Swydd Wag -- Aelodau'r Bwrdd (x3) - Bwrdd Hybu Cig Cymru (HCC)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Bwrdd HCC yn arwain a llywodraethu HCC ac yn cyflawni’r rôl bwysig o graffu ar holl fuddsoddiadau a gweithgareddau HCC. Y Bwrdd hefyd sy'n pennu amcanion y dyfodol. Bydd Aelodau'r Bwrdd yn atebol fel unigolion ac ar y cyd i Lywodraeth Cymru drwy Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Yn bennaf mae Cadeirydd HCC yn gyfrifol am arwain y Bwrdd o Gyfarwyddwyr anweithredol i sicrhau bod HCC yn gweithredu'n effeithiol, ac mae'r Prif Weithredwr yn ymgymryd â rôl y Swyddog Cyfrifyddu wrth weithredu HCC. Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae'n ofynnol i HCC gydymffurfio â darpariaethau Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.
Disgrifiad o'r swydd
Dyma gyfrifoldebau allweddol y Bwrdd:
- Cefnogi’r gwaith o gyflawni prif argymhellion yr adolygiad annibynnol o HCC, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2016.
- Arwain y gwaith o gyflawni 'Gweledigaeth 2025 – Gweledigaeth a Chyfeiriad Strategol ar gyfer y Sector Cig Coch yng Nghymru hyd at 2025'.
- Mynychu Is-bwyllgorau'r Bwrdd fel sy'n briodol.
- Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu Cynllun Corfforaethol HCC a Chynllun Gweithredu HCC drwy'r Bwrdd.
- Sicrhau bod systemau ar waith i fonitro effeithiolrwydd HCC a bod gan holl Aelodau'r Bwrdd wybodaeth gywir, amserol a chlir ar berfformiad y cwmni.
- Cynnal trefniadau llywodraethu corfforaethol cadarn a sicrhau bod yr holl weithgareddau’n cael eu cynnal yn gywir ac yn briodol fel sy'n ofynnol gan sefydliad sy'n gwario arian cyhoeddus.
- Cyfathrebu â rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru a mynychu cyfarfodydd gyda nhw lle bo hynny'n briodol.
- Chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hyrwyddo safbwyntiau HCC i'r cyhoedd.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
I gael eich ystyried, mae'n rhaid ichi ddangos bod gennych y nodweddion arbennig, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y penodiad hwn:
Meini Prawf Hanfodol
Gwerthfawrogi anghenion amaethyddiaeth a'r diwydiant bwyd ehangach
- Gallu dangos eich bod yn gwerthfawrogi’r problemau sy'n wynebu'r diwydiant a'r rhai sy'n talu'r lefi cig coch yng Nghymru.
Profiad o Ddatblygu Strategol
- Meddwl creadigol a datblygu strategol;
- Y gallu i ddadansoddi a gwneud penderfyniadau effeithiol.
Profiad o Lywodraethu Corfforaethol
- Monitro effeithiolrwydd gweithgareddau a sicrhau bod gwybodaeth gywir, amserol a chlir ar berfformiad yn cael ei chasglu;
- Cyflawni gweithgareddau mewn ffordd gywir a phriodol.
Sgiliau Cyfathrebu
- Sgiliau cyfathrebu effeithiol gyda'r gallu i hyrwyddo safbwyntiau HCC a'r diwydiant i'r cyfryngau, y Llywodraeth a rhanddeiliaid;
- Sgiliau rhyngbersonol da a'r gallu i ddatblygu perthynas gadarn â rhanddeiliaid ac eraill.
Cydraddoldeb
- Ei gwneud yn haws cysylltu â rhanddeiliaid HCC a mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda chymunedau a rhanddeiliaid.
Profiad a Gwybodaeth: Meini Prawf Arbenigol
I sicrhau croestoriad o sgiliau ar Fwrdd HCC, wrth benodi aelodau bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'r meysydd penodol canlynol:
- Marchnata (cwsmeriaid/masnach)
- Cyllid ac archwilio
- Talwyr ardoll cig coch ( cynhyrchwyr cynradd a phroseswyr)
- Materion cyfreithiol a llywodraethu
- Academia
Yn ogystal â'r sgiliau arbenigol, byddai’n ddymunol pe bai gan aelodau'r Bwrdd y Sgiliau canlynol:
- Dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Y gallu i herio mewn modd adeiladol.
- Hanes profedig o adeiladu perthnasau ag amrediad o randdeiliaid.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o broblemau mewn perthynas â dysgu a gwaith ar lefel gymunedol, lefel leol a lefel ranbarthol neu lefel genedlaethol.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i egluro materion cymhleth mewn ffordd glir a chryno, wrth dangos parch tuag at safbwyntiau pobl eraill.
- Crebwyll cadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol.
- Dealltwriaeth o fywyd cyhoeddus ac egwyddorion llywodraethu da.
- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg a Saesneg.
- Profiad o gael eich holi gan y cyfryngau.
Y Gymraeg
Mae'n ddymunol bod gan Aelodau'r Bwrdd sgiliau yn y Gymraeg.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 03000 255454
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am swyddogaeth Hybu Cig Cymru a rôl aelodau’r bwrdd cysylltwch â:
Maria Richards
Ffôn: 03000 255002
E-bost: Maria.Richards@llyw.cymru
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â
penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.