Swydd Wag -- Aelodau'r Cyngor (Cymraeg yn Hanfodol) - Cyngor Celfyddydau Cymru

Manylion y swydd

Cyngor Celfyddydau Cymru
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein, yn Swyddfeydd CCC ym Mae Caerdydd ac mewn lleoliadau amrywiol ledled Cymru. Mae ymateb y Cyngor i Covid-19 yn golygu bod cyfarfodydd ar-lein yn fwy tebygol yn y tymor byr i'r tymor canolig.
Di-dâl, ond mae gan Aelodau hawl i gostau teithio a threuliau rhesymol eraill o fewn terfynau y cytunwyd arnynt.
1
mis

Rôl y corff

Cefndir

Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1994. Ariennir Cyngor y Celfyddydau yn bennaf drwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn elusen gofrestredig o dan y Gyfraith Elusennol ac mae'n un o bedwar Dosbarthwr y Loteri yng Nghymru.

 

Dyma amcanion y Cyngor fel y’u nodir yn ei Siarter Frenhinol:

 

a) i ddatblygu a gwella gwybodaeth am y celfyddydau, eu deall a’u hymarfer;

b) i gynyddu hygyrchedd y celfyddydau i’r cyhoedd;

c) i gynghori a chydweithredu â Llywodraeth Cymru a'r cyrff perthnasol; a

d i gyflawni’r amcanion drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Fel rhan o delerau ac amodau’r cyllid, mae gan Aelodau'r Cyngor gyfrifoldeb fel unigolion ac yn gorfforaethol i Lywodraeth Cymru.

 

Ynglŷn â Chyngor Celfyddydau Cymru

 

Fel asiantaeth ariannu a datblygu celfyddydau’r wlad, mae Cyngor y Celfyddydau:

 

  • yn cefnogi a datblygu gweithgarwch celfyddydol o ansawdd uchel – mae'n buddsoddi arian cyhoeddus, wedi'i ddarparu gan y trethdalwr a’i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru, i helpu'r celfyddydau i ffynnu yng Nghymru

 

  • yn datblygu ac yn cyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau – mae'n sicrhau bod mecanweithiau, prosesau a gweithdrefnau priodol yn eu lle i gynnal yr agenda strategol a lunnir gan Lywodraeth Cymru, fel y’i nodir yn y ddogfen strategaeth ddiweddaraf (y Rhaglen Lywodraethu ar hyn o bryd) a'r llythyr Cylch Gwaith Blynyddol

 

  • yn dosbarthu arian y Loteri – trwy geisiadau i'w rhaglenni cyllido mae'n buddsoddi mewn prosiectau sy'n datblygu gweithgarwch celfyddydol newydd, gan gefnogi unigolion a sefydliadau

 

  • yn rhoi cyngor ar y celfyddydau – drwy ei staff a'i ymgynghorwyr, Cyngor y Celfyddydau sydd â'r gronfa fwyaf o arbenigedd a gwybodaeth yn y celfyddydau yng Nghymru

 

  • rhannu gwybodaeth – Cyngor y Celfyddydau yw canolfan genedlaethol rhwydwaith o wybodaeth am y celfyddydau yng Nghymru. Mae ganddo hefyd gysylltiadau rhyngwladol cryf yn y DU a thu hwnt

 

  • yn codi proffil y celfyddydau yng Nghymru – Cyngor y Celfyddydau yw'r llais cenedlaethol dros y celfyddydau yng Nghymru, gan wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o safon, gwerth a phwysigrwydd celfyddydau'r wlad

 

  • yn creu mwy o arian i economi'r celfyddydau - drwy fentrau fel Y Cynllun Casglu - cynllun y Cyngor i annog mwy o bobl i brynu celf - a'i waith i sicrhau cyllid Ewropeaidd; mae'r rhain yn dod â mwy o arian i economi'r celfyddydau

 

  • yn dylanwadu ar gynllunwyr a phenderfynwyr – mae'r celfyddydau'n digwydd mewn llawer o leoedd gwahanol. Maent yn gallu cael effaith ddramatig ar ansawdd bywydau pobl, a'r llefydd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt. Mae'r celfyddydau hefyd yn aml wrth galon mentrau ar gyfer adfywio economi a chymdeithas, ar gyfer trawsnewid dysgu mewn ysgolion ac ar gyfer hyrwyddo iechyd a lles. Mae Cyngor y Celfyddydau'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y cyfraniad y gall y celfyddydau ei wneud yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a'i ddathlu.

Disgrifiad o'r swydd

Rôl Aelod o'r Cyngor

 

Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru yw Cyngor Celfyddydau Cymru, ac o'r herwydd, Llywodraeth Cymru sy'n gosod yr agenda strategol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru.  Carai annog pobl i gymryd rhan egnïol yn y celfyddydau a sicrhau bod profiadau diwylliannol o'r safon uchaf ar gael i bawb yng Nghymru, waeth ble maen nhw'n byw na beth yw eu cefndir cymdeithasol.

