Swydd Wag -- Penodi Aelod o’r Bwrdd: Cefndir mewn rheoli’r amgylchedd, y dirwedd neu’r tir - Cyfoeth Naturiol Cymru

Manylion y swydd

Cyfoeth Naturiol Cymru
Oherwydd pandemig Covid-19 mae llawer o'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol ar hyn o bryd, ond yn y tymor hwy cynhelir y cyfarfodydd yn gyhoeddus mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru, a gall rhai ohonynt olygu aros dros nos.
£350 y dydd ynghyd â threuliau rhesymol. 
36
blwyddyn

Rôl y corff

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, yn atebol i Weinidogion Cymru trwy’r Gweinidogion Noddi (Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd ar hyn o bryd) ac yn destun craffu gan Bwyllgorau perthnasol y Cynulliad. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod CNC yn arfer ei swyddogaethau deddfwriaethol yn briodol ac yn effeithiol. Mae hefyd yn atebol i Weinidogion Cymru am sut y mae’n cyflawni yn erbyn y llythyr cylch gwaith blynyddol.

Disgrifiad o'r swydd

Rydym yn chwilio am aelod newydd o'r Bwrdd i ddechrau ar 1 Medi 2021. Mae'r canllawiau hyn ar gyfer rôl Aelod o'r Bwrdd sydd â phrofiad o reoli'r amgylchedd, y dirwedd neu'r tir.

Mae CNC angen pobl ag uchelgais a syniadau a all ymrwymo i fynychu chwe chyfarfod Bwrdd y flwyddyn. Bydd disgwyl hefyd i aelodau'r Bwrdd fod yn aelodau o is-bwyllgorau statudol sy'n cyfarfod 4-6 gwaith y flwyddyn. Mae gan y rôl hon ymrwymiad amser o 36 diwrnod y flwyddyn a caiff ei chynnig fel penodiad cychwynnol o ddwy, tair neu bedair blynedd. Gellir lleoli'r swydd yn unrhyw le yng Nghymru ac mae tâl o £350 y dydd ynghyd â threuliau rhesymol. 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Mae angen i bob ymgeisydd ddangos y sgiliau a'r ymddygiadau canlynol:

  • Parchu a deall egwyddorion atebolrwydd a llywodraethu da
  • Crebwyll wrth wneud penderfyniadau cymhleth
  • Y gallu i ddehongli a herio adroddiadau ariannol a materion perfformiad ehangach
  • Ffocws ar genedlaethau'r dyfodol
  • Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Hefyd, rydym yn chwilio am bobl sy'n bodloni'r sgiliau canlynol:

  • Profiad o reoli'r amgylchedd, y dirwedd neu'r tir
  • Naill ai proffil cyhoeddus neu brofiad cyfathrebu
  • Gallu'r Gymraeg yn ddymunol.

Dyddiadau cyfweliadau

21 Mehefin 2021
2 Gorffennaf 2021

Dyddiad cau

30/04/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I wneud cais ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru. Ar gyfer ymholiadau am y swydd, anfonwch e-bost at Uned Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru. I archebu lle yn y digwyddiadau gwybodaeth ar gyfer darpar ymgeiswyr, cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth Bwrdd CNC.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.