Swydd Wag -- Chwaraeon Cymru Penodi Aelod o'r Bwrdd

Manylion y swydd

Chwaraeon Cymru
Cynhelir cyfarfodydd ledled Cymru ac ar-lein
£282 y dydd
2
mis

Rôl y corff

Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch egnïol yng Nghymru. Nod Chwaraeon Cymru yw gwella lefel y gyfranogaeth mewn chwaraeon ar lawr gwlad ond gan roi'r gefnogaeth sydd ei hangen hefyd ar athletwyr uchelgeisiol i gystadlu'n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Sefydlwyd Cyngor Chwaraeon Cymru ym 1972 trwy Siarter Frenhinol.  Y pedwar amcan a nodwyd pan sefydlwyd Cyngor Chwaraeon Cymru (a adwaenir bellach fel Chwaraeon Cymru) yw :

  • Cynyddu'r niferoedd sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden egnïol;
  • Codi safonau mewn perfformiad a rhagoriaeth;
  • Gwella'r ddarpariaeth o ran cyfleusterau chwaraeon;
  • Darparu gwybodaeth a chyngor technegol am chwaraeon, hamdden a ffyrdd egnïol o fyw.

I weld y Siarter Frenhinol, cliciwch yma: https://www.sport.wales/download/file/172/

Chwaraeon Cymru yw prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar chwaraeon ac mae'n cefnogi ei blaenoriaethau strategol drwy'r Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru a Strategaeth Chwaraeon Cymru. Mae blaenoriaethau gweithredol a thargedau perfformiad Chwaraeon Cymru yn cael eu llywio gan lythyr cylch gwaith Tymor y Llywodraeth oddi wrth Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth sy'n nodi ei blaenoriaethau strategol a pholisïau a chynlluniau gweithredu penodol, a'r polisïau a'r blaenoriaethau ehangach yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae ganddo hefyd ystod o ddyletswyddau a chyfrifoldebau statudol, gan gynnwys o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015), Deddf Cydraddoldeb (2010), a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw Chwaraeon Cymru, ac fe'i ariennir yn bennaf trwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid o'r Loteri Genedlaethol i chwaraeon yng Nghymru. Mae'n cynnal dwy ganolfan genedlaethol, yng Nghaerdydd ac ym Mhlas Menai yng ngogledd Cymru. 

Gallwch ddysgu mwy am Chwaraeon Cymru ar Beth yw Chwaraeon Cymru.

Disgrifiad o'r swydd

Bwrdd Chwaraeon Cymru sy'n arwain ac yn llywodraethu Chwaraeon Cymru ac yn gwneud y gwaith pwysig o graffu ar holl fuddsoddiadau a gweithgareddau Chwaraeon Cymru. Y Bwrdd hefyd sy'n pennu amcanion y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae gan y Bwrdd 12 Aelod, gan gynnwys y Cadeirydd, y Farwnes Tanni Grey-Thompson.

Bydd Aelodau'r Bwrdd yn atebol fel unigolion ac ar y cyd i Lywodraeth Cymru drwy Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. 

Rôl Aelod o'r Bwrdd

 

  • Deall manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol ynghyd â'u manteision positif i gymdeithas, gan hyrwyddo'r manteision hynny;
  • Meddu ar weledigaeth glir ynghylch sut y gall Chwaraeon Cymru barhau i gyfrannu fel y prif gorff sy’n rhoi polisi chwaraeon y Llywodraeth ar waith a thrwy hynny, ddeall Llywodraeth Cymru a sut y mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru'n gweithio;
  • Meddu ar sgiliau craffu a dadansoddi ardderchog i gefnogi a herio'r Weithrediaeth yn effeithiol, gan sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn cyrraedd ei amcanion, ei nodau a'i dargedau perfformiad;
  • Sicrhau bod Chwaraeon Cymru'n rhoi gwerth ei arian gan gadw at fframwaith arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb;
  • Cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol, gan gynnwys cymeradwyo cynlluniau cyllideb blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol;
  • Deall Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymo iddynt;
  • Arfer safonau uchel o safbwynt priodoldeb ac wrth ymdrin ag arian cyhoeddus;
  • Meddu ar ddealltwriaeth dda o gyfrifoldeb corfforaethol a rheoli risg i sicrhau bod gweithgareddau Chwaraeon Cymru yn cael eu cynnal yn effeithiol ac effeithlon;
  • Meddu ar feddwl ymchwilgar, sgiliau gwrando da a'r gallu i ddeall sefyllfaoedd ac adroddiadau cymhleth;
  • Meddu ar barodrwydd ac ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd y Bwrdd a gweithgareddau pwysig rhwng cyfarfodydd a chymryd rhan amlwg ynddynt;
  • Bod yn wleidyddol annibynnol;
  • Penodi Prif Weithredwr, os oes angen, ar ôl cael sêl bendith Llywodraeth Cymru.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.

Meini Prawf Hanfodol

  • Deall bywyd cyhoeddus ac egwyddorion llywodraeth dda;
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a hanes o weithio gydag eraill i wireddu amcanion; 
  • Y gallu i feddwl yn rhesymegol ac yn wrthrychol wrth ddadansoddi gwybodaeth gymhleth er mwyn medru adnabod cnewyllyn y mater a gwneud penderfyniadau da;
  • Ymrwymiad amlwg i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ledled Cymru;
  • Deall cymunedau amrywiol Cymru ac ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth;
  • Profiad fel uwch swyddog o o leiaf un o'r canlynol:
  • Archwilio a rheoli risg.
  • Rheolaeth gorfforaethol, gyda ffocws ar werth am arian a chyflawni.
  • Defnyddio technoleg ddigidol ac arloesedd mewn chwaraeon a hamdden egnïol.
  • Cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu.
  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb trwy ennyn diddordeb y rheini sydd wedi'u dadrithio.

     

    Dyddiadau cyfweliadau

    24 Gorffennaf 2023
    28 Gorffennaf 2023

    Dyddiad cau

    19/06/23 16:00

    Gwybodaeth ychwanegol

    Sut i wneud cais

    I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

    Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

    Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

    Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

    I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

    Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

    Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

    Commissioner for Public Appointments logo

    Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.