Swydd Wag -- Aelod Annibynnol (3 x Dymunol Cymraeg, 3 x Cymraeg Hanfodol) - Adnodd

Manylion y swydd

Adnodd
Yn rhithiol, gyda’r posibilrwydd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb mewn lleoliad sy’n ganolog i holl aelodau’r Bwrdd yn y dyfodol
£92 y dydd.   Gellir hawlio treuliau rhesymol eraill a allai godi wrth wneud gwaith ar ran y cwmni hefyd
3
mis

Rôl y corff

Arweiniodd y diffyg mewn adnoddau perthnasol, amserol a digonol i gefnogi cyflwyno'r cymwysterau diwygiedig yn 2015 at bryderon am y ddarpariaeth o adnoddau, yn y ddwy iaith, ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bu’r ‘Uwchgynhadledd adnoddau Cymraeg a dwyieithog' a gynhaliwyd yng Ngwanwyn 2017 yn gyfle i edrych ar y materion yn ymwneud â darparu adnoddau perthnasol i Gymru a'i chwricwlwm newydd, yn y ddwy iaith ar yr un pryd. Sefydlwyd grŵp rhanddeiliaid i ddatblygu gweledigaeth a chytuno ar seilwaith ar gyfer cynhyrchu adnoddau addysgol dwyieithog yn y dyfodol.

Mae darparu deunyddiau addysgol pwrpasol, yn amserol ac o ansawdd uchel i gefnogi dysgu ac addysgu yn elfen hanfodol o sicrhau hygrededd y cwricwlwm, ac o ran sicrhau'r ymrwymiad angenrheidiol gan ymarferwyr i'w wireddu.  Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn arloesol, yn uchelgeisiol ac yn heriol ac felly mae'n gofyn am ddull gwahanol sydd yr un mor uchelgeisiol i ddatblygu adnoddau a deunyddiau ategol wrth iddo gael ei wreiddio dros y blynyddoedd i ddod. Cytunodd  Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i argymhelliad y grŵp i sefydlu endid hyd braich gyda Bwrdd yn atebol i Weinidogion Cymru.

Ymgorfforwyd Adnodd fel cwmni cyfyngedig drwy warant Llywodraeth Cymru ar 12 Gorffennaf 2022.

Mae nifer sylweddol o adnoddau'n cael eu comisiynu ar hyn o bryd ond mae angen cydlynu hyn yn fwy strategol ac  mae lle hefyd i ddefnyddio’r cyllidebau ac arbenigedd sydd ar gael yn genedlaethol yn fwy effeithiol. Heb broses strategol genedlaethol, gellir dyblygu ymdrechion, ni sicrheir cydraddoldeb yn y ddarpariaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg ac nid yw'r holl adnoddau'n mynd drwy’r un broses o ran sicrhau ansawdd.

Bydd y cwmni hwn yn rhoi cyfleoedd i randdeiliaid ar draws y sector gydweithio, rhannu arbenigedd a phrofiad a datblygu gallu ysgolion ac ymarferwyr i greu adnoddau sy'n cefnogi eu cwricwlwm lleol. Bydd yn wasanaeth amlwg i droi ato, fydd yn hwyluso cyd-awduro rhwng athrawon a rhan ddeiliaid eraill, gan sicrhau fod talent yn cael ei gydnabod, ei feithrin a’i ddatblygu. Bydd yn clymu gyda gwaith y Rhwydwaith Cenedlaethol o weithredu’r cwricwlwm ac yn sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol yn cael eu datblygu yn unol ag egwyddorion ac ethos y cwricwlwm newydd, a’u bod yn cefnogi rôl ysgolion ac ymarferwyr fel dylunwyr cwricwlwm. Bydd yn buddsoddi hefyd mewn sgiliau a chapasiti yn y sector cyhoeddi, gan sicrhau cydlynu a chydweithio. 

Gweledigaeth Adnodd

Galluogi dysgwyr, ymarferwyr a rhieni/gofalwyr yng Nghymru i gael mynediad at adnoddau addysgol a deunyddiau ategol o ansawdd uchel, yn y Gymraeg a'r Saesneg, i gefnogi dysgu ac addysgu Cwricwlwm i Gymru a'i gymwysterau.

Byddwn yn:
-    Sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol pwrpasol, o ansawdd uchel ac yn amserol, yn Gymraeg ac yn Saesneg, wedi’u cyhoeddi ar yr un pryd i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau
-    Darparu trosolwg strategol o’r ddarpariaeth a chomisiynu adnoddau gan sicrhau bod adnoddau a deunyddiau ategol yn ymateb i'r anghenion a nodwyd gan y sector addysg
-    Hwyluso cydweithio agosach ar draws sectorau er mwyn sicrhau bod adnoddau yn cael eu cyd-awduro a manteisio i’r eithaf ar arbenigedd, gwybodaeth a sgiliau
-    Darparu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu, datblygu a chynhyrchu adnoddau, er mwyn sicrhau bod adnoddau yn cael eu datblygu yn unol ag ethos ac egwyddorion craidd Cwricwlwm i Gymru, a’u bod yn addas i bwrpas
-    Datblygu a buddsoddi mewn sgiliau a chapasiti mewn creu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol yng Nghymru
-     Sicrhau gwerth am arian, gan wneud y defnydd gorau o’r gyllideb a’r adnoddau
-    Cryfhau effeithiolrwydd hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth a’r defnydd o adnoddau.

Disgrifiad o'r swydd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.

Meini Prawf Hanfodol 

  • Gwybodaeth, sgiliau a/neu brofiad mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol: 

- Addysg

- Cyhoeddi neu e-ddysgu

- Adnoddau dynol.

- Rheolaeth ariannol

- Cyfreithiol 

- Archwilio a/neu reoli risg

- Y cyfryngau a chyfathrebu. 

  • Y gallu i wneud penderfyniadau a chyfrannu’n effeithiol i faterion strategol ac ymarferol.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol gyda’r gallu i gynrychioli Adnodd yn gyhoeddus ac ymgysylltu gyda rhanddeiliaid allweddol.
  • Dealltwriaeth o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac ymrwymiad i sicrhau bod y cyd-destun Cymreig, ynghyd â’i hiaith, yn cael ei adlewyrchu yng ngwaith Adnodd.

Ymrwymiad a dealltwriaeth o hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Dyddiadau cyfweliadau

10 Hydref 2022
15 Hydref 2022

Dyddiad cau

02/09/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Adnodd a rôl yr Aelod(au) cysylltwch ag Ann Evans: 

Ffôn: 03000253833

E-bost: ann.evans3@llyw.cymru

Neu, os yn cysylltu yn ystod 28 Gorffennaf – 9 Awst cysylltwch â IsadranYGymraeg.WelshLanguageDivision@gov.wales 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.