigaeth fel y’i disgrifir yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar gyfer moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol.

Mae’r Bartneriaeth yn esiampl o sut y gall ymgorffori pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol helpu i daclo’r newid yn yr hinsawdd a chryfhau amgylchedd y môr i wrthsefyll ei effeithiau.  Mae PMaA Cymru yn rhoi sylw mawr ar fod yn allblyg a meithrin cysylltiadau a rhwydweithiau er mwyn i grwpiau buddiant allu cyd-ddylunio a chydweithio â’i gilydd.   

Yn ogystal â thrafod a chynnig sylw ac adborth ar bolisi morol Cymru, mae PMaA Cymru’n gweithio i gyflawni tri ‘cham galluogi’ y mae gofyn eu cymryd i ni allu gwireddu’n gweledigaeth ar gyfer moroedd Cymru:

 

  • Datblygu llythrennedd cefnforol ym mhob rhan o gymdeithas. Trwy wneud pobl yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd ein moroedd a’n harfordiroedd, anogir gweithredu ar draws meysydd polisi a fframweithiau gweinyddol eraill fel Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus.

  • Bydd buddsoddi cynaliadwy tymor hir a datblygu ffynonellau cyllid cyhoeddus a phreifat mwy tymor hir yn hanfodol i allu cyflawni’r prif amcanion

  • Cynyddu capasiti yn enwedig yn lleol, er mwyn gallu ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon â chymunedau i nodi cyfleoedd a heriau lleol ac i weithredu.

 

Mae ei waith ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Datblygu strategaeth ar lythrennedd cefnforol i Gymru a chamau i’w cymryd i gysylltu pobl â’i gilydd a gweithio i bwysleisio pwysigrwydd amgylchedd y môr a’n heffeithiau arno.

  • Dylanwadu ar gynnwys Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru, yn enwedig o ran datblygu elfen newydd i gynyddu capasiti fydd yn meithrin cysylltiadau mwy tymor hir a meithrin capasiti cymunedau arfordirol i nodi a chymryd camau lleol.

  • Ystyried mecanweithiau cyllido cyfun ar gyfer amgylchedd morol Cymru.

  • Helpu i roi Archwiliad dwfn bioamrywiaeth 30x30 ar waith i gynyddu capasiti, datblygu sgiliau, newid ymddygiad a chodi ymwybyddiaeth am yr amgylchedd morol.

 

Ym mis Hydref 2022, cafodd enw Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol ei newid i Bartneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru) a phenderfynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd wneud y penodiad newydd hwn i adlewyrchu’r ffocws newydd ar gydgynhyrchu, cydweithio a phartneriaeth wrth weithio.  Cyhoeddir y Cylch Gorchwyl a’n Cyd-Naratif yma: Cylch gorchwyl: Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru) | LLYW.CYMRU

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a chyfrifoldebau

 

Prif swyddogaeth y Cadeirydd yw arwain Partneriaeth Moroedd ac Arfordiroedd Cymru (PMaA Cymru), gan hyrwyddo pwysigrwydd moroedd ac arfordiroedd Cymru. 

 

Gweler Atodiad B isod am rôl a chyfrifoldebau PMaA Cymru. Mae’r Bartneriaeth yn gyfrifol am gadw golwg ar weithredu ledled Llywodraeth Cymru a Chymru sy’n gysylltiedig ag arfordiroedd a moroedd ac un o rolau’r Cadeirydd yw cynnull aelodau i gydweithio â thimau Is-adran y Môr a Physgodfeydd ar unrhyw feysydd polisi newydd ac sy’n ymddangos.

 

Bydd y Cadeirydd yn arwain y Bartneriaeth hefyd i gyflawni tair thema sef Llythrennedd Cefnforol, Buddsoddi Cynaliadwy a Chynyddu Capasiti, gan ddefnyddio’r fframweithiau presennol yn ogystal â dulliau newydd ac arloesol, a meithrin cysylltiadau a rhwydweithiau er mwyn i grwpiau buddiant allu cyd-ddylunio a chydweithredu â’i gilydd.

 

Fodd bynnag, mae’r rôl yn golygu mwy na chadeirio grŵp o randdeiliaid yn unig. Mae’n ymwneud â bod yn llysgennad hyderus ac allblyg ac yn eiriolydd brwd dros ein harfordiroedd a’n moroedd ar ran y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

Bydd y Cadeirydd hefyd yn cadeirio grwpiau gorchwyl a gorffen strategol o randdeiliaid.  Yn benodol y Bartneriaeth Moroedd Glân, Grŵp Llywio Parthau Cadwraeth Morol, a grwpiau ad hoc eraill er enghraifft Cynllunio Morol, ac yn sefydlu cysylltiadau â rhanddeiliad ar draws portffolios Llywodraeth Cymru, er enghraifft, gyda'r Grŵp Cynghori Gweinidogol Cymru ar Bysgodfeydd a grŵp Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth 30x30.

 

Bydd y Cadeirydd yn cyfarfod â'r Gweinidog Newid Hinsawdd ddwywaith y flwyddyn i adrodd ar yr hyn y mae’r grŵp wedi’i wneud o ran y tair thema ac argymhellion perthnasol Bioamrywiaeth 30x30.

 

Bydd disgwyl hefyd i’r Cadeirydd gydweithio'n agos yn y dyfodol â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Cefnogir y Cadeirydd gan yr Is-adran Morol a Physgodfeydd, sy'n darparu'r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Bartneriaeth.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Manyleb y Person

 

Bydd y rôl yn gofyn am brofiad o weithio gydag amryw o grwpiau rhanddeiliaid ac o wneud gwaith hwyluso a darganfod a bydd gofyn am ddealltwriaeth ymarferol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir, Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a fframweithiau deddfwriaethol perthnasol.

 

Dylai'r Cadeirydd fod yn eiriolwr ac yn hyrwyddwr brwd dros yr amgylchedd morol gan ddeall ei bwysigrwydd i gymunedau.  Dylai'r Cadeirydd feddu ar brofiad o weithio gyda grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid yng Nghymru sydd â diddordeb yn y maes hwn.

 

Dylai'r Cadeirydd, gydag ymrwymiad ac angerdd, fynd i'r afael â heriau'r argyfyngau hinsawdd a natur a mynd ar drywydd a hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol gan ganolbwyntio ar yr amgylchedd morol.

 

I gael eich ystyried ar gyfer y penodiad, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol isod.

 

 

Meini prawf hanfodol

 

Rhaid i’r Cadeirydd allu dangos ei fod

  • Yn gallu bod yn eiriolydd ac yn hyrwyddwr brwd dros yr amgylchedd morol a bydd ganddo brofiad o weithio gyda rhanddeiliaid a chymunedau yng Nghymru yn y maes hwn.

  • Yn meddu ar y gallu i weithredu fel cadeirydd effeithiol gyda phrofiad o gadeirio uwch bwyllgor neu grŵp sy’n cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid allanol

  • Yn arwain mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol a meddu ar allu amlwg i ennyn ffydd a hyder amrywiaeth eang o randdeiliaid.

  • Yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth o’r sectorau gwleidyddol a chyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir, Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

  • Yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth gadarn o sut i ymgysylltu â’r gymuned o bersbectif amgylchedd y môr, yn unol â phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol | LLYW.CYMRU

  • Wedi ymrwymo i ddeall a hyrwyddo’r materion sydd ynghlwm wrth gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

  • Yn dangos ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan), fel llysgennad dros Lywodraeth Cymru.

 

Dyddiadau cyfweliadau

17 Ebrill 2023
19 Ebrill 2023

Dyddiad cau

07/03/23 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.