Swydd Wag -- Aelod (2) - Dewis Gyrfa - Yn gweithredu o dan enw Gyrfa Cymru - Cymraeg Dymunol
Manylion y swydd
Rôl y corff
Y cefndir
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni y mae Llywodraeth Cymru yn meddu arno a gafodd ei sefydlu ar 1 Ebrill 2013. Enw masnachol y cwmni yw Gyrfa Cymru, ac mae'n darparu gwasanaethau amrywiol sy'n integreiddio'r defnydd o dechnolegau digidol ochr yn ochr â chyfryngau wyneb yn wyneb mwy traddodiadol. Mae'r cwmni'n darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd, sy'n ddiduedd ac yn ddwyieithog, i bobl o bob oed yng Nghymru.
Mae Gyrfa Cymru'n cefnogi cwsmeriaid i fod yn fwy effeithiol wrth gynllunio a rheoli eu gyrfaoedd, gan gydnabod nad yw rheoli gyrfa bellach yn golygu dewis un yrfa yn unig, ond yn hytrach ddilyn llwybr gyrfa o wahanol swyddi ar hyd eich oes. Drwy wella sgiliau a chymwyseddau rheoli gyrfa, gall cwsmeriaid drosglwyddo o un swydd i un arall yn rhwyddach, mwynhau lefel uwch o foddhad o ran gyrfa, a chwarae rhan fwy gweithgar yn yr economi.
Ym mis Ebrill 2021 lansiodd Gyrfa Cymru eu gweledigaeth bum mlynedd, ‘Dyfodol Disglair’. Uchelgais y weledigaeth hon yw creu dyfodol disglair i bob person ifanc a phob oedolyn yng Nghymru. I wireddu’r uchelgais mae Gyrfa Cymru wedi datblygu pedwar nod strategol:
Darparu gwasanaeth hyfforddiant ac arweiniad diduedd, cynhwysol a dwyieithog i bobl Cymru
Datblygu eu gwaith gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac entrepreneuriaid i ddeall eu gofynion o ran sgiliau a’r cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion
Helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a chyfrannu at gyflawni ei bedwar diben ar gyfer dysgwyr
Datblygu gweithlu medrus, ymgysylltiol a dymunol ar gyfer Gyrfa Cymru a sicrhau y gellir darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar y cwsmeriaid
Caiff eu gwaith o gefnogi plant a phobl ifanc mewn addysg ei ariannu drwy eu grant Gyrfa Cymru craidd. Mae Gyrfa Cymru ar hyn o bryd yn cael cyllideb gwerth £18.8 miliwn o gyllid grant craidd gan Lywodraeth Cymru. Caiff eu gwaith o gefnogi’r rhai nad ydynt mwyach mewn addysg ei wneud drwy eu Gwasanaethau Cymru’n Gweithio, ac ariennir y gwaith hwn ar wahân.
Rôl y Bwrdd
Rôl y bwrdd yw:
rhoi arweiniad effeithiol; diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion sy'n cynnig her;
hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian;
sicrhau bod gweithgareddau CCDG yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol; a
monitro perfformiad i sicrhau bod CCDG yn ysgwyddo'i ddyletswyddau, amcanion, nodau a thargedau perfformiad statudol yn llawn.
I wneud hynny, rhaid i'r bwrdd sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i roi sicrwydd ar reoli risg, llywodraethu a rheoli mewnol. Disgwylir i'r bwrdd sicrhau ei hunan am effeithiolrwydd y systemau rheoli mewnol a rheoli risg.
Yn benodol, mae'r bwrdd yn gyfrifol am:
sefydlu a datblygu nodau ac amcanion strategol CCDG sy'n gyson â'i ddiben cyffredinol ac yn rhan o ddogfen Erthyglau Cymdeithasu a Fframwaith CCDG a bennir gan Weinidog yr Economi;
sicrhau bod Gweinidog yr Economi yn cael gwybod am unrhyw newidiadau sy'n debygol o gael effaith ar gyfeiriad strategol CCDG neu ar ei allu i gyrraedd ei dargedau, ac am y camau sydd eu hangen i ymdrin â newidiadau o'r fath;
sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol mewn perthynas â defnyddio cyllid cyhoeddus;
sicrhau ei fod yn derbyn ac yn adolygu gwybodaeth ariannol ynghylch gwaith rheoli CCDG yn rheolaidd; a
dangos safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser, gan gynnwys defnyddio'r pwyllgor archwilio i helpu'r bwrdd i ymdrin â risgiau ariannol allweddol a rhai eraill.
