Swydd Wag -- Aelodau Annibynnol (dwy swydd)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol ar gyfer Cymru sy'n darparu arweinyddiaeth Genedlaethol ar bob agwedd ar iechyd y cyhoedd. Fel Ymddiriedolaeth y GIG, Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n rhan o deulu'r GIG. Mae'r sefydliad yn darparu gwasanaethau iechyd y cyhoedd (gan gynnwys diogelu'r cyhoedd, microbioleg a rhaglenni sgrinio cenedlaethol), rhaglenni iechyd a llesiant cenedlaethol, yn cefnogi gwella ansawdd y GIG trwy Wasanaeth gwella 1000 o Fywydau. Mae hefyd yn dadansoddi ac yn darparu gwybodaeth am iechyd y boblogaeth, yn hwyluso rhaglenni cydweithredol sylweddol ar draws sectorau ac yn cynghori Llywodraeth Cymru ar bolisi iechyd y cyhoedd.
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dros 50 o safleoedd ar hyd a lled Cymru gyfan ac mae ganddo bolisi o gynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Felly, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio i bob rhan o Gymru. Er hynny, bydd nifer sylweddol o gyfarfodydd a digwyddiadau sy'n ymwneud â'r Bwrdd yn cael eu cynnal yn y Pencadlys yng Nghaerdydd. Efallai y bydd angen aros dros nos fel rhan o'r swydd.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Aelodau Annibynnol, ymhlith pethau eraill, yn:
Cyflawni llywodraethiant effeithiol ar y sefydliad, yn ei holl ffurfiau integredig. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol.
Cyfrannu at ddatblygu a chynnal diwylliant iach ar draws swyddogaethau a gwasanaethau'r sefydliad.
Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd.
Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw.
Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill gan sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau.
Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
Goruchwylio stiwardiaeth effeithiol ar adnoddau, gan sicrhau atebolrwydd ac agwedd agored wrth ddyrannu a defnyddio adnoddau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Rôl 1 - Rydym yn recriwtio dau Aelod Annibynnol, ac mae angen un o'r rolau hynny i gyflawni un neu ragor o'r meini prawf canlynol:
dymuniad diffuant i wella a diogelu iechyd a llesiant pobl Cymru
gwerthfawrogiad o benderfynyddion ehangach iechyd
profiad o weithio gyda chymunedau a grwpiau cymunedol
profiad o ddarparu a/neu sicrhau ansawdd gwasanaethau a chyngor gwybodus. Nid oes angen i hyn o reidrwydd fod ym maes iechyd.
Rôl 2 - mae angen rôl yr ail Aelod Annibynnol i gyflawni'r meini prawf canlynol:
Bydd gennych ymwybyddiaeth fasnachol a meddylfryd entrepreneuraidd, a byddwch wedi arloesi yn aml i gynhyrchu syniadau, gwasanaethau neu gynhyrchion newydd, yn benodol i gynnwys, darbwyllo neu ddylanwadu ar ddarpar ddefnyddwyr.
Byddwch yn ymwybodol o egwyddorion llywodraethu da ac yn cyfrannu'r gryf fel rhan o dîm corfforaethol. Bydd gennych y gallu i herio syniadau confensiynol mewn ffordd sy'n sbarduno trafodaethau a phenderfyniadau cadarnhaol.
Y Meini Prawf sy'n Ddymunol
Yn ddelfrydol byddwch wedi gwasanaethu mewn rôl anweithredol neu fel ymddiriedolwr.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â'r:
Tîm Penodiadau Cyhoeddus Publicappointments@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Aelodau Annibynnol, cysylltwch â:
Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ffôn: 07711 819665
E-bost: helen.bushell@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru, gallwch fynd i wefan y sefydliad: http://www.publichealthwales.wales.nhs.uk/
Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar publicappointments@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Sut i wneud cais
I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma: https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/xf-b1e36981a4ce/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/
Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen ichi gyflwyno'r ffurflen gais a dwy ddogfen ategol. Dogfen yn ateb y cwestiynau isod yw'r gyntaf, sef 'datganiad personol'. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn. Curriculum vitae (CV) llawn, cyfredol yw'r ail ddogfen y bydd rhaid ichi ei chyflwyno. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen i'r adran “Rhesymau dros ymgeisio” o'r ffurflen gais ar-lein. Dylech ddefnyddio ffont maint 12pt o leiaf ar y dogfennau ategol.
Eich datganiad personol yw eich cyfle i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r holl feini prawf a nodir yn y cwestiynau isod. Chi fydd yn penderfynu sut y byddwch am gyflwyno'r wybodaeth. Er hynny, fe ddylech geisio darparu enghreifftiau manwl sy’n dangos sut mae’ch gwybodaeth a’ch profiad yn bodloni pob maen prawf, ac sy'n disgrifio eich rôl wrth gyflawni canlyniad penodol.
Nodwch hefyd y bydd eich tystiolaeth hefyd yn cael ei hasesu i benderfynu a oes gennych y lefel angenrheidiol o brofiad i weithredu'n effeithiol ar lefel y Bwrdd.
Byddai hefyd o fudd i'r panel dethol pe baech yn nodi'n glir pa dystiolaeth benodol sy'n berthnasol i ba faen prawf. Mae'n arfer cyffredin darparu paragraffau ar wahân mewn perthynas â phob maen prawf.
Yn olaf, dylech gynnwys paragraff bras sy'n amlinellu pam yr ydych yn ymgeisio am y rôl a pha fanteision y byddech chi yn gallu eu cynnig i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.