Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Penodi Is-Gadeirydd

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Mae'r tâl i Is-gadeirydd y Bwrdd Iechyd yn swm penodol o £(I’w gadarnhau) y flwyddyn (dyfarniad cyflog yn yr arfaeth).
13
mis

Rôl y corff

Ynglŷn â’r Bwrdd Iechyd:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu ac yn comisiynu ystod lawn o wasanaethau iechyd poblogaeth, mewn ysbytai ac yn y gymuned, ar gyfer trigolion y Rhondda, Taf Elái, Merthyr Cynon a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau gofal sylfaenol lleol; Practisau Meddygon Teulu, Practisau Deintyddol, Practisau Optometreg a Fferylliaeth Gymunedol a rhedeg ysbytai, canolfannau iechyd a thimau iechyd cymunedol. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gyfrifol am wneud trefniadau i breswylwyr gael mynediad at wasanaethau iechyd mwy arbenigol lle na ddarperir y rhain o fewn ffin y Bwrdd Iechyd.

 

Poblogaeth o tua 450,000 (Stats Cymru) sydd gan y Bwrdd Iechyd ac mae’n cynnwys Cynghorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Gyda thua 12,000 o staff, mae'n un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal (10,500 o staff cyfwerth ag amser llawn). Mae nifer sylweddol o'n gweithlu yn byw ac yn gweithio yn y cymunedau hyn. Ceir gwybodaeth fanwl am y gwasanaethau a ddarparwn a'n cyfleusterau ar ein gwefan yn yr adran 'Gwasanaethau'. Mae'r Bwrdd Iechyd yn adrodd yn rheolaidd ar ei berfformiad gan gynnwys targedau’r Fframwaith Cyflawni a bennwyd gan Lywodraeth Cymru sydd i'w gweld yno hefyd.

 

Yn ystod 2020, cyflwynodd y Bwrdd Iechyd Fodel Gweithredu newydd sy'n nodi sut y trefnir y Bwrdd Iechyd i helpu i ddarparu’r cymorth gorau i gadw pobl yn iach a gofalu am ein poblogaeth. Mae'r 'Model Gweithredu' newydd yn cefnogi ffocws ar brofiadau cymunedau a chleifion o wasanaethau'r bwrdd iechyd. Mae'n ei gwneud yn haws i bobl yn y bwrdd iechyd weithio gyda’r cleifion eu hunain, sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a mudiadau gwirfoddol ac mae'n ei helpu i ganolbwyntio ar gadw pobl yn iach, yn feddyliol ac yn gorfforol, yn hytrach na dim ond trin pobl pan fyddant yn sâl.

 

Y Gwasanaethau rydym yn eu cynnal:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gyfrifol am gynnal y sefydliadau canlynol ar ran Llywodraeth Cymru a GIG Cymru:

  • Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
  • Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (EASC).
  • Academi Delweddu Genedlaethol

 

Y Partneriaid rydym yn gweithio gyda nhw:

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn gweithio gydag ystod eang o bartneriaid mewn amrywiaeth o swyddogaethau gan gynnwys cyrff iechyd eraill, awdurdodau lleol, y gwasanaeth ambiwlans, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub a'r sector gwirfoddol/elusennol.

 

Rôl y Bwrdd

Mae pob un o aelodau'r Bwrdd yn rhannu'r cyfrifoldeb corfforaethol dros lunio strategaeth, sicrhau atebolrwydd, monitro perfformiad a llywio diwylliant, ynghyd â sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu mor effeithiol â phosibl. Mae'r Bwrdd, sy'n cynnwys y Cadeirydd, Is-gadeirydd, 9 Aelod Annibynnol, 3 Aelod Cyswllt, y Prif Weithredwr ac 8 Cyfarwyddwr Gweithredol yn rhoi arweiniad a chyfeiriad, gan sicrhau bod trefniadau llywodraethiant cadarn ar waith.

 

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a chyfrifoldebau

 

 

  • Yn ogystal â bod yn Aelod Annibynnol o’r Bwrdd sy’n rhannu cyfrifoldeb dros holl gyfrifoldebau’r Bwrdd, mae’r Is-gadeirydd hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb arweiniol penodol dros wasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau sylfaenol a gwasanaethau cymunedol yng Nghwm Taf Morgannwg. Yn hynny o beth, bydd disgwyl i’r Is-gadeirydd ddeall yr heriau a’r cyfleoedd yn y gwasanaethau penodol hynny, a sicrhau bod y Bwrdd yn hollol ymwybodol o’r materion hyn, yn ei holl drafodion, fel y gall gyflawni ei gyfrifoldebau yn llawn ym mhob maes.

  • Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei reoli, yn glinigol ac yn gorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol;

  • Gweithredu fel Ymddiriedolwr Corfforaethol Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg;

  • Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd;

  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw;

  • Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol;

  • Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau;

  • Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;

  • Gallu cyfrannu at brosesau ansawdd, llywodraethiant ac ariannu’r Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei bod yn agored ac yn onest yn ei gwaith, drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Manyleb y person

 

Mae'n hanfodol bod Aelodau Annibynnol yn dangos y priodoleddau canlynol:-

 

Gwybodaeth a Phrofiad

 

  • Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal y Bwrdd Iechyd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau sylfaenol a gwasanaethau cymunedol, a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;

  • Y gallu i wneud yr aelodau gweithredol yn atebol am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

  • Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;

  • Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth y mae eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth, ee Y Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR);

  • Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb a chynhwysiant ac ymrwymiad i hyrwyddo materion cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn enwedig o ran y modd y maent yn ymwneud â'r sector iechyd

 

 

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.

Dyddiadau cyfweliadau

8 Chwefror 2021
12 Chwefror 2021

Dyddiad cau

08/02/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

 

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: PublicAppointments@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, cysylltwch â'r Athro Marcus Longley, Cadeirydd.

 

Rhif ffôn: 01443 744922

E-bost: marcus.longley@wales.nhs.uk

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

 

 

 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.