Swydd Wag -- Cadeirydd - Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Manylion y swydd

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Cynhelir cyfarfodydd drwy ddull rhithwir a ledled Cymru
£337 y dydd.  Mae gan y Cadeirydd hawl hefyd i gael  costau teithio a threuliau eraill o fewn terfynau rhesymol.
2
mis

Rôl y corff

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol.  Fe'i sefydlwyd yn barhaol, a hynny ar y cychwyn er mwyn pennu ystod a lefelau'r lwfansau sy'n daladwy gan gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol i'w cynghorau a'u haelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio.

Estynnodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 gylch gwaith y Panel a rhoi iddo ei statws statudol presennol. Mae ei gylch gwaith bellach hefyd yn cynnwys cynghorau tref a chymuned, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub. Estynnwyd cylch gwaith y Panel ymhellach yn 2015, a chaiff hefyd yn awr wneud argymhellion mewn perthynas ag unrhyw gynnig i newid cyflog prif weithredwr cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, yn ôl y gofyn.

Disgrifiad o'r swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o’r broses o bennu ystod y taliadau i:

  • Aelodau cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol
  • Aelodau cynghorau tref a chynghorau cymuned
  • Aelodau awdurdodau parciau cenedlaethol
  • Aelodau awdurdodau tân ac achub

 

Rôl a chyfrifoldebau

Mae'n ofynnol i'r Panel lunio adroddiad blynyddol, a fydd yn rhagnodi’r taliadau a’r lwfansau ar gyfer cynghorwyr ac aelodau o'r sefydliadau a restrir uchod. Rhaid i’r Panel lunio Adroddiad Blynyddol a chaiff lunio Adroddiadau Atodol ar unrhyw adeg y mae'n credu bod hynny’n angenrheidiol. Wrth baratoi ei adroddiadau, mae'n ofynnol i'r Panel ystyried effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar yr awdurdod neu'r awdurdodau dan sylw. Mae aelodau'r panel hefyd yn ystyried unrhyw newidiadau arfaethedig i gyflog prif weithredwyr cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, yn ôl yr angen.

 

Disgrifiad o rôl y Cadeirydd

  • Pennu'r cyfeiriad strategol mewn perthynas â chydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr lleol ac aelodau awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub. Sicrhau bod gwaith y Panel wedi'i osod o fewn y strategaeth gyffredinol hon.
  • Sgiliau arwain – gan gynnwys cadeirio cyfarfodydd a gosod safonau ar gyfer gweithredu'r Panel yn effeithiol a chwblhau adroddiadau'n amserol. 
  • Datblygu dull strategol o ymgysylltu ag unigolion a chynrychiolwyr y cyrff y mae'r Panel yn gyfrifol am bennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol ar eu cyfer.
  • Sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o rôl y Panel a sut y gallant gyfrannu at ei waith.
  • Sicrhau bod gwaith y Panel yn dryloyw ac yn agored i broses graffu a thrafodaeth gyhoeddus.
  • Mynychu cyfarfodydd y Panel a chyfarfodydd rhanddeiliaid eraill gydag uwch-
  • Sicrhau bod arian ac adnoddau’r Panel yn cael eu rheoli mewn dull sy’n sicrhau gwerth am arian
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol   
  • Y gallu i herio'n adeiladol o fewn y Panel ac yn allanol gyda rhanddeiliaid
  • Nodi rhaglen ymchwil i gefnogi'r gwaith o ddatblygu penderfyniadau'r Panel. Ystyried canlyniad yr ymchwil, dadansoddi'r canlyniadau a chyfleu sut mae'r dystiolaeth honno'n cefnogi penderfyniadau'r Paneli.  
  • Cyfrannu at ddatblygu polisi - gan gynnwys paratoi papurau trafod / ysgrifennu adroddiadau. 
  • Dangos dealltwriaeth ac ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Meini Prawf Hanfodol

Dylai pob Ymgeisydd ddangos tystiolaeth o:

  • Sicrhau bod y Panel yn glynu wrth saith egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan, yn dangos ymrwymiad i faterion cydraddoldeb ac yn herio arferion gwahaniaethol, ac yn gweithio mewn ffordd sy’n ddiduedd o ran gwleidyddiaeth wrth gyflawni ei ddyletswyddau
  • Darparu gweledigaeth ac arweinyddiaeth strategol gan gynnwys hanes profedig o gyflawni nodau o fewn amserlenni priodol
  • Sgiliau rhyngbersonol cryf gan gynnwys y gallu i drafod, darbwyllo a dylanwadu
  • Y gallu i feithrin perthynas waith dda gyda chydweithwyr, rhanddeiliaid ac eraill, gan gynnwys rheoli cyfarfodydd a digwyddiadau allweddol eraill yn effeithiol
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ag unigolion sy'n amrywio o aelodau o'r cyhoedd i uwch-arweinwyr
  • Y gallu i nodi a rheoli rhaglen ymchwil, ystyried a dadansoddi tystiolaeth o ystod eang o ffynonellau a gwneud penderfyniadau sy'n deg ac yn rhesymol ar sail y dystiolaeth honno
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd democratiaeth leol a gwasanaeth cyhoeddus.

I gael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y penodiad.


Meini prawf dymunol ar gyfer rôl y Cadeirydd

  • Y gallu i ddeall a siarad Cymraeg

Dyddiadau cyfweliadau

10 Ionawr 2022
15 Ionawr 2022

Dyddiad cau

05/01/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â Leighton Jones, yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol:

Ffôn: 0300 025 3038

E-bost: Leighton.jones@llyw.cymru

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.