Swydd Wag -- Penodiadau Aelodau - Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Manylion y swydd

Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Y cyfarfodydd i gael eu cynnal mewn amrywiol leoliadau ledled Cymru.
Cyflog: Di-dal, ond mae gan Aelodau hawl i gael eu had-dalu ar gyfer costau teithio a chostau rhesymol eraill o fewn terfynau rhesymol.
3
blwyddyn

Rôl y corff

Cefndir

 

Mae Adran 81(1) Deddf yr Amgylchedd 2016 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol (y Pwyllgor). 

 

Swyddogaeth y Pwyllgor

 

Pwrpas y Pwyllgor yw cynghori Gweinidogion Cymru ar bob mater sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth a pharatoi a chryfhau cymunedau i allu gwrthsefyll llifogydd.  Bydd y Pwyllgor yn rhoi cyngor arbenigol ar gyfeiriad strategol gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, gan weithio'n glos ag Awdurdodau Rheoli Risg a Llywodraeth Cymru.

 

Rydym yn rhagweld y bydd y Pwyllgor yn creu ei rhaglen ei hun o weithgarwch cynghori a allai adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol tymor byr yn ogystal â rhai tymor hir, gan gynnwys ymateb i ymgynghoriadau, nodi anghenion ymchwil a thynnu sylw at yr arferion gorau yng Nghymru a thu hwnt.

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a chyfrifoldebau

Bydd disgwyl i aelodau:

  • Bod yn bresennol a chymryd rôl weithredol mewn cyfarfodydd Pwyllgorau; bydd disgwyl i aelodau fynd i ddau neu dri cyfarfod o'r pwyllgor bob blwyddyn a gweithredu camau sy'n codi;

    • Delio gyda gwaith papur a materion sy'n gysylltiedig â gwaith y Pwyllgor;
    • Bod yn bresennol ac/neu gadeirio cyfarfodydd yr is-bwyllgor neu gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid;

  • Cyfrannu at unrhyw adroddiadau neu ddogfennau sy'n cael eu cynhyrchu ar ran y Pwyllgor, fel y bo angen.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol.

 

Meini Prawf Hanfodol

Arbenigedd

  1. 1.     Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad da o rolau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid y maes llifogydd ac erydu arfordirol a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol.
  2. 2.     Arbenigedd o fewn ac ym maes rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol (FCERM). Gallai hyn gynnwys:
  • Arbenigedd technegol megis peirianneg, cynllunio, GIS;
  • Rheoli arfordirol ac amgylcheddol;
  • Ymateb gweithredol i lifogydd neu cynorthwyo gydag adfer wedi llifogydd;
  • Profiad academaidd neu FCERM ehangach.

 

Sgiliau ac Ymddygiad

  1. Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da gan gynnwys dangos gallu i drafod gyda rhanddeiliaid a chyfrannu at, a dylanwadu ar gyfarfodydd o'r pwyllgor;
  2. Dangos gallu i ddadansoddi, trafod a chyfathrebu am faterion sy'n gysylltiedig â llifogydd gydag arbenigwyr a'r rhai nad ydynt yn arbenigwyr, a gweld y darlun mwy ledled Cymru;
  3. Deall materion amrywiaeth.

 

Maen Prawf Dymunol

Gan bod gan y Pwyllgor fwriad i gynnwys trawsdoriad eang o safbwyntiau a phrofiadau ni fydd yn hanfodol i fodlioni pob un o'r meini prawf dymunol.

 

Gwybodaeth a Phrofiad

  1. Gwybodaeth o gyllid a mecanweithiau Llywodraeth Cymru;
  2. Deall y cyfleoedd posibl i fuddsoddi y tu allan i gyllid y Llywodraeth.
  3. Deall Cynlluniau Rheoli Traethlin wrth reoli risg arfordirol.
  4. Dealltwriaeth o reoli risg llifogydd naturiol.

  

Sgiliau

  1. Y gallu i ddadansoddi data ac ymchwil i lywio argymhellion.
  2. Gallu paratoi adroddiadau.

Dyddiadau cyfweliadau

21 Ionawr 2019
25 Ionawr 2019

Dyddiad cau

04/01/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

 

Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â Angela Byrne/Richard Williams:

 

Ffôn: 03000 628692

E-bost: Risgllifogyddarfordirol@llyw.cymru

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu anfonwch e-bost at penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru 

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://beta.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.