Swydd Wag -- Cadeirydd - Cyngor y Celfyddydau Cymru

Manylion y swydd

Cyngor Celfyddydau Cymru
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein, yn Swyddfeydd CCC ym Mae Caerdydd ac mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru. Mae ymateb y Cyngor i Covid-19 yn golygu bod cyfarfodydd ar-lein yn fwy tebygol yn y tymor byr i'r tymor canolig.
£43,810. Bydd gan y Cadeirydd hawl hefyd i gostau teithio a threuliau rhesymol eraill o fewn terfynau y cytunwyd arnynt. 
10
mis

Rôl y corff

Cefndir

Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1994. Ariennir Cyngor y Celfyddydau yn bennaf drwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn elusen gofrestredig o dan y Gyfraith Elusennol ac mae'n un o bedwar Dosbarthwr y Loteri yng Nghymru.

 

Dyma amcanion y Cyngor fel y’u nodir yn ei Siarter Frenhinol:

 

a) i ddatblygu a gwella gwybodaeth am y celfyddydau, eu deall a’u hymarfer;

b) i gynyddu hygyrchedd y celfyddydau i’r cyhoedd;

c) i gynghori a chydweithredu â Llywodraeth Cymru a'r cyrff perthnasol; a

d i gyflawni’r amcanion drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Fel rhan o delerau ac amodau’r cyllid, mae gan Aelodau'r Cyngor gyfrifoldeb fel unigolion ac yn gorfforaethol i Lywodraeth Cymru.

 

Ynglŷn â Chyngor Celfyddydau Cymru

 

Fel asiantaeth ariannu a datblygu celfyddydau’r wlad, mae Cyngor y Celfyddydau:

 

  • yn cefnogi a datblygu gweithgarwch celfyddydol o ansawdd uchel – mae'n buddsoddi arian cyhoeddus, wedi'i ddarparu gan y trethdalwr a’i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru, i helpu'r celfyddydau i ffynnu yng Nghymru

 

  • yn datblygu ac yn cyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau – mae'n sicrhau bod mecanweithiau, prosesau a gweithdrefnau priodol yn eu lle i gynnal yr agenda strategol a lunnir gan Lywodraeth Cymru, fel y’i nodir yn y ddogfen strategaeth ddiweddaraf (y Rhaglen Lywodraethu ar hyn o bryd) a'r llythyr Cylch Gwaith Blynyddol

 

  • yn dosbarthu arian y Loteri – trwy geisiadau i'w rhaglenni cyllido mae'n buddsoddi mewn prosiectau sy'n datblygu gweithgarwch celfyddydol newydd, gan gefnogi unigolion a sefydliadau

 

  • yn rhoi cyngor ar y celfyddydau – drwy ei staff a'i ymgynghorwyr, Cyngor y Celfyddydau sydd â'r gronfa fwyaf o arbenigedd a gwybodaeth yn y celfyddydau yng Nghymru

 

  • rhannu gwybodaeth – Cyngor y Celfyddydau yw canolfan genedlaethol rhwydwaith o wybodaeth am y celfyddydau yng Nghymru. Mae ganddo hefyd gysylltiadau rhyngwladol cryf yn y DU a thu hwnt

 

  • yn codi proffil y celfyddydau yng Nghymru – Cyngor y Celfyddydau yw'r llais cenedlaethol dros y celfyddydau yng Nghymru, gan wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o ansawdd, gwerth a phwysigrwydd celfyddydau'r wlad

 

  • yn creu mwy o arian i economi'r celfyddydau - drwy fentrau fel Y Cynllun Casglu - cynllun y Cyngor i annog mwy o bobl i brynu celf - a'i waith i sicrhau cyllid Ewropeaidd; mae'r rhain yn dod â mwy o arian i economi'r celfyddydau

 

  • yn dylanwadu ar gynllunwyr a phenderfynwyr – mae'r celfyddydau'n digwydd mewn llawer o leoedd gwahanol. Maent yn gallu cael effaith ddramatig ar ansawdd bywydau pobl, a'r llefydd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt. Mae'r celfyddydau hefyd yn aml wrth galon mentrau ar gyfer adfywio economi a chymdeithas, ar gyfer trawsnewid dysgu mewn ysgolion ac ar gyfer hyrwyddo iechyd a lles. Mae Cyngor y Celfyddydau'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y cyfraniad y gall y celfyddydau ei wneud yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a'i ddathlu.

 

Disgrifiad o'r swydd

Rôl y Cadeirydd

 

Mae'r Cadeirydd yn atebol i Weinidog(ion) Llywodraeth Cymru a gellir ei ddwyn i gyfrif hefyd gan Senedd Cymru / Welsh Parliament. O dan amgylchiadau arferol, rhaid i’r Cyngor a’r Gweinidog gyfathrebu â’i gilydd drwy'r Cadeirydd. Rhaid i'r Cadeirydd sicrhau bod aelodau eraill y Cyngor yn cael gwybod am unrhyw gyfathrebu o’r fath.

 

Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau a gweithredoedd y Cyngor yn cefnogi polisïau strategol ehangach y Gweinidog, a bod y Corff yn gwneud ei waith ag uniondeb. Lle bo hynny’n briodol, rhaid i'r Cadeirydd drefnu bod y polisïau a'r gweithredoedd hyn yn cael eu cyfathrebu a’u rhannu â phob rhan o’r Corff.

 

Mae gan y Cadeirydd gyfrifoldebau penodol fel arweinydd am:

 

  • lunio strategaethau'r Cyngor;

  • sicrhau bod y Cyngor, wrth wneud penderfyniadau, yn ystyried mewn ffordd briodol ofynion statudol a rheolaeth ariannol a'r holl ganllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

  • datblygu perthynas gref ac effeithiol â’r Cyngor a'r sector ehangach.

  • goruchwylio cynnydd cyffredinol tîm uwch arweinwyr Cyngor Celfyddydau Cymru, gan gynnwys y Prif Weithredwr.

  • hyrwyddo defnydd darbodus, effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill;

  • sicrhau safonau uchel o reoleidd-dra, uniondeb a llywodraethiant; a

  • cynrychioli barn y Cyngor gerbron y cyhoedd.

 

Rhaid i'r Cadeirydd hefyd:

 

  • sicrhau bod holl aelodau'r Cyngor yn cael eu briffio'n llawn ar delerau eu hapwyntiad ac ar eu dyletswyddau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau;

  • arwain y cyngor i ehangu mynediad a chreu sector a sefydliad Celfyddydau cynhwysol, yn unol â Chynllun Gweithredu Cyngor Celfyddydau Cymru ar Ehangu Ymgysylltiad a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd a’r Cynllun Gweithredu LHDTQ.

  • goruchwylio pob rhan o’r broses Adolygu Buddsoddiant a’r newid i'r model diwygiedig.

  • sicrhau bod holl aelodau'r Cyngor yn cael hyfforddiant priodol, gan gynnwys ar ofynion elusennau a chyrff sector cyhoeddus o ran rheolaeth ariannol a pharatoi adroddiadau ac ar y gwahaniaethau a allai fodoli rhwng ymarfer yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus;

  • sicrhau bod y Cyngor yn meddu ar y cydbwysedd sgiliau sy'n briodol i gyfarwyddo busnes y Corff;

  • pan fydd penodiadau i swyddi ar y Cyngor yn cael eu gwneud gan y Gweinidog, cynghori'r Gweinidog ar anghenion y Corff;

  • asesu perfformiad aelodau unigol y Cyngor yn unol â'r trefniadau y cytunwyd arnynt gyda'r tîm partneriaeth, ac asesu perfformiad y Prif Weithredwr.

  • sicrhau bod cod ymddygiad priodol ar gyfer aelodau'r Cyngor, gan gynnwys rheolau a chanllawiau ynghylch buddiannau a gwrthdaro buddiannau aelodau'r Cyngor.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Meini Prawf Hanfodol

 

Yn eich cais, bydd disgwyl i chi ddangos eich bod yn gallu bodloni’r meini prawf hanfodol canlynol, a fydd yn cael eu profi ymhellach mewn cyfweliad:

 

  • Profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad cymhleth, aml-ddisgyblaethol, a'r gallu i weithredu mewn amgylchedd o newid;

 

  • Ymrwymiad cryf i ddatblygu rôl y celfyddydau ledled Cymru a meddu ar wybodaeth eang am y sectorau celfyddydol, diwylliant, treftadaeth a/neu’r diwydiannau creadigol. Gwerthfawrogiad o'r cyd-destunau diwylliannol, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithredu ynddynt; ac o’i rwymedigaethau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

 

  • Prawf o gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb. Ymrwymiad y gellir ei ddangos i ehangu mynediad a chyfranogiad yn y celfyddydau ledled Cymru;

 

  • Gallu dangos tystiolaeth o ddealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da, atebolrwydd a chyfrifoldeb ariannol, gan gynnwys cyllid y sector cyhoeddus yn ddelfrydol;

 

  • Profiad o wneud penderfyniadau cadarn ac o roi arweiniad wrth ddatblygu atebion a strategaethau strategol, creadigol a diduedd i gyflawni nodau tymor hir;

 

  • Dangos y gallu i feithrin perthynas effeithiol ar draws sectorau a gweithredu fel llysgennad i'r celfyddydau. Yn ennyn hyder rhanddeiliaid ar bob lefel, gan gynnwys Gweinidogion;

 

  • Ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan..

 

 

 

Meini Prawf Dymunol:

 

  • Profiad o'r diwydiannau celfyddydol, diwylliannol, treftadaeth neu greadigol mewn cyd-destun Cymreig.

 

  • Y Gymraeg (fel y nodir isod) neu ymrwymiad i ddatblygu'r sgiliau hyn o fewn dwy flynedd

 

 

  • Profiad neu ddealltwriaeth o weithgareddau masnachol a chreu incwm, gan gynnwys codi arian, a'r gallu i gymhwyso hyn i sefydliadau celfyddydol, a/neu

 

  • Profiad neu ddealltwriaeth o gymhwyso technoleg ddigidol er mwyn hyrwyddo’r celfyddydau a’u gwneud yn gynaliadwy.

 

 

Rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan fenywod, pobl anabl a phobl ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Dyddiadau cyfweliadau

14 Chwefror 2023
17 Chwefror 2023

Dyddiad cau

03/01/23 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.