Swydd Wag -- Aelod Annibynnol Cymuned O Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Manylion y swydd
Rôl y corff
Bwrdd Iechyd Prifysgol Lleol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae'n darparu ystod lawn o wasanaethau gofal sylfaenol, gofal cymunedol, gofal iechyd meddwl a gwasanaethau ysbyty acíwt ar gyfer poblogaeth o ryw 678,000 o bobl ledled chwe sir y Gogledd (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam).
Ym 2018/19 Roedd gan y Bwrdd Iechyd incwm refeniw o £1.54 biliwn ac roedd yn cyflogi tua 18,000 o bobl (15,500 cyfwerth ag amser cyflawn).
Mae gan y Bwrdd Iechyd dri phrif ysbyty (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam), yn ogystal â rhwydwaith o ysbytai cymunedol, canolfannau iechyd, clinigau, unedau iechyd meddwl a lleoliadau timau cymunedol. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cydgysylltu gwaith 109 o bractisau meddygon teulu a gwasanaethau GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr yn y Gogledd.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Aelodau Annibynnol, ymhlith pethau eraill, yn:-
· Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol.
· Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli beunyddiol;
· Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
· Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
· Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu hystyried yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau.
· Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
· Bod â’r gallu i fynegi barn ynghylch llywodraethu ac ariannu’r Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Meini Prawf Penodol i'r Rôl: Aelod Annibynnol - Cymuned
Bydd raid ichi ddangos:
- Gwybodaeth am faterion a blaenoriaethau'r gymuned leol ac empathi â nhw;
- Canolbwyntio ar y dinesydd wrth hyrwyddo diben y Bwrdd o wasanaethu'r cyhoedd
- Profiad sefydliadol a fydd o fudd i ddatblygiad y Bwrdd Iechyd.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Rhif ffôn: 03000 255454
E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol, cysylltwch â Mark Polin OBE QPM, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr.
E-bost mark.polin@wales.nhs.uk neu Llinos Roberts, Ysgrifennydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, rhif ffôn: 03000858844
E-bost llinos.roberts3@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, efallai yr hoffech edrych ar eu gwefan: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/hafan
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.