 

Mae disgwyl i aelodau'r Cyngor:

 

  • Gymryd rhan yng ngweithgareddau'r Cyngor a chyfrannu'n effeithiol atynt, yn enwedig o ran diffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol, gosod a chyflawni amcanion heriol, a chefnogi polisi Llywodraeth Cymru;

 

  • Adolygu, craffu, herio a chefnogi’r Weithrediaeth;

 

  • Hyrwyddo safonau uchel o uniondeb wrth reoli arian cyhoeddus, a sicrhau bod gweithgareddau'r Cyngor yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol, gan sicrhau gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer gorau, rheoleidd-dra ac uniondeb;

 

  • Cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol, gan gynnwys cymeradwyo cyllidebau blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol ;

 

  • Gweithio fel rhan o Gyngor sy'n gwerthfawrogi gwahaniaeth ac yn herio ymddygiadau anymwybodol, ac

 

  • Penodi Prif Weithredwr, os oes angen, ar ôl cael sêl bendith Llywodraeth Cymru.

 

  • Cymryd rhan weithredol mewn gwaith i ehangu mynediad a chreu sector a sefydliad Celfyddydol cynhwysol yn unol â Chynllun Gweithredu Cyngor Celfyddydau Cymru ar Ehangu Ymgysylltiad a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd a’r Cynllun Gweithredu LHDTQ.

 

 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Yn 

Yn eich cais, bydd disgwyl i chi ddangos eich bod yn gallu bodloni’r meini prawf hanfodol canlynol:

 

Meini Prawf Hanfodol:

 

  • Gwybodaeth am y sectorau celf, y diwydiannau creadigol, diwylliant neu dreftadaeth ac ymrwymiad cryf i ddatblygu rôl y celfyddydau ledled Cymru, ynghyd â gwerthfawrogiad o'r cyd-destunau diwylliannol, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithredu ynddynt; ac o’i rwymedigaethau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

 

  • Ymrwymiad i gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb, yn ogystal ag ehangu mynediad i, ac ymgysylltu â'r celfyddydau ledled Cymru.

  • Gwerthfawrogiad o'r heriau sy'n wynebu sefydliadau celfyddydol, CCC a'r rheini sy'n gweithio yn y celfyddydau, gyda'r gallu i feddwl yn greadigol ynglŷn â sut mae mynd i'r afael â'r heriau hyn;

 

  • Gwneud penderfyniadau cadarn, ar sail dadansoddiad trylwyr a gweledigaeth strategol;

 

  • Profiad o gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel; yn benodol y gallu i weithredu fel llysgennad dros y celfyddydau a’r gallu i ddangos tact a diplomyddiaeth wrth ymdrin â rhanddeiliaid;

 

  • Dealltwriaeth o egwyddorion llywodraethu da;

 

  • Ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan;

 

·       Profiad o un neu fwy o'r ffurfiau/meysydd celf canlynol: 

 

  • Profiad o fewn y diwydiannau creadigol: yn benodol, celfyddydau digidol, dawns neu lenyddiaeth;
  • Profiad o hyrwyddo a datblygu'r celfyddydau mewn awdurdodau lleol, mewn addysg neu mewn sefydliadau iechyd;
  • Profiad o sut y mae'r celfyddydau yn effeithio ar les cymunedau amrywiol ledled Cymru, gan gynnwys rhai o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd is.
  • Profiad o gyfathrebu a/neu gysylltiadau cyfryngau â dealltwriaeth o sut i adeiladu a chymhwyso strategaethau cyfathrebu yn effeithiol;
  • Profiad o systemau ariannol a gwaith rheoli ariannol a/neu risg a sicrwydd mewn sefydliadau cymhleth;
  • Profiad neu ddealltwriaeth o weithgareddau masnachol a chreu incwm, gan gynnwys codi arian, a'r gallu i gymhwyso hyn i sefydliadau celfyddydol
  • Profiad o Adnoddau Dynol, gorau oll os enillwyd yn y sector gyhoeddus gyda dealltwriaeth o reolaeth newid.

 

 

Rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan fenywod, pobl anabl a phobl ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Dyddiadau cyfweliadau

17 Chwefror 2023
18 Chwefror 2023

Dyddiad cau

03/01/23 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I ddysgu am aelod presennol o brofiad Cyngor y Celfyddydau o fod yn aelod o'r Cyngor, ewch i Aelod o'r Cyngor: Gwennan Mair Jones - YouTube.

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rôl Cyngor Celfyddydau Cymru a rôl yr Aelodau cysylltwch â: 

Dr Nicky Guy, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Diwylliant, Llywodraeth Cymru 
E-bost: Nicola.Guy@llyw.cymru
Ffôn: 03000 251899 

neu Katy Brown (Cyngor Celfyddydau Cymru) yn 
Katy.Brown@arts.cymru

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.