Swydd Wag -- Aelod Annibynnol (Cyllid) - Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Manylion y swydd
Rôl y corff
Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ar 1 Hydref 2009 fel rhan o raglen ddiwygio Cymru'n Un Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Y Bwrdd Iechyd yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae'n gyfrifol am wella iechyd a lles poblogaeth o dros 670,000 o bobl ar draws chwe sir Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam). Mae hyn yn cynnwys atal afiechydon, yn ogystal â thrin salwch a darparu gwasanaethau gofal iechyd rhagorol.
Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu gwasanaethau iechyd cychwynnol, cymunedol a meddyliol yn ogystal â gwasanaethau ysbyty acíwt. Mae'n gweithredu tri phrif ysbyty (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam), ynghyd â rhwydwaith o ysbytai cymunedol, canolfannau iechyd, clinigau, unedau iechyd meddwl a lleoliadau timau cymunedol, ac mae hefyd yn darparu iechyd gwasanaethau iechyd a gofal yng Ngharchar HMP Berwyn, Wrecsam. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cyd-drefnu gwaith 98 practis meddyg teulu, a gwasanaethau'r GIG a ddarperir gan 89 practis deintyddol, 74 practis optometreg ac optegwyr a 152 o fferyllfeydd yng Ngogledd Cymru.
Cafodd y Bwrdd Iechyd ei roi o dan Fesurau Arbennig yn 2015, a gostyngwyd y statws ymyrraeth yn ddiweddar i statws Ymyrraeth a Dargedwyd, penderfyniad sy'n adlewyrchu'r cynnydd a wnaed gennym hyd yma. Mae hyder y byddwn yn parhau ar y daith hon o welliant. Ym mis Ionawr 2021 cymrodd Jo Whitehead yr awenau fel Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd, ac ynghyd â'r Cadeirydd, bydd yn arwain y Bwrdd wrth i ni wynebu sawl her, gan gynnwys ein hymateb i Covid-19 a'i effaith, a gwaith i adfer ein llwybrau gofal wedi’i gynllunio ac i ddechrau mynd i'r afael â rhestrau aros. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar wasanaethau gofal cychwynnol a chymunedol, gwella gofal heb ei drefnu, gofal brys a gwasanaethau iechyd meddwl.
Rôl y Bwrdd
Rôl y Bwrdd yw:
- Llunio strategaeth ar gyfer y sefydliad o fewn polisïau a blaenoriaethau cyffredinol Llywodraeth Cymru, gan ymateb i anghenion iechyd y boblogaeth leol.
- Sicrhau atebolrwydd trwy ddwyn y sefydliad i gyfrif am gyflawni'r strategaeth a thrwy geisio sicrwydd bod y systemau rheoli yn gadarn ac yn ddibynadwy.
- Llunio diwylliant cadarnhaol i'r Bwrdd a'r sefydliad.
- Cynnal safonau uchel o lywodraethu corfforaethol.
- Sicrhau stiwardiaeth ariannol effeithiol.
Mae'r Bwrdd yn gweithredu fel corff gwneud penderfyniadau corfforaethol. Mae'n cyfarfod bob yn ail fis ac mae'n cynnwys y Cadeirydd, deg Aelod Annibynnol, tri Aelod Cyswllt, y Prif Weithredwr ac wyth Cyfarwyddwr Gweithredol. Mae Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Aelodau Annibynnol yn aelodau llawn a chyfartal sy'n rhannu cyfrifoldeb corfforaethol am holl benderfyniadau'r Bwrdd. Mae Ysgrifennydd y Bwrdd yn bresennol fel prif gynghorydd ar bob agwedd ar lywodraethu o fewn y Bwrdd Iechyd.
