Swydd Wag -- Ymddiriedolwyr - Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Manylion y swydd

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Gellir mynychu cyfarfodydd yn bersonol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu'n ddigidol
12
blwyddyn

Rôl y corff

Diben Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth amrywiol yn hygyrch i bawb at ddibenion dysgu, ymchwil a mwynhau. 

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae'r Llyfrgell yn derbyn oddeutu £10 miliwn mewn cyllid refeniw blynyddol gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Llyfrgell hefyd yn gorff Siarter Frenhinol ac yn elusen annibynnol gofrestredig. Mae'r gwaith o'i rheoli a'i gweithrediadau yn cael eu goruchwylio gan Fwrdd Ymddiriedolwyr. 

Mae'r Llyfrgell yn rhan o bolisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae'n integreiddio ei gwaith i gefnogi pob un o'r saith nod llesiant, yn ogystal â phum elfen lywodraethu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy. 

I gael rhagor o wybodaeth am ddiben, gweledigaeth ac amcanion y Llyfrgell, cliciwch ar y ddolen isod: https://www.library.wales/fileadmin/fileadmin/docs_gwefan/amdanom_ni/dogfennaeth_gorfforaethol/2017-2021_Strategic_Plan_FINAL.pdf

 

Disgrifiad o'r swydd

 

  • Meddu ar ddealltwriaeth o’r sector treftadaeth ddiwylliannol a hyrwyddo ei fuddion yn weithredol i gymunedau amrywiol Cymru a thu hwnt
    .
  • Bod â dealltwriaeth glir o ran sut gall y Llyfrgell barhau i gyfrannu fel prif ddarparwr polisi treftadaeth ddiwylliannol y llywodraeth

  • Adolygu, craffu ar, herio a chefnogi'r weithrediaeth i gyflawni nodau, amcanion a thargedau'r Llyfrgell, a sicrhau llywodraethu da

  • Meddu ar ddealltwriaeth dda o gyfrifoldeb corfforaethol a rheoli risg i sicrhau bod gweithgareddau'r Llyfrgell yn cael eu cynnal yn effeithiol ac yn effeithlon

  • Cymryd rhan yn y broses cynllunio corfforaethol, gan gynnwys cymeradwyo cynlluniau cyllideb blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol

  • Meddu ar ddealltwriaeth o ran sut mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru'n gweithredu

  • Sicrhau bod y Llyfrgell yn cael gwerth am arian o fewn fframwaith arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb

  • Gweithio fel rhan o Fwrdd sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth mewn ffordd bositif ac sy’n herio ymddygiad anymwybodol gan gyfrannu'n weithredol yn ystod cyfarfodydd y bwrdd a gweithgareddau allweddol

  • Cyfrannu'n weithredol i annog aelodaeth o'r bwrdd a'r genhedlaeth nesaf o ymddiriedolwyr

  • Gweithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo safonau uchel o gywirdeb a chyllid cyhoeddus

  • Bod yn wleidyddol annibynnol

  • Meddu ar ddealltwriaeth eglur o “Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus” Nolan a bod yn ymrwymedig iddyn.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i gyflawni'r holl feini prawf canlynol ar gyfer penodi:


  • Ymrwymiad a brwdfrydedd at waith y Llyfrgell, ynghyd â dealltwriaeth o'r sector diwylliannol yn ei gyfanrwydd;

  • Ymrwymiad amlwg i ddeall rôl ddeuol y Llyfrgell fel elusen fawr a Chorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn unol â dealltwriaeth o fywyd cyhoeddus ac egwyddorion llywodraethu da;

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a hanes o weithio gydag eraill i wireddu amcanion;

  • Y gallu i feddwl yn rhesymegol ac yn wrthrychol ac i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth er mwyn nodi materion allweddol a gwneud penderfyniadau da; a

  • Dealltwriaeth o gymunedau amrywiol Cymru ac ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth a chynwysoldeb mewn ffordd weithredol.

Profiad o fewn o leiaf un o'r maesydd canlynol:

  • Technoleg ddigidol ac arloesedd ym maes treftadaeth ddiwylliannol

  • Ymgysylltu – gan gynnwys profiad o ymgysylltu â grwpiau dan anfantais ac o ddiwallu anghenion grwpiau amrywiol yng Nghymru

  • Sgiliau proffesiynol mewn rheoli archifau a gwybodaeth / llyfrgellyddiaeth a rheoli casgliadau, cadwraeth a chadw digidol

  • Archwilio a rheoli risg

  • Codi arian/denu cyllid ychwanegol a chreu incwm masnachol

  • Hyrwyddo/ marchnata

  • Rheoli eiddo / rheoli ystadau.

Dyddiadau cyfweliadau

25 Ionawr 2021
26 Ionawr 2021

Dyddiad cau

02/11/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.