Swydd Wag -- Is-lywydd - Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Manylion y swydd

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Cynhelir y rhan fwyaf o’r cyfarfodydd yn Aberystwyth
Di-dâl, ond gall aelodau hawlio costau teithio a chostau rhesymol eraill o fewn terfynau rhesymol
4
mis

Rôl y corff

Y Llyfrgell Genedlaethol yw prif lyfrgell ac archifdy Cymru. Mae’n ffynhonnell wybodaeth enfawr ac yn drysorfa ar gyfer pob pwnc. Mae’n storfa fyw o ddiwylliannau cofnodedig Cymru ac mae ar gael i bawb ei defnyddio am ddim. Mewn gwirionedd, mae iddi ddau ddimensiwn – adeilad ysblennydd yn Aberystwyth sy’n gartref i’r casgliadau deunydd printiedig, llawysgrifau, deunydd gweledol a deunydd clyweledol, a llyfrgell ar-lein sydd ar gael drwy’r rhyngrwyd.

Cefndir

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru (‘y Llyfrgell’) drwy Siarter Frenhinol ar 19 Mawrth 1907. Rhoddwyd Siarteri Atodol yn 1911 ac 1978 a oedd yn cynnwys mân ddiwygiadau cyfansoddiadol. Ar 19 Gorffennaf 2006, rhoddwyd Siarter Atodol newydd gan y Frenhines Elisabeth II. Bu i Siarter Atodol 2006 newid cyfansoddiad a threfn lywodraethu’r Llyfrgell yn sylweddol, a chydnabod bod pŵer wedi’i ddatganoli o San Steffan i Gymru. Cyn hyn, roedd gan y Llyfrgell Lys Llywodraethwyr a Chyngor. Erbyn hyn, mae ganddi Fwrdd Ymddiriedolwyr.

Mae’r Llyfrgell hefyd yn elusen gofrestredig (rhif cofrestredig: 525775) ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Felly, rhaid iddi weithredu fel: (a) sefydliad Siarter Frenhinol ac Elusen Gofrestredig o'r radd flaenaf, a (b) corff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Y ddwy swyddogaeth hyn sy'n rheoli sut y mae'n gweithredu ac yn cyflawni ei rôl a'i rhwymedigaethau. Mae’n ofynnol iddi daro cydbwysedd gofalus rhwng dilyn a chyflawni (a) amcanion ei Siarter a'i statws elusennol sy’n adlewyrchu ei diben sylfaenol, a (b) egwyddorion Llywodraeth hyd braich. Mae’r Ddogfen Fframwaith a baratowyd gan IAALl: Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru yn 2010, gan ymgynghori â’r Llyfrgell Genedlaethol, yn amlinellu amodau a thelerau’r cymorth grant a roddir i’r Llyfrgell gan Weinidogion Cymru.

Ar hyn o bryd, mae’r Llyfrgell yn cyflogi 240 aelod staff. Yn 2017-18, bydd yn cael oddeutu £17.89 miliwn o gymorth grant gan Lywodraeth Cymru.

Prif amcan y Llyfrgell, fel y’i nodir yn Siarter Atodol 2006, yw:

Casglu a gwarchod gwybodaeth gofnodedig o bob math ac ar bob ffurf, a darparu mynediad ati, yn enwedig gwybodaeth sy’n ymwneud â Chymru, y Cymry a phobl Geltaidd eraill, er budd y cyhoedd, gan gynnwys y rheini sy’n ymgymryd â gwaith ymchwil a dysgu.

Gellir rhannu cyfrifoldebau a gweithgareddau cysylltiedig y Llyfrgell yn bum swyddogaeth graidd, ac mae nifer o agweddau ynghlwm wrth bob un ohonynt:

• Casglu

• Cadwedigaeth

• Darparu mynediad a gwybodaeth

• Cyhoeddusrwydd a dehongli

• Cydweithredu proffesiynol (yn enwedig â llyfrgelloedd ac archifdai ledled Cymru, yn ogystal ag Amgueddfa Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru)

Mae ei chasgliadau cyfoethog ac amrywiol yn ganolog i’r Llyfrgell. Mae rhai ohonynt wedi’u cynnwys ar gofrestr Cof y Byd UNESCO:

• Deunydd printiedig: oddeutu 6 miliwn o lyfrau, cyfnodolion, papurau newydd a deunyddiau printiedig eraill. Mae’r Llyfrgell yn un o lyfrgelloedd 'adnau cyfreithiol' y DU (un o blith chwech yn unig yn y DU ac Iwerddon) ac mae’n casglu cyfran fawr o holl gyhoeddiadau printiedig y DU ac Iwerddon. Bellach, mae rhai ohonynt ar gael ar ffurf electronig.