Ar hyn o bryd mae strwythur pwyllgorau'r Bwrdd yn cynnwys wyth pwyllgor a dau is-bwyllgor, er bod hyn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Y rhain yw:
- Pwyllgor Archwilio
- Pwyllgor Tâl a Thelerau Gwasanaeth
- Pwyllgor Deddf Iechyd Meddwl, gydag Is-bwyllgor Rhyddhau Deddf Iechyd Meddwl
- Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad
- Pwyllgor Gwybodaeth a Llywodraethu Digidol
- Pwyllgor Ansawdd, Diogelwch a Phrofiad
- Pwyllgor Strategaeth, Partneriaethau ac Iechyd y Boblogaeth
- Pwyllgor Cronfeydd Elusennol, gydag Is-bwyllgor Grŵp Cynghori ar Gronfeydd Elusennol
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Aelodau Annibynnol ymhlith pethau eraill yn:
- Cyfrannu at waith y Bwrdd, yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad a'ch gwybodaeth yn y gorffennol, a'ch gallu i sefyll yn ôl o'r rheolaeth weithredol o ddydd i ddydd.
- Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol i sicrhau proses benderfynu gydgysylltiedig, gadarn a thryloyw gan y Bwrdd.
- Ymhen amser, yn dod i ddeall y busnes yn llawn trwy gyfranogiad gweithredol i alluogi perfformiad effeithiol y sefydliad.
- Gweithio'n agos gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector eraill a sicrhau bod barn cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn chwarae rhan lawn mewn helpu i lunio, datblygu a gwella gwasanaethau.
- Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth yn feirniadol a chyfrannu at wneud penderfyniadau cadarn, gan sicrhau bod penderfyniadau yn agored a thryloyw.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
I gael eich ystyried, mae’n rhaid i chi arddangos bod gennych y rhinweddau, sgiliau a phrofiad i gwrdd â’r holl feini prawf hanfodol ar gyfer penodiad.
Gwybodaeth a Phrofiad
- Dealltwriaeth o faterion a blaenoriaethau Iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r gallu i gyfrannu’n effeithiol fel rhan o Fwrdd unedol;
- Y gallu i ddarparu persbectif gwybodus, diduedd a chytbwys ar ystod o faterion sensitif a chymhleth;
- Gwybodaeth gadarn a dealltwriaeth o brosesau llywodraethu corfforaethol.;
- Gwybodaeth o ac empathi gyd materion a blaenoriaethau’r gymuned leol; a
- Dealltwriaeth o Egwyddorion Nolan
Gan mai ni yw'r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, gyda chyllideb o £ 1.8 biliwn mae gennym ddiddordeb arbennig mewn derbyn ceisiadau gan y rhai sydd â phrofiad cyllid ar lefel uwch weithredwr / bwrdd. Rydym yn chwilio am Aelod Annibynnol sydd â'r gallu i gymhwyso gwybodaeth a sgiliau ariannol yn yr amgylchedd strategol newydd hwn.
Byddai hanes o oruchwylio ariannol mewn sefydliad cymhleth gydag arddangos gwerth am arian a sgiliau dadansoddi effaith o fudd. Yn ogystal, byddai aelodaeth o un o'r cyrff canlynol yn ddymunol:
(a) Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr;
(b) Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban;
c) Cymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig;
(d) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth;
(e) Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yn Iwerddon;
(f) Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli.
Byddem yn disgwyl i ymgeiswyr feddu ar, neu allu datblygu dealltwriaeth o Ddeddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.
Rhinweddau a Sgiliau Personol
Ymrwymiad i werthoedd y Bwrdd Iechyd sy’n cynnwys arddangos y gallu i roi cleifion yn gyntaf, y gallu i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr a rhanddeiliaid a’r gallu i werthfawrogi a pharchu eraill, gan gyfathrebu’n agored ac yn onest.
Dymunol
- Y gallu i siarad Cymraeg.
- Profiad o gadeirio pwyllgorau.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Cysylltiadau:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddewis, cysylltwch â:
Tîm Apwyntiadau Cyhoeddus
Uned Cyrff Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
Am ragor o wybodaeth am rôl Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr a rôl yr Aelod Annibynnol (Cyllid), cysylltwch â’r Cadeirydd Mark Polin, neu Louise Brereton, Ysgrifennydd y Bwrdd.
E-bost: mark.polin@wales.nhs.uk,neu louise.brereton@wales.nhs.uk
Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch i ymgeisio am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Apwyntiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.