Swydd Wag -- Penodi Aelod Annibynnol - Digidol

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd Iechyd ym Mhencadlys y Bwrdd Iechyd, Ysbyty Sant Cadog, Caerllion fel arfer ond gellir eu cynnal mewn lleoliadau ledled ardal y Bwrdd Iechyd.
£15,936 y flwyddyn, ynghyd â chostau teithio a chostau eraill, o fewn rheswm.
4
mis

Rôl y corff

Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ym mis Hydref 2009 ac fe gafodd statws ‘Prifysgo’l ym mis Gorffennaf 2013. Rydym yn gwasanaethu poblogaeth amcangyfrifedig o dros 639,000, sef tua 21% o gyfanswm poblogaeth Cymru.

Gyda chyllideb o £1.5 biliwn rydym yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i bobl ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen ac i eraill y tu allan i'n ffin ddaearyddol.

Disgrifiad o'r swydd

  • Dealltwriaeth o ddata a thechnoleg ddigidol ar lefel strategol ynghyd â’r cyd-destun gweithredol, yn ddelfrydol ar raddfa 'menter’;
  • Dealltwriaeth o dueddiadau digidol, technolegau sy'n datblygu, a chyfleoedd a heriau cysylltiedig, gan gynnwys seiberwydnwch;
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd rhannu data, preifatrwydd a diogelwch (llywodraethu gwybodaeth) a’r materion cysylltiedig o ran rheoli risgiau;
  • Dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio data a thechnoleg ddigidol i ysgogi gwella gwasanaethau a gwella canlyniadau iechyd a lles;
  • Y gallu i gymhwyso'r ddealltwriaeth hon i gryfhau llywodraethiant, sicrwydd a strategaeth ar lefel bwrdd.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Gwybodaeth a Phrofiad

  • Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd.

  • Y gallu i ddwyn cydweithwyr gweithredol a’r sefydliad yn ehangach i gyfrif am eu perfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

  • Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;

  • Dealltwriaeth o lwyfannau digidol, systemau a gwasanaethau data a thechnolegol, a heriau a chyfleoedd cysylltiedig;

  • Dealltwriaeth o ofynion seiberddiogelwch a seiberwydnwch a rheoli risgiau;

  • Dealltwriaeth o ofynion llywodraethu data a gwybodaeth, a’r materion rheoli risgiau sy'n gysylltiedig â hyn

Dyddiadau cyfweliadau

11 Ionawr 2022
11 Ionawr 2022

Dyddiad cau

09/11/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus / yr Uned Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

Am ragor o wybodaeth am rôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a rôl yr Aelod Annibynnol cysylltwch ag:

Ann Lloyd, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar 01633 435957  neu drwy e-bost yn ann.lloyd@wales.nhs.uk

Neu

Richard Howells, Ysgrifennydd Dros Dro y Bwrdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar 01633435959 neu drwy e-bost yn abb.boardsecretary@wales.nhs.uk

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.   

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.