Swydd Wag -- Penodi Comisiynydd y Gymraeg
Manylion y swydd
Telir cyflog o ryw £95,000. Caiff treth ac yswiriant gwladol eu tynnu o'r gyflog a chyfrennir at bensiwn.
Rôl y corff
Cefndir
Roedd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ("y Mesur") yn cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru, yn creu system newydd i reoleiddio safonau'r Gymraeg, ac yn creu rôl Comisiynydd y Gymraeg ("y Comisiynydd"). Mae’r Comisiynydd yn cael ei benodi gan Brif Weinidog Cymru.
Saith mlynedd yw hyd swydd y Comisiynydd ac nid oes modd ymestyn y cyfnod. Bydd tymor y Comisiynydd presennol yn dod i ben ar 31 Mawrth 2019. Mae Llywodraeth Cymru am benodi Comisiynydd newydd yn yr hydref i sicrhau digon o amser ar gyfer proses drosglwyddo lyfn.
Bydd gan y Comisiynydd swyddfa o ryw 45 aelod o staff i sicrhau y cyflawnir ei swyddogaethau.
Cyd-destun y penodiad
Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth hirdymor, uchelgeisiol ar gyfer y Gymraeg, sef Cymraeg 2050. Mae'r strategaeth yn amlinellu’r uchelgais i gyrraedd y miliwn o ran nifer ein siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a'r mathau o ymyraethau a chamau y mae angen i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill eu cymryd er mwyn cyflawni'r uchelgais hwn. Mae’n glir, felly, bod angen dod o hyd i'r cydbwysedd iawn rhwng sicrhau twf yn nifer y siaradwyr Cymraeg a rheoleiddio. Mae’r uchelgais yn bellgyrhaeddol a bydd angen bod yn ddisgybledig wrth wario adnoddau a chyllid cyhoeddus er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf.
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, i'w gweld yma:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bwriad i ddwyn ymlaen ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Yn 2017, bu’n ymgynghori ar Bapur Gwyn, Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg. Roedd y Papur Gwyn yn cynnwys cynigion y Llywodraeth i gael gwared â swydd y Comisiynydd a sefydlu Comisiwn y Gymraeg ("y Comisiwn") yn ei lle. Y bwriad yw i’r Comisiwn fod â chylch gwaith ehangach a mwy o adnoddau nag sydd gan swydd bresennol y Comisiynydd, ac y bydd mwyafrif yr adnoddau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r iaith yn trosglwyddo i'r Comisiwn. Y nod yw symud tuag at Gomisiwn a fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a'r defnydd a wneir o'r iaith ym mhob agwedd ar ein bywydau cyhoeddus a phreifat.
Mae'r Papur Gwyn, Taro'r cydbwysedd iawn, i'w weld yma:
https://beta.llyw.cymru/bil-y-gymraeg-papur-gwyn
Mae'r dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad i'w weld yma:
https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/Strikingtherightbalance/?skip=1&lang=cy
Os cymeradwyir Bil newydd ar gyfer y Gymraeg ac y caiff ei wneud yn Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, nid ydym yn rhagweld y câi'r Comisiwn newydd ei sefydlu cyn 2021/2022. Rydym yn disgwyl, felly, y bydd gan y Comisiynydd a benodir o dan y weithdrefn hon rôl hollbwysig wrth helpu i lywio'r cynlluniau ar gyfer sefydlu'r corff newydd ac wrth reoli'r broses drosglwyddo rhwng y trefniadau presennol a'r trefniadau newydd, gan ddelio â gwaith bob dydd y swydd ar yr un pryd. Mae Mesur presennol y Gymraeg yn rhoi pwerau i'r Comisiynydd hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r iaith ac rydym yn disgwyl gweld symud yn fuan tuag at gefnogi amcanion uchelgeisiol Cymraeg 2050, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Ar 5 Mehefin 2018, gwnaeth Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Ddatganiad i Aelodau'r Cynulliad yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Roedd y datganiad yn cadarnhau na fydd y Llywodraeth yn cyflwyno mwy o safonau ar gyfer sectorau eraill am y tro ac roedd yn egluro gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer Comisiwn newydd ar gyfer y Gymraeg. Mae'r datganiad llawn i'w weld yma:
