Swydd Wag -- Penodi Aelod Annibynnol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Baglan, Port Talbot
£15,936 y flwyddyn, ynghyd â chostau teithio a chostau eraill o fewn terfynau rhesymol.
4
mis

Rôl y corff

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (a elwid gynt yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg) ei greu ar 1 Ebrill 2019, ar ôl i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o BIP Abertawe Bro Morgannwg i’r bwrdd newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.   

Mae ganddo boblogaeth o tua 390,000 o bobl a chyllideb flynyddol o dros £1 biliwn. Mae'n cyflogi tua 12,500 o staff, a 70% ohonynt yn ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion.  Mae'n cynnig gofal integredig i gleifion, ac yn darparu gwasanaethau gofal trydyddol, acíwt, canolraddol, iechyd meddwl, cymunedol a sylfaenol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.   

At hynny, rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau rhanbarthol ac is-ranbarthol, gan gynnwys llawdriniaeth ar y galon, a llawdriniaeth blastig ac ar gyfer llosgiadau i gleifion yn Ne-orllewin Lloegr, gwasanaethau iechyd meddwl fforensig i Dde Cymru a gwasanaethau anableddau dysgu o Abertawe i Gaerdydd, yn ogystal ag ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.  

Darperir Gwasanaethau Gofal Sylfaenol drwy ymarferwyr cyffredinol, optegwyr, fferyllwyr cymunedol a deintyddion sydd i gyd yn gweithredu fel contractwyr annibynnol.  Mae'r Bwrdd yn rheoli Gwasanaethau Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau a Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar gyfer Carchar Abertawe.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd angen i chi allu dangos y canlynol:

  • Y gallu i arwain ac ysbrydoli, edrych i'r dyfodol a nodi'r materion allweddol ar gyfer y sefydliad;
  • Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill;
  • Y gallu i ddadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno, a'r gallu i feithrin cysylltiad â phobl ar bob lefel;
  • Uniondeb personol cryf a gwerthoedd sy'n cyd-fynd â rhai Bae Abertawe;
  • Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol
  • Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Bydd yr Aelod Annibynnol yn arddangos y rhinweddau canlynol:

  • Profiad perthnasol a diweddar mewn maes gwasanaethau cyfreithiol;
  • Profiad o gyfrannu'n effeithiol at fwrdd a dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i gefnogi datblygiad bwrdd unedol mewn sefydliad mawr a chymhleth;
  • Profiad o oruchwylio'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau gwasanaeth yn effeithiol a dealltwriaeth o bryd a sut i ofyn am fwy o fanylion heb golli persbectif aelod annibynnol (anweithredol;

Dyddiadau cyfweliadau

15 Chwefror 2022
17 Chwefror 2022

Dyddiad cau

20/12/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus / Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol,  cysylltwch ag Emma Woollett, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ffôn: (01639) 683379,   E-bost: Emma.Woollett@wales.nhs.uk

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, efallai yr hoffech droi at wefan y Bwrdd Iechyd:  https://bipba.gig.cymru/

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.