Disgrifiad o'r swydd
Rôl a chyfrifoldebau
Bydd Aelod o Fwrdd CCDG yn ymwneud â'r canlynol:
- Chwarae rôl weithgar wrth gyflawni cylch gwaith CCDG gan sicrhau y bydd CCDG yn gwneud yr argraff orau. Bydd hynny'n cynnwys rhannu eu harbenigedd ynghylch yr hyn sy'n gweithio, herio'r status quo ac awgrymu atebion;
- Sicrhau cydymffurfedd â rheolau caffael perthnasol, mewn perthynas â chael cyllid gan Lywodraeth Cymru (o ran bod CCDG yn is-gwmni y mae Llywodraeth yn berchen arno, ac yn gwmni Teckal) a gwariant CCDG fel awdurdod contractio sy'n ddarostyngedig i'r rheolau caffael.
- Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi'n drylwyr ar gyfer y cyfarfodydd hynny;
- Bod yn barod i wasanaethu ar is-bwyllgorau;
- Rhoi arweiniad i reolwyr a staff CCDG o safbwynt llunio a gweithredu Gweledigaeth Strategol newydd am bum mlynedd ar gyfer Gyrfa Cymru;
- Mynd ati i roi her a chynnig cymorth, a sicrhau bod y naill yn cydbwyso'r llall, i reolwyr a staff CCDG wrth eu gwaith;
- Cynrychioli CCDG mewn digwyddiadau cyhoeddus; (os byddai’n gyfweliad ffurfiol neu’n ddatganiad byddai angen cysylltu â’n hadran farchnata i ddechrau)
- Hyrwyddo proffil CCDG; a
- Hwyluso'r cysylltiad â rhanddeiliaid CCDG a mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar y cyd â chymunedau a rhanddeiliaid perthnasol;
- Deall a chydymffurfio ag ymrwymiadau rôl gyhoeddus, fel y'i diffinnir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Manyleb y person
Mae CCDG yn chwilio am ddau aelod newydd o'r bwrdd (Cymraeg yn ddymunol) sydd ag amrywiaeth o arbenigedd, ar draws amrediad o sectorau economaidd, proffesiynau a grwpiau cymdeithasol.
Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan unigolion â sgiliau yn y meysydd canlynol:
Addysg (Uwchradd / AB)
Meini Prawf Hanfodol
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi:
Y gallu i herio mewn ffordd adeiladol
Prawf o lwyddiant blaenorol mewn meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid
Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion sy'n ymwneud â dysgu a gwaith ar lefel gymunedol, lleol, rhanbarthol neu genedlaethol
Ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
Sgiliau cyfathrebu rhagorol, a'r gallu i egluro materion cymhleth mewn modd cryno a chlir, gan ddangos parch at safbwyntiau pobl eraill
Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol
Deall bywyd cyhoeddus ac egwyddorion llywodraethu da
Bydd gofyn i'r ymgeiswyr sy'n cael eu rhoi ar restr fer ymhelaethu ar sut y maent yn bodloni'r meini prawf uchod gan ddefnyddio enghreifftiau a dangos tystiolaeth.
Y Gymraeg
Iaith Gymraeg - Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y ddwy swydd, fel a ganlyn:
Deall – Gallu deall rhannau o sgwrs sylfaenol
Siarad – Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn Gymraeg
Ysgrifennu – Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau bob dydd
Darllen – Gallu darllen rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol gyda dealltwriaeth.
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol, dylai pob ymgeisydd ddangos eu bod yn ymwybodol o bwysigrwydd y Gymraeg mewn cenedl ddwyieithog, gan werthfawrogi polisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith.
Mae CCDG yn darparu gwasanaethau dwyieithog a bydd yn chwarae rôl amlwg wrth hyrwyddo ac integreiddio cymorth a chyngor ynghylch y Gymraeg a sgiliau Cymraeg fel rhan o'i weithrediadau ac wrth ddarparu gwasanaethau cynghorol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.