Swydd Wag -- Aelodau - Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu

Manylion y swydd

Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu
Cynhelir y cyfarfodydd fel arfer yn Swyddfa Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, rhwng 10am a 4pm, â thoriad o awr am ginio. Mae’n bosibl y bydd y pwyllgor yn cyfarfod mewn rhannau eraill o Gymru ambell waith. Bydd angen rhoi amser o’r neilltu hefyd cyn pob cyfarfod er mwyn darllen ac ystyried y papurau a anfonir at yr aelodau.
Nid yw aelodau Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu’n cael eu talu ond gallant hawlio costau teithio a rhai costau rhesymol eraill. Ceir rhagor o wybodaeth yn Llawlyfr Aelodau Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu.
10
blwyddyn

Rôl y corff

Sefydlwyd y Pwyllgor Cynghori ar Reoliadau Adeiladu yn wreiddiol yn 1962 o dan adran 9 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961 (sydd bellach wedi’i disodli gan adran 14 o’r Ddeddf Adeiladu) i gynghori’r Ysgrifennydd Gwladol priodol ynghylch ymarfer ei bwerau i wneud rheoliadau adeiladu ac ar faterion eraill perthnasol yng Nghymru a Lloegr.   Yn ymarferol, gofynnir am farn y Pwyllgor Cynghori ar bob polisi a mater technegol perthnasol sy’n ymwneud â rheoliadau adeiladu yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor Cynghori felly’n fwrdd seinio pwysig ar gyfer materion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y diwydiant adeiladu ac, mewn ffordd, ar y diwydiant adeiladwaith ehangach, fel arfer cyn ymgynghori’n ffurfiol â’r holl randdeiliaid. 

Penodir aelodau Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu fel aelodau annibynnol a fydd yn cynrychioli meysydd arbenigedd a phrofiad penodol, ac nid fel cynrychiolwyr penodol sefydliadau arbennig. Mae’r Gyfarwyddiaeth Gynllunio’n chwilio am bedwar aelod ychwanegol at aelodau’r Bwrdd presennol i gynrychioli’r meysydd y cyfeirir atynt isod dan ‘Fanyleb y Person’ yn yr ymarfer recriwtio presennol.

Diffinnir y Pwyllgor Cynghori fel panel cynghori statudol ac mae hefyd wedi cael ei ddynodi’n Bwyllgor Cynghori Gwyddonol o dan God Ymarfer y Llywodraeth ar gyfer Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol 2001.

Penodir aelodau Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu gan Weinidogion Cymru. Mae Gweinidogion Cymru’n gyfrifol am wneud a diwygio’r rheoliadau adeiladu yng Nghymru, a byddant yn noddi ac yn ymgynghori â’r Pwyllgor Cynghori drwy swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Gynllunio. Darperir yr Ysgrifenyddiaeth gan y Gyfarwyddiaeth Gynllunio.

Disgrifiad o'r swydd

Cynorthwyo Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu yn ei rôl statudol o ddarparu cyngor i Weinidogion Cymru (drwy swyddogion y Gyfarwyddiaeth Gynllunio fel arfer) ar ymarfer eu pwerau i wneud rheoliadau adeiladu yn ymwneud â Chymru, ac ar faterion eraill perthnasol.

Y prif ddyletswyddau:

• Bod yn bresennol ym mhrif gyfarfodydd Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu, wedi darllen y papurau a ddarparwyd ymlaen llaw, a rhoi barn a chyngor ar gynigion, a rhannu arbenigedd a phrofiad. Ymateb yn yr un modd i geisiadau am farn a chyngor y gofynnir amdanynt drwy ohebiaeth rhwng cyfarfodydd.

• Eistedd ar Weithgorau’r Pwyllgor Cynghori a grwpiau/paneli eraill, fel y bo’n briodol, er mwyn helpu i ddatblygu polisi a chynigion technegol sy’n ymwneud â rheoliadau adeiladu, ac adrodd yn ôl i’r prif Bwyllgor.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Manyleb y person

Y Prif Sgiliau a Rhinweddau Personol sy’n Ofynnol

Gallu a pharodrwydd i ddeall a dehongli gwybodaeth sensitif a rhoi sylwadau a chyngor ar faterion polisi – rhai ohonynt y tu allan i’ch maes arbenigedd chi o bosibl;

Doethineb, gwrthrychedd, didueddrwydd a gonestrwydd;

Sgiliau cyfathrebu da, yn enwedig ar lafar, a’r gallu i weithio’n adeiladol gydag eraill ar y Pwyllgor er mwyn cael consensws cyffredinol a i ymgysylltu ag eraill o’r diwydiant er mwyn cefnogi a chyfrannu tuag at waith y Pwyllgor a’r Gyfarwyddiaeth Gynllunio;

Dealltwriaeth glir ac ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol pan fo’n briodol;

Dealltwriaeth glir o ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan ac ymrwymiad iddynt .  

Yn ogystal â’r sgiliau a’r rhinweddau personol a amlinellwyd uchod bydd angen i’r aelodau ddangos profiad mewn o leiaf un o’r setiau sgiliau arbenigol a ganlyn: 

• Pensaernïaeth

• Rheoli Adeiladu Sector Preifat

• Sector adeiladau tai bach ac/neu fawr

• Adeiladau Busnes

• Cynlluniau Personau Cymwys

• Gwneuthurwyr cynhyrchion Adeiladu neu Ddefnyddiau

• Anghenion pobl anabl

• Syrfëwr meintiau neu Syrfëwr Adeiladu

• Gwasanaethau Adeiladu, Sifil, Peirianneg fecanyddol neu drydanol

• Cynaliadwyedd

Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol

• Hanes blaenorol neu wybodaeth broffesiynol yn y diwydiant adeiladu neu broffesiynau perthnasol i’r sectorau uchod.

• Profiad o ddydd i ddydd yn y sector adeiladu trwy ddefnyddio’r rheoliadau adeiladu a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol

• Barn gadarn a’r gallu i wneud penderfyniadau a chyfathrebu a gweithio yn effeithiol fel rhan o dîm

Dymunol

• Sgiliau yn y Gymraeg.    Rydym yn dymuno dod o hyd i unigolyn sy'n gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae disgwyl i bob ymgeisydd ddangos ymwybyddiaeth o broffil ieithyddol Cymru a chefnogi pob ymgais i gydymffurfio â Safonau arfaethedig y Gymraeg. 

Dyddiadau cyfweliadau

8 Awst 2016
12 Awst 2016

Dyddiad cau

18/07/16 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.