http://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/4987#A43886
Disgrifiad o'r swydd
Prif feysydd cyfrifoldeb:
(i) Hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg
(ii) Gweithio tuag at sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg a bod unigolion yng Nghymru yn gallu byw eu bywydau drwy'r Gymraeg os ydynt yn dymuno
(iii) Hyrwyddo arfer gorau a chynnig cymorth i gyrff i brif-ffrydio'r Gymraeg wrth ddatblygu polisi, gyda'r nod o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith. Bydd hyn yn golygu cydweithio'n agos â'r sectorau cyhoeddus a phreifat, a'r trydydd sector
(iv) Bod yn gyfrifol am reoleiddio system safonau'r Gymraeg. Mae'n ofynnol i 120 o gyrff naill ai gydymffurfio â'r safonau ar hyn o bryd neu bydd yn ofynnol iddynt wneud hynny'n fuan. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys:
- monitro perfformiad cyrff yn unol â'r dyletswyddau a osodwyd arnynt ac adolygu hysbysiadau cydymffurfio yn rheolaidd, gan eu hamrywio a'u dirymu fel y bo'n briodol
- cyhoeddi codau ymarfer er mwyn rhoi arweiniad ymarferol i'r cyrff ynghylch gofynion y safonau
- delio â cheisiadau i'r Comisiynydd benderfynu p'un a yw'r gofyniad i gydymffurfio â'r safonau perthnasol yn afresymol neu'n anghymesur
- cynnal gweithdrefn glir ar gyfer ymchwilio i gwynion am achosion lle na chydymffurfiwyd â'r safonau
- cyhoeddi hysbysiadau penderfynu yn dilyn ymchwiliadau i gwynion am achosion lle na chydymffurfiwyd â'r safonau perthnasol, gorfodi cynlluniau gweithredu y cytunwyd arnynt neu gosbau sifil
- delio ag achwynwyr, darparwyr gwasanaethau, Tribiwnlys y Gymraeg ac unrhyw bartïon eraill sy'n rhan o weithdrefn apelio
- cynnal ymchwiliadau safonau pan fo angen er mwyn penderfynu pa safonau, os o gwbl, y dylid eu gosod ar unigolion neu gategorïau o unigolion a rhoi adroddiad i Weinidogion Cymru ar ganlyniad yr ymchwiliadau hynny
- creu a chynnal cofrestr o gamau gorfodi yn nodi manylion pob ymchwiliad, canlyniadau’r ymchwiliadau ac unrhyw apeliadau i Dribiwnlys y Gymraeg
(v) Yn dilyn cais gan unigolyn, ymchwilio i achosion honedig o geisio ymyrryd â rhyddid siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith gyda'i gilydd
(vi) Adolygu'n rheolaidd ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y gyfraith o ran y Gymraeg a chynghori Gweinidogion Cymru ynghylch unrhyw newidiadau a allai fod yn ofynnol
(vii) Cydweithio ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac ombwdsmyn a chomisiynwyr eraill fel y bo'n briodol
(viii) Cyfrannu at y broses o benodi Panel Cynghori ac ymgynghori â'r Panel wrth gyflawni ei ddyletswyddau
(ix) Llunio adroddiad bob pum mlynedd yn canolbwyntio ar sefyllfa'r Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw. Rhaid gosod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
(x) Llunio adroddiad blynyddol yn cynnwys, ymhlith elfennau eraill, grynodeb o'r camau a gymerwyd wrth gyflawni swyddogaethau'r Comisiynydd a'i gynigion ar gyfer rhaglen waith y flwyddyn ganlynol. Rhaid gosod copi o'r adroddiad blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
(xi) Comisiynu a gwneud gwaith ymchwil i sefyllfa'r Gymraeg
(xii) Chwarae rôl weithredol o fewn y rhwydwaith rhyngwladol o gomisiynwyr iaith, a rhannu a gweithredu arferion gorau gwledydd eraill lle bo'n briodol
(xiii) Gwneud argymhellion neu sylwadau, neu roi cyngor, i unrhyw unigolyn gan gynnwys Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw un o'i swyddogaethau
(xiv) Arwain a rheoli Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg (y disgwylir iddi gynnwys tua 45 aelod o staff) a phenodi Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg
(xv) Gweithredu fel Swyddog Cyfrifyddu a bod yn gyfrifol am sicrhau bod Swyddfa'r Comisiynydd yn cael ei rheoli'n effeithlon yn ariannol, a pharatoi cyfrifon gwariant ac amcangyfrifon o incwm a chostau yn ôl y gofyn. Bydd y Comisiynydd yn gyfrifol am gyllideb flynyddol £3miliwn
(xvi) Creu a chynnal cofrestr o fuddiannau ar gyfer pob deiliad swydd perthnasol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth allweddol ganlynol:
- Gallu profedig i arwain
- Profiad o gynllunio a datblygu sefydliadau, a rheoli proses newid gymhleth o fewn sefydliad
- Gwybodaeth am faterion polisi yn ymwneud â'r Gymraeg; dealltwriaeth o'r materion sy'n wynebu siaradwyr Cymraeg a'r rheini sy'n dysgu Cymraeg; ac ymrwymiad i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg
- Sgiliau rhyngbersonol gwych yn y Gymraeg a'r Saesneg a'r gallu i weithio'n effeithiol drwy'r Gymraeg mewn bob math o sefyllfaoedd, gan gynnwys gweithio gydag amrywiaeth eang o bobl, ee Gweinidogion, uwch gynrychiolwyr o gyrff preifat a chyhoeddus, aelodau o'r cyhoedd a'r cyfryngau
- Hygrededd ar lefel a fydd yn ennyn hyder a pharch Llywodraeth Cymru, Aelodau'r Cynulliad, llywodraeth leol, sefydliadau'r sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector a'r cyhoedd
- Gallu profedig i weithio'n effeithiol mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a chyrff allanol i ddatrys materion anodd yn foddhaol
- Profiad helaeth o reoli cyllid a phobl ac o lywodraethiant
- Dealltwriaeth glir o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb ac o Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad iddynt.
- Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
- Hyd y swydd
Penodiad saith mlynedd fydd hwn, ac ni fydd modd ymestyn y cyfnod. Bydd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2019 (ond dylid nodi cyd-destun y penodiad uchod ac effaith bosibl deddfwriaeth newydd).
- Ymrwymiad Amser
37 awr yr wythnos
Pwy sy’n gymwys i ymgeisio
Os bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn perthyn i un o’r categorïau isod, bydd gofyn iddo ildio ei swydd cyn cael ei benodi'n Gomisiynydd y Gymraeg:
- Aelod Seneddol;
- Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
- aelod o gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru;
- aelod o Dribiwnlys y Gymraeg;
- aelod o Banel Cynghori'r Comisiynydd;
- unigolyn a gyflogir gan unigolyn a nodir yn Atodlen 5 neu Atodlen 7 y Mesur, neu sy'n cynghori unigolyn o'r fath. I gael rhagor o fanylion, gweler y Mesur: http://www.legislation.gov.uk/cy/mwa/2011/1/contents/enacted
- aelod o staff y Comisiynydd.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ddatgan p'un a ydynt yn ymwybodol o unrhyw beth yn eu bywyd preifat neu broffesiynol a fyddai'n codi embaras iddyn nhw, i Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, neu i Lywodraeth Cymru pe bai'n dod yn hysbys ar ôl eu penodi.
- Gwrthdaro Buddiannau
Gofynnir ichi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai wrthdaro â rôl a chyfrifoldebau Comisiynydd y Gymraeg, neu a allai ymddangos fel pe baent yn gwrthdaro, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes a safleoedd o awdurdod y tu hwnt i rôl y Comisiynydd.
Caiff unrhyw wrthdaro buddiannau ei drafod yn y cyfweliad. Os cewch eich penodi, bydd gofyn ichi hefyd ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd.
- Safonau mewn bywyd cyhoeddus
Bydd disgwyl ichi ddilyn safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol a phersonol. Gofynnir i bob ymgeisydd llwyddiannus gytuno â Chod Ymddygiad Aelodau Bwrdd Cyrff Cyhoeddus. Mae'r ddogfen hon i'w gweld yn:
http://www.bl.uk/aboutus/governance/blboard/Board%20Code%20of%20Practice%202011.pdf.
- Ymholiadau:
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Comisiynydd y Gymraeg, cysylltwch ag Alan Jones a:
Ffôn: 03000 256333
E-bost: alan.jones4@llyw.cymru
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, anfonwch e-bost i penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.