Swydd Wag -- Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru - Penodi Aelod Newydd - Gymraeg yn hanfoldol

Manylion y swydd

Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru
Cynhelir cyfarfodydd y Grŵp Fframwaith yng Nghaerdydd fel arfer. Fodd bynnag, gall fod achlysuron pan fydd gofyn mynd i gyfarfodydd mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.

 Rhoddir tâl cydnabyddiaeth o £92 y dydd am wneud y swydd a chaiff y tâl cydnabyddiaeth ei dalu fesul cyfarfod.

 Telir £92 y dydd i aelodau. Ystyrir aelodau yn ddeiliaid swydd at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol. O ganlyniad, bydd rhaid talu treth ar y taliad o dan Adran 62 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 a bydd yn rhaid talu cyfraniadau Dosbarth 1 Yswiriant Gwladol. Tynnir y symiau hyn drwy system gyflogres Llywodraeth Cymru a thelir y ffi net i ddeiliad y swydd.

20
blwyddyn

Rôl y corff

Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru

Lansiwyd Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ym mis Gorffennaf 2014 ac mae ynddo gynllun cyffredinol ar gyfer cyfnod o ddeng mlynedd i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid. Mae, ar yr un pryd, yn ein helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac yn cyfrannu at yr economi a’r amgylchedd.

Mae'r Fframwaith yn ymdrin ag iechyd a lles anifeiliaid a ffermir, anifeiliaid anwes, anifeiliaid sy'n gweithio, anifeiliaid cadw sy'n gysylltiedig â chwaraeon a dyframaethu. Mae'r Fframwaith hefyd yn berthnasol i anifeiliaid gwyllt os yw'r camau a gymerwn yn effeithio ar eu hiechyd a'u lles neu os oes perygl y gallai bywyd gwyllt drosglwyddo clefydau i anifeiliaid eraill neu i bobl.

Mae'r Fframwaith yn pennu pum canlyniad strategol:

  • Mae gan Gymru anifeiliaid iach a chynhyrchiol
  • Mae gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da
  • Mae gan bobl ffydd a hyder yn y ffordd y caiff bwyd ei gynhyrchu ac yn y ffordd y caiff iechyd y cyhoedd ei ddiogelu
  • Mae gan Gymru economi wledig ffyniannus
  • Mae gan Gymru amgylchedd o ansawdd uchel

 

Gallwch weld copi o'r cynllun yma:

https://gov.wales/sites/default/files/publications/2018-01/animal-health-and-welfare-framework.pdf

 

Cynllun Gweithredu 2019-20

Mae Cynllun Gweithredu 2019-20 yn dangos ein bod yn parhau'n ymrwymedig i fwrw ymlaen â blaenoriaethau allweddol o ran iechyd a lles anifeiliaid er gwaethaf yr ansicrwydd a'r pwysau cynyddol yn sgil y trafodaethau sy'n gysylltiedig â Brexit.

Caiff ein blaenoriaethau allweddol eu hamlinellu o dan themâu allweddol Perchenogaeth Gyfrifol, Atal Clefydau a Dileu Clefydau, sy'n rhan o themâu cyffredinol Cynllunio Iechyd Anifeiliaid, Bioddiogelwch ac Adnabod Anifeiliaid.

Rhai o flaenoriaethau eleni yw mynd i'r afael â cham nesaf y Rhaglenni Dolur Rhydd Feirysol Buchol, Clafr y defaid a Dileu TB Gwartheg, a hefyd parhau i gyflawni rhwymedigaethau statudol er mwyn diogelu'r gadwyn fwyd ac iechyd y cyhoedd a hyrwyddo perchenogaeth gyfrifol.

 

Mae cwmpas y Cynllun Gweithredu yn un eang, ond drwy gydweithio, byddwn yn parhau i wella safonau iechyd a lles anifeiliaid, yn hyrwyddo da byw iach yng Nghymru, ac yn diogelu iechyd pobl, yr amgylchedd a'r economi leol.

 

Gallwch weld copi o'r Cynllun Gweithredu yma:

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-07/fframwaith-iechyd-a-lles-anifeiliaid-cynllun-gweithredu-2019-2020.pdf

 

Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru

Sefydlwyd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ym mis Mehefin 2014 er mwyn cefnogi'r gwaith o weithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.

Mae Grŵp y Fframwaith yng Nghymru yn atgyfnerthu'r cysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru, ceidwaid da byw, perchnogion anifeiliaid eraill a chynrychiolwyr y diwydiant, ac mae'n mynd i'r afael â'r holl ystod o heriau sy'n gysylltiedig ag iechyd a lles anifeiliaid. Mae'r aelodau'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o godi ac ystyried materion newydd a allai effeithio ar gyflawni prif ganlyniadau'r Fframwaith. Maent yn herio polisïau newydd a pholisïau sydd wrthi’n cael eu datblygu, yn adolygu'r cynnydd sy'n cael ei wneud ar gyflawni canlyniadau, yn hwyluso ac yn symleiddio'r broses o rannu negeseuon allweddol â sefydliadau yn y diwydiant a grwpiau o gynrychiolwyr, ac yn darparu cysylltiadau â'r gymuned amaethyddol a gwledig ehangach.

 

Rhoi cyngor y mae'r Grŵp yn hytrach na gwneud penderfyniadau ac nid oes ganddo'r ymreolaeth i wneud penderfyniadau ar sut y bydd cyllid yn cael ei ddyrannu, i gadarnhau Cytundebau Lefel Gwasanaeth gyda chyrff cyflenwi, i gymeradwyo cynlluniau wrth gefn nac i gymeradwyo cyflwyniadau. Bydd aelodau yn gwasanaethu fel unigolion ac ni fyddant yn cynrychioli unrhyw sefydliadau. Ni fydd hawl gan yr aelodau i enwebu rhywun arall i fod yn bresennol yn eu lle.

Disgrifiad o'r swydd

Fel aelod o Grŵp Fframwaith Iechyd ac Anifeiliaid Cymru, disgwylir ichi weithio fel rhan o dîm sefydledig i helpu i weithredu ac i gyflawni Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Dyma elfennau allweddol y rôl:

 

  • codi ac ystyried materion newydd a allai effeithio ar gyflawni'r canlyniadau strategol yn Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru
  • ystyried sut i gyflawni canlyniadau a blaenoriaethau, sy'n arbennig o bwysig yn yr hinsawdd bresennol, ac a fydd hefyd yn bwysig yn y dyfodol, o ystyried y pwysau ar adnoddau
  • herio polisïau newydd a pholisïau sydd wrthi’n cael eu datblygu
  • cysylltu â'r diwydiant a chael gwybodaeth ganddo er mwyn llywio'n penderfyniadau'n well
  • sicrhau bod cynnydd yn cael ei adolygu'n barhaus a nodi, cyflawni a, lle y bo angen, hwyluso gwelliannau a phrosiectau
  • hwyluso a symleiddio'r broses o gyfleu negeseuon allweddol a'r llif gwybodaeth fel rhan o strategaeth gyfathrebu ehangach
  • sefydlu a chynnal cysylltiadau â sefydliadau yn y diwydiant a grwpiau sy’n eu cynrychioli, yr economi amaethyddol a gwledig ehangach, yn ogystal â meysydd megis iechyd pobl, addysg, trechu tlodi etc
  • bod yn gynrychiolwyr ar ran y Grŵp − gall aelodau fod yn llefaryddion ar faterion sy'n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid.

 

 

 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Rhugl

Manyleb y person

Disgwylir i ymgeiswyr ddangos y sgiliau penodol, y profiad a'r arbenigedd sydd ganddynt mewn perthynas ag iechyd a lles anifeiliaid. Dylai ymgeiswyr ystyried elfennau allweddol y rôl, fel y manylir arnynt uchod, a darparu tystiolaeth i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno penodi tri unigolyn, o amrywiaeth o sectorau a meysydd, a all ddangos bod ganddynt y sgiliau allweddol a ganlyn:

Meini Prawf Hanfodol

  • Gwybodaeth am safonau lles anifeiliaid a sut y maent yn berthnasol i Gymru, ac ymrwymiad i'w gwella'n gyson
  • Gwybodaeth am yr heriau sy'n wynebu iechyd anifeiliaid yng Nghymru, a dealltwriaeth ohonynt
  • Dealltwriaeth o'r diwydiant da byw yng Nghymru a/neu o'r sector anifeiliaid anwes neu'r sector ceffylau
  • Rhwydwaith sefydledig o gysylltiadau y gellir ei ddefnyddio i hyrwyddo ac i rannu gwaith y grŵp ac i rannu negeseuon allweddol Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol (OCVO)
  • Y gallu i fod yn llysgennad ar ran y Grŵp Fframwaith, gan gydweithio â rhanddeiliaid newydd a chryfhau cysylltiadau gyda'r rhanddeiliaid presennol
  • Y gallu i rannu negeseuon allweddol a safbwyntiau'r diwydiant a grwpiau sy'n ei gynrychioli er mwyn dylanwadu ar waith datblygu polisi. 

Meini Prawf Dymunol


  • Y gallu i feddwl mewn ffordd arloesol, i herio mewn ffordd adeiladol pan fo hynny'n briodