Swydd Wag -- Ymddiriedolwyr - Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Manylion y swydd

Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Cynhelir cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr 4 gwaith y flwyddyn, gyda'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y de. Ers pandemig Covid-19, cynhelir rhithgyfarfodydd ond gobeithir ailddechrau cynnal cyfarfodydd personol yn 2021. Bydd y rhan fwyaf o weithgareddau'r Ymddiriedolwyr yn ardal Caerdydd fel arfer, ac fel sefydliad cenedlaethol, rydym yn ymweld yn rheolaidd â’n hamgueddfeydd eraill a’n partneriaid ledled Cymru.
Nid yw ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru’n cael eu talu, ond gallant hawlio costau teithio a chynhaliaeth.
2
mis

Rôl y corff

Amgueddfa Cymru


Amgueddfa Cymru tyw un o brif sefydliadau diwylliannol a chenedlaethol Cymru. Mae 1.9 miliwn o bobl yn ymweld ag Amgueddfa Cymru bob blwyddyn.

Y Cefndir

Wedi'i sefydlu gan Siarter Frenhinol yn 1907, Amgueddfa Cymru yw un o'r amgueddfeydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig, a'r sefydliad diwylliannol pwysicaf yng Nghymru. Mae'r Amgueddfa yn geidwad casgliadau amrywiol a rhyngwladol bwysig, ac yn arwain ar addysg a chyfranogi diwylliannol.

Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Amgueddfa Werin Cymru: Sain Ffagan; Y Pwll Mawr: Yr Amgueddfa Lo Genedlaethol ym Mlaenafon; Yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nhre-fach, Felindre; Amgueddfa'r Lleng Brydeinig yng Nghaerllion; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae gan Amgueddfa Cymru Ganolfan Casgliadau Cenedlaethol hefyd ger Caerdydd. Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, yn cynnwys gwaith celf a dylunio, hanes ac archaeoleg, a'r gwyddorau naturiol.

Caiff Amgueddfa Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, fel Corff a Noddir, ac mae ganddi Fwrdd o Ymddiriedolwyr sydd â'r swyddogaeth o bennu cyfeiriad strategol y sefydliad, ac o sicrhau bod yr adnoddau yn cael eu rheoli yn iawn. Cyfanswm Cymorth Grant Amgueddfa Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2019/20 oedd £23 miliwn. Mae'n cyflogi dros 600 aelod staff.

Gweledigaeth Amgueddfa Cymru "Ysbrydoli Pobl, Newid Bywydau"

Ein nod yw defnyddio'n hamgueddfeydd a'n casgliadau i ysbrydoli pobl i feithrin ymdeimlad o lesiant ac o hunaniaeth, i fynd ati i ddarganfod, i fwynhau ac i ddysgu'n ddwyieithog, ac i ddeall lle Cymru yn y byd ehangach.

Mae ein gwaith yn seiliedig ar yr egwyddor bod diwylliant yn cael ei greu gan bobl a chymunedau. Mae ein casgliadau ac adnoddau eraill yn dod yn rhannol o'r gymdeithas yr ydym yn rhan ohoni, ac yn cael eu hadnewyddu'n barhaus trwy ein gwaith gyda'r cyhoedd. Mae ein casgliadau gwyddorau naturiol yn cael effaith ar fioamrywiaeth a geoamrywiaeth Cymru ac yn cymharu â chasgliadau byd-eang. Rydym yn atebol i'r genedl yr ydym yn ei gwasanaethu am ein defnydd o'r adnoddau hyn.

Mae gan yr Amgueddfa gynlluniau partneriaeth pwysig gydag amgueddfeydd ac orielau lleol ym mhob cwr o Gymru, ynghyd â chyda llu o gyrff ac elusennau cenedlaethol a chymunedol.

Rydym wrthi’n datblygu strategaeth 10 mlynedd newydd ar gyfer y sefydliad, a newydd gwblhau ymgynghoriad eang â’r cyhoedd. Cewch ragor o wybodaeth yma: https://amgueddfa.cymru/eichllais.

Disgrifiad o'r swydd

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yw corff llywodraethu Amgueddfa Cymru ac mae'n dal casgliadau'r Amgueddfa mewn ymddiriedolaeth ar ran pobl Cymru. Rôl y Bwrdd yw arwain yn effeithiol, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol. Mae'r Bwrdd yn hyrwyddo safonau uchel o atebolrwydd cyhoeddus ac yn cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae'n monitro perfformiad yn unol â nodau, amcanion a thargedau perfformiad Amgueddfa Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn elusen gofrestredig ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Mae gan Ymddiriedolwyr rwymedigaethau i Lywodraeth Cymru ac i Senedd Cymru. Ar hyn o bryd, mae Amgueddfa Cymru yn derbyn tua 80% o'i chyllid blynyddol (rhyw £23 miliwn o gyllid refeniw yn 2019/20) oddi wrth Lywodraeth Cymru ar ffurf Cymorth Grant.

Swyddogaeth Ymddiriedolwr

Mae'n rhaid i Ymddiriedolwyr yn gyntaf gefnogi'r Cyfarwyddwr Cyffredinol i weithredu Gweledigaeth yr Amgueddfa o 'Ysbrydoli Pobl; Newid Bywydau'.

Mae'n rhaid i Ymddiriedolwyr hefyd:

  • fynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi'n drylwyr ar eu cyfer;
  • gwasanaethu ar is-bwyllgorau; 
  • cefnogi rheolwyr a staff yr Amgueddfa yn eu gwaith;
  • cynrychioli'r Amgueddfa mewn digwyddiadau cyhoeddus;
  • hyrwyddo proffil yr Amgueddfa;
  • rhoi eu profiad a'u harbenigedd i'r Amgueddfa;
  • hwyluso'r cysylltiadau gyda rhanddeiliaid yr Amgueddfa; a
  • chyfrannu at y gwaith o lunio polisïau a strategaethau a phennu blaenoriaethau i fodloni amcanion cyffredinol yr Amgueddfa.


Mae gofyn i Ymddiriedolwyr fod yn ymwybodol hefyd o’r rhwymedigaethau sydd arnynt yn sgil y ffaith bod yr Amgueddfa yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Caiff y rhain eu nodi yn y Ddogfen Fframwaith, sy'n nodi'r Telerau a'r Amodau sy'n gysylltiedig â'r arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i'r Amgueddfa.


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

I fod yn effeithiol, mae ar y Bwrdd angen Ymddiriedolwyr amrywiol iawn eu harbenigedd a'u profiad. Fel Ymddiriedolwr, byddwch yn helpu i benderfynu ar bolisïau, strategaethau a blaenoriaethau gweithgareddau craidd yr Amgueddfa. Dylech fedru defnyddio eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad byw neu broffesiynol i ddarparu tystiolaeth o’ch gallu yn y meysydd canlynol:

  • ymrwymiad a brwdfrydedd yng ngwaith yr Amgueddfa i gefnogi newid a datblygiad yng Nghymru drwy gyfraniadau diwylliannol; a

  • dealltwriaeth a diddordeb yn y sector diwylliannol yn ei gyfanrwydd a sensitifrwydd ynghylch materion diwylliannol; 

  • sgiliau cynrychioli a chyfathrebu rhagorol; 

  • cydweithio’n agos â’ch cyd-Ymddiriedolwyr;

  • profiad rheoli mewn cyd-destun busnes, sefydliadol, gweinyddol neu gyddestun arall, gan werthfawrogi’r gwahaniaeth rhwng y swyddogaeth polisi a’r swyddogaeth weithredol; a

  • ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol lle bo hynny’n briodol. 



Dylai ymgeiswyr fedru dangos bod ganddynt:

  • ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru, gan werthfawrogi ei swyddogaeth a'i bwrpas fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru; gan gynnwys y cyd-destun diwylliannol, dysgu, iechyd a llesiant, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae'n gweithredu o fewn iddo; a dealltwriaeth o'i rwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;

  • y gallu i wella swyddogaeth yr Amgueddfa wrth wasanaethu a chynrychioli amrywiol gymunedau a rhanbarthau Cymru

  • arbenigedd yn un neu ragor o’r meysydd a ganlyn:

  • Sut gall eich gwaith roi cefnogaeth bositif i les cymunedau amrywiol ledled Cymru a’r rheini sy’n dioddef anghydraddoldeb;

  • Gwasanaethau digidol sy’n cefnogi rhaglenni cyhoeddus, dysgu a seilwaith;

  • Datblygu busnes, codi arian, gweithgareddau masnachol, cynhyrchu incwm;
     
  • Elusennau’r trydydd sector / mudiadau cymunedol Atyniadau ymwelwyr;

  • Gweithio gyda chyrff a etholir gan y cyhoedd;

  • Iechyd a lles; o Marchnata a chyfathrebu; a

  • ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan


Dylai fod gan ymddiriedolwyr ddiddordeb byw yng ngweithgareddau’r Amgueddfa, ei rôl fel sefydliad dysg, ei datblygiad a’i chynaliadwyedd yn y dyfodol, a dylent ddeall y cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth fod yn rhan o Fwrdd.

Dyddiadau cyfweliadau

25 Chwefror 2021
25 Chwefror 2021

Dyddiad cau

08/01/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.