• Llawysgrifau: 30,000 o eitemau. Mae'r hynaf yn dyddio yn ôl i 113 AD, ac maent yn cynnwys llenyddiaeth gynharaf Cymru a thestunau cynnar o Brydain ac Ewrop.

• Archifau: 15km, 2,500 o gasgliadau, gan gynnwys Archif Wleidyddol Cymru, cofnodion ystadau, Cofnodion Llys y Sesiwn Fawr a'r Eglwys yng Nghymru, pob ewyllys a brofwyd yn esgobaethau Cymru cyn 1858, papurau llenyddol modern ac archifau sefydliadau a busnesau Cymru.

• Mapiau: dros 1.5 miliwn o fapiau, a miloedd o atlasau.

• Lluniau: 50,000 o luniau sy’n cofnodi Cymru, yn bennaf drwy gyfrwng tirluniau a phortreadau.

• Ffotograffau: 950,000 o brintiau, negatifau a thryloywluniau – y casgliad mwyaf yng Nghymru.

• Microffurfiau: e.e. papurau newydd, archifau a ffynonellau hanes teulu.

• Deunydd sgrin a sain: 7 miliwn troedfedd o ffilmiau, 300,000 awr o fideos, 250,000 awr o recordiadau sain, 200,000 o eitemau o Archif ITV Wales, a miloedd o recordiadau a thapiau. Caiff y rhain i gyd eu cynnal gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru.

• Deunydd electronig: miliynau o wrthrychau digidol, gan gynnwys CD-ROMau, e-lyfrau, e-gyfnodolion, gwefannau, archifau electronig ac eitemau wedi'u digido.

Disgrifiad o'r swydd

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy Siarter Frenhinol. Mae Siarter Atodol 2006 yn darparu y bydd Is-lywydd yn un o’r tri Swyddog ar Fwrdd y Llyfrgell. Yn absenoldeb y Llywydd, neu os nad oes modd i’r Llywydd weithredu oherwydd salwch, neu os yw swydd y Llywydd yn wag, mae statudau o fewn y Siarter yn darparu y bydd yr Is-lywydd yn cyflawni swyddogaethau’r Llywydd. Felly, mae swyddi’r Llywydd a’r Is-lywydd yn ategu ei gilydd o ran cadeirio cyfarfodydd y Bwrdd a chynrychioli’r Llyfrgell. Ar gyfer rôl yr Is-lywydd, mae angen unigolyn sy’n meddu ar allu sylweddol i ganolbwyntio ac i addasu i sefyllfaoedd sy’n newid ar fyr rybudd.

Bydd yr Is-lywydd yn ymgymryd â swyddogaethau’r Llywydd yn ei absenoldeb. Yn eu plith mae:

• Cadeirio cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

• Cadeirio pwyllgorau eraill y Llyfrgell yn absenoldeb y Cadeirydd penodedig

• Cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ddwywaith y flwyddyn

• Cysylltu â swyddogion ac aelodau eraill y Bwrdd yn ôl y gofyn

• Cysylltu â’r Prif Weithredwr/Llyfrgellydd yn ôl y gofyn

• Cynrychioli’r Llyfrgell pan fydd yn ymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, yn bennaf pan fydd gofyn iddi ymwneud â Gweinidog neu un o Bwyllgorau’r Cynulliad

• Cynrychioli’r Llyfrgell mewn digwyddiadau cyhoeddus

Bydd angen neilltuo 3-4 diwrnod y mis i ymgymryd â rôl yr Is-lywydd.

Fel Ymddiriedolwr, dylai fod modd i’r Is-lywydd i:

• Arddangos sgiliau Llywodraethu ag Arweinyddiaeth i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i’r Llyfrgell

• Mynd i gyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi’n drylwyr ar eu cyfer

• Cyfrannu at y gwaith o benderfynu ar bolisïau, strategaethau a blaenoriaethau i gyflawni amcanion cyffredinol y Llyfrgell

• Sicrhau bod gweithgareddau’r Llyfrgell yn cael eu cyflawni’n effeithlon ac yn effeithiol

• Monitro perfformiad y Llyfrgell i sicrhau ei bod yn cyflawni ei nodau, ei hamcanion a’i thargedau perfformiad

• Sicrhau bod rheolaethau’r Llyfrgell yn sicrhau gwerth am arian o fewn fframwaith arferion gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb

• Arddangos sgiliau cnrychioli, llysgenhadol effeithiol er mwyn gweithredu fel llysgennad I’r Llyfrgell

• Mynychu gwiethgorau ychwanegol weithiau

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Bydd angen i’r Is-lywydd feddu ar arbenigedd mewn un neu ragor o’r meysydd a restrir isod. Disgrifiwch unrhyw brofiad perthnasol sydd gennych mewn un neu ragor o’r meysydd hyn.

• gwasanaethau gwybodaeth
• cynaladwyedd
• gwneud ceisiadau i gael cyllid/codi arian
• twristiaeth a hamdden
• profiad defnyddwyr/gwasanaethau cwsmeriaid
• masnach/e-fasnach
• cysylltiadau cyhoeddus/cyfryngau cymdeithasol
• y cyfryngau a chyfathrebu
• ystadau, adeiladau a phensaernïaeth
• TGCh/systemau
• cyfreithiol


• Mae angen ymrwymiad a brwdfrydedd dros waith y Llyfrgell a dealltwriaeth o’r sector diwylliannol yn gyfan. Disgrifwch sut y byddech chi’n bodloni’r gofynion yma.

• Rhaid i’r Is-lywydd fod yn barod i gydweithio’n agos â’i gyd-aelodau o’r Bwrdd wrth gyfrannu’n effeithiol mewn trafodaeth, gwneud penderfyniadau a dadlau. Disgrifiwch sut yr ydych chi’n mynd ati i weithio mewn tîm.

• Pan fydd yn dirprwyo ar ran y Llywydd, bydd angen i’r Is-lywydd ddefnyddio sgiliau arweinyddiaeth a dangos dealltwriaeth o’r broses o reoli sefydliad a llywodraethu’n effeithiol. Rhowch enghreifftiau sy’n darlunio eich profiad a’ch gallu yn y maes hwn.

• Bydd angen i’r Is-lywydd allu ennyn parch at statws y swydd a’r Llyfrgell ei hun. Caiff hyn ei adlewyrchu drwy sgiliau llysgenhadu, cyflwyno a negodi effeithiol y gellir eu defnyddio i ddylanwadu ar unigolion a sefydliadau allanol fel bod eu hagwedd at y Llyfrgell yn fwy cadarnhaol. Rhowch dystiolaeth sy’n dangos eich bod yn bodloni’r maen prawf hwn.

• Bydd angen i’r Is-lywydd feddu ar ddealltwriaeth dda o rôl y Llyfrgell fel elusen fawr ac fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Rhowch dystiolaeth sy’n dangos eich bod yn deall y ddwy swyddogaeth hyn.

• Byddai’n ddefnyddiol, (ond dim yn angenrheidiol) i’r Is-lywydd feddu ar rhywfaint o sgiliau Cymraeg. Nodwch lefel eich cymhwysedd.

Dyddiadau cyfweliadau

5 Mehefin 2017
6 Mehefin 2017

Dyddiad cau

31/03/17 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

I gael mwy o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 029 2082 5454
E-bost: DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

I gael mwy o wybodaeth am rôl Llyfrgell Genedlaethol Cymru a rôl yr Is-lywydd, cysylltwch â Carol Edwards drwy ffonio (01970) 632923 neu drwy e-bostio: carol.edwards@llgc.org.uk.

Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru drwy ffonio 029 2082 5454 neu drwy e-bostio DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

I gael mwy o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru, ewch i
http://gov.wales/about/recruitment/public-appointments/?skip=1&lang=cy

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Pan fyddwch wedi cofrestru, bydd modd ichi fynd i’r ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen ichi lanlwytho datganiad personol a CV i adran ‘Rhesymau dros wneud cais’ y ffurflen gais ar-lein.

Mae’r datganiad personol yn gyfle ichi ddangos sut yr ydych yn bodloni pob un o’r meini prawf a nodir ym manyleb y person ym mharagraff 14 Atodiad A. Mater i chi yw dewis sut i gyflwyno’r wybodaeth hon. Fodd bynnag, dylech geisio darparu enghreifftiau manwl sy’n dangos sut y mae’ch gwybodaeth a’ch profiad chi’n cydweddu â phob un o’r meini prawf, ac sy’n disgrifio’r hyn a wnaethoch chi i gyflawni canlyniad penodol. Bydd hefyd o fudd i’r panel dethol os byddwch yn nodi’n glir pa dystiolaeth sy’n berthnasol i ba faen prawf. Yn aml, bydd ymgeiswyr yn darparu paragraffau ar wahân ar gyfer pob maen prawf.

Ni ddylai eich datganiad personol fod yn hirach na dwy dudalen. Gallai eich cais gael ei wrthod pe baech yn mynd tu hwnt i’r terfyn hwn.

Dylech sicrhau bod eich CV yn cynnwys manylion cryno am eich swydd gyfredol neu’ch swydd ddiweddaraf, ynghyd â dyddiadau’r swydd hon. Dylech nodi unrhyw benodiadau blaenorol neu gyfredol fel Gweinidog.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.