Swydd Wag -- Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Manylion y swydd

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Cymru Gyfan - mae gan y Comisiynydd swyddfa yng Nghaerdydd

£90-95k ynghyd â Threuliau rhesymol 

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gweithio'n llawn amser neu sy'n rhannu swydd


5
wythnos

Rôl y corff

Yng Nghymru rydym yn gwneud pethau’n wahanol. Mae gennym gyfraith sy’n ein helpu ni i gyd i weithio gyda’n gilydd i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas, a’n diwylliant.

Er mwyn ein pobl, er mwyn ein planed. Ar gyfer nawr, ac ar gyfer ein dyfodol. 

Ei henw yw Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (‘Y Ddeddf’), mae Cymru wedi nodi saith nod llesiant uchelgeisiol sy’n sefydlu gweledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru gynaliadwy ac sy’n disgrifio datblygu cynaliadwy fel y ffordd y cyflawnir y nodau hyn. Mae hyn yn ymwneud â diwallu anghenion y cenedlaethau presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i arwain Cymru o ran cyflawni’r nodau llesiant hyn a newid y ffordd y mae Cymru’n gweithio, 
fel mai datblygu cynaliadwy yw’r egwyddor graidd sy’n llywio ein camau gweithredu i wella llesiant pobl yn awr ac yn y dyfodol. 

Er mwyn cynorthwyo, cefnogi ac ysbrydoli’r trawsnewid hwn, sefydlwyd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol annibynnol i Gymru (‘y Comisiynydd’) i roi cyngor a chymorth ar ddatblygu cynaliadwy a bod yn eiriolwr dros genedlaethau’r dyfodol.

Disgrifiad o'r swydd

Mae Adran 17 o’r Ddeddf yn sefydlu swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, sef unigolyn a benodir gan Weinidogion Cymru ar ôl ymgynghori â’r Senedd. Penodir y Comisiynydd am gyfnod o 7 mlynedd. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllideb o £1.509 miliwn y flwyddyn i’r Comisiynydd. 

Crynodeb o’r dyletswyddau a’r pwerau
Rôl dyletswydd gyffredinol y Comisiynydd yw:

• Hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy. 

• Gweithredu fel gwarcheidwad gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion.

• Annog cyrff cyhoeddus i roi mwy o ystyriaeth i effaith hirdymor eu gweithgareddau. 

• Monitro ac asesu y gwaith o gyflawni’r amcanion llesiant a bennwyd gan y cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf.

Wrth gyflawni’r ddyletswydd gyffredinol, gall y Comisiynydd:

• Roi cyngor neu gymorth i’r canlynol: 
- Corff cyhoeddus. 
- Bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (mewn perthynas â pharatoi ei gynllun llesiant lleol). 
- Unrhyw berson arall y mae’n credu ei fod yn gweithredu, neu’n ceisio gweithredu, mewn ffordd a allai gyfrannu at nodau llesiant Cymru. 

• Annog arferion gorau a hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith cyrff cyhoeddus i helpu i sicrhau eu bod yn cyflawni eu hamcanion llesiant mewn modd sy’n gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. 

• Annog cyrff cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd a chydag eraill os gallai hynny eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant a rhannu’r gwersi a ddysgwyd a’r arferion gorau.

• Hyrwyddo ymwybyddiaeth ymhlith cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

• Cynnal adolygiad i nodi i ba raddau y mae corff cyhoeddus yn diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. 

• Ymgymryd ag ymchwil neu astudiaeth i ystyried pa mor gyson yw nodau a dangosyddion llesiant â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yr egwyddor ei hun, ac unrhyw beth sy’n ymwneud ag effeithiau ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

• Rhoi cyngor i Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy.

Rhaid i’r Comisiynydd wneud y canlynol:

• Llunio a chyhoeddi Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 12 mis cyn pob etholiad Senedd, sy’n cynnwys ei asesiad o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud i gyflawni’r nodau llesiant. Rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori ag ystod eang o sefydliadau a chynrychiolwyr wrth lunio’r adroddiad. 

• Llunio a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol a fydd yn cynnwys crynodeb o’r camau a gymerwyd gan y Comisiynydd, dadansoddiad o effeithiolrwydd y camau hynny, crynodeb o’r cwynion a dderbyniwyd, a blaenraglen waith. Gall yr Adroddiad Blynyddol gynnwys asesiad y Comisiynydd o’r gwelliannau y dylai cyrff cyhoeddus eu gwneud i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.

• Rhoi sylw i waith archwilio’r Archwilydd Cyffredinol wrth gynnal adolygiadau a pharatoi Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

• Gwybodaeth a dealltwriaeth gadarn am ddatblygu cynaliadwy, ei berthnasedd i Gymru a’r heriau a’r cyfleoedd sy’n codi yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

• Rhinweddau arwain profedig a phrofiad o gyflawni neu hwyluso newid sefydliadol a diwylliant mewn sefydliadau yn llwyddiannus.

• Gallu datblygedig i ennyn hyder mewn amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys sgiliau perswadio, a dylanwadu’n gadarnhaol ar bobl ar
bob lefel, ac ymdrin â’r cyfryngau a chynulleidfaoedd cyhoeddus ehangach.

• Profiad o weithio gyda chyrff cyhoeddus neu sefydliadau tebyg i’w cefnogi a’u hannog i weithio mewn ffordd fwy integredig a/neu i edrych i’r tymor hir. 

• Gwybodaeth am, a hanes o ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac o weithredu ar hynny mewn sefydliadau mawr a chymhleth. 

• Profiad cryf o ran materion ariannol, rheoli pobl, a llywodraethiant.

• Y gallu i fynegi materion cymhleth yn syml ac yn glir a chyflwyno tystiolaeth mewn ffordd glir a chymhellol. 

• Gwybodaeth brofedig am dirwedd y sector gwleidyddol a’r sector cyhoeddus yng Nghymru. 

• Dealltwriaeth o rolau cymharol cyrff cyhoeddus, preifat a thrydydd sector ac ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan

Dyddiadau cyfweliadau

26 Medi 2022
7 Hydref 2022

Dyddiad cau

15/08/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Noder hysbysebwyd y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon yn flaenorol oedd 8 Awst 2022

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)

Gall y rôl gynnwys cyswllt â phlant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed.  O ganlyniad, mae ymgeiswyr yn destun Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).  Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma ar wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.  Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn helpu cyflogwyr i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel. Mae DBS yn gorff cyhoeddus anadrannol gweithredol, a noddir gan y Swyddfa Gartref.

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, cysylltwch ag Andrew Charles (Dirprwy Gyfarwyddwr, Dyfodol Cynaliadwy) andrew.charles@llyw.cymru

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl 
hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.