Swydd Wag -- Aelod o Gymru - Awdurdod MeinWeoedd Dynol
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae'r HTA yn un o ddau awdurdod cymwys sydd â chyfrifoldeb ledled y DU dros reoleiddio meinweoedd a chelloedd ar gyfer triniaeth cleifion yn unol â Chyfarwyddebau Ewropeaidd. Yr awdurdod hefyd yw awdurdod cymwys y DU at ddibenion y Gyfarwyddeb Rhoi Organau sy'n pennu safonau gofynnol ar gyfer ansawdd a diogelwch rhoi organau a thrawsblaniadau ledled yr UE.
Mae'r HTA yn trwyddedu mwy nag 800 o sefydliadau sy'n storio ac yn defnyddio meinweoedd dynol mewn cysylltiad â'r gweithgareddau a gwmpesir gan Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004, Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 a Chyfarwyddebau Ewropeaidd.
Mae gan yr HTA rôl gyffredinol o oruchwylio cydymffurfiaeth â Deddf Meinweoedd Dynol 2004 a Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013, gan gynnwys rhoi cyngor ac arweiniad i bobl sy'n cyflawni gweithgareddau a gwmpesir gan y Deddfau hyn, aelodau o'r cyhoedd a Gweinidogion. Er enghraifft, mae'r HTA yn rhoi cyngor i aelodau o'r cyhoedd sy'n dymuno rhoi eu cyrff i ysgolion meddygol i'w harchwilio'n anatomegol ar ôl eu marwolaeth (yr hyn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei alw'n "gadael eich corff ar gyfer gwyddorau meddygol”). Mae'r HTA hefyd yn cyhoeddi codau ymarfer sy'n rhoi canllawiau ymarferol i weithwyr proffesiynol sy'n cyflawni gweithgareddau sydd o fewn ei gylch gwaith, gan gynnwys rhoi organau.
Mae rheoliadau a wneir o dan Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 a Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhodd o organau gan bobl sy’n fyw, a rhoddion mêr esgyrn a bôn-gelloedd gwaed ymylol (PBSCs) gan blant ac oedolion sydd heb alluedd gael eu cymeradwyo gan yr HTA. Diben hyn yw sicrhau na roddwyd tâl; nad ydynt dan orfodaeth a bod caniatâd dilys wedi’i sicrhau. Mae aelodau'r Awdurdod yn chwarae rhan allweddol yn y broses gymeradwyo. Mae'r HTA hefyd yn asesu achosion o roi organau byw yn yr Alban o dan gytundeb â Llywodraeth yr Alban.
Disgrifiad o'r swydd
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd yr Aelod o Grymu yn gallu arddangos y rhinweddau canlynol:
Gwybodaeth a Phrofiad – trafodwch y rhain yn eich datganiad personol
- Profiad o fod yn ymrwymedig i amcanion Bwrdd neu Bwyllgor a'r diddordeb a'r ymdrech i wneud cyfraniad gwirioneddol i Fwrdd neu Bwyllgor;
- Profiad o graffu a herio Bwrdd neu Bwyllgor yn effeithiol, a'u dwyn i gyfrif am eu perfformiad neu gyflawni eu strategaeth;
- Profiad o feddwl yn strategol ac arfer barn gadarn ar faterion cymhleth a sensitif; a
- Profiad o ddangos y safonau uchaf o briodoldeb personol mewn perthynas â llywodraethu, atebolrwydd, risg a rheolaeth ariannol.
Profiad neu sgiliau mewn un neu fwy o'r canlynol:
- Profiad proffesiynol yn unrhyw un o'r sectorau a reoleiddir gan yr HTA;
- Profiad o roi a thrawsblannu organau naill ai o safbwynt claf neu ymarferydd;
- Moeseg feddygol, clinigol neu ymchwil; a
- Data a dadansoddi fel sbardunau ar gyfer trawsnewid digidol.
Priodoleddau a Sgiliau Personol – trafodwch y rhain yn eich datganiad personol
- Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol â sgiliau dylanwadu a thrafod cadarn;
- Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau tymor hir a thymor byr;
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i fod yn glir ac yn gryno ac i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth tra'n dangos parch at farn pobl eraill;
- Y gallu i amsugno llawer iawn o wybodaeth a gwerthuso tystiolaeth gymhleth o fewn amserlen fer;
- Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol; a
- Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn
Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos:
- Dealltwriaeth eglur o faterion cydraddoldeb ac arferion gwahaniaethol heriol ac ymrwymiad iddynt; a
- Dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan', ynghyd ag ymrwymiad iddynt.
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol. Disgwylir i bob ymgeisydd ddangos empathi at yr iaith a dangos arweiniad i gryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog yn y GIG yng Nghymru.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ymhelaethu ar sut maent yn bodloni'r meini prawf uchod gan ddefnyddio enghreifftiau a thystiolaeth.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:
Tîm Penodiadau Cyhoeddus
penodiadaucyhoedduss@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu trafodaeth anffurfiol am rôl yr Aelod Cymraeg i'r HTA, cysylltwch â:
Yr Athro Chris Jones – Dirprwy Brif Swyddog Meddygol.
Rhif ffôn: 03000 257143
E-bost: Chris.Jones@llyw.cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am yr HTA ar gael yn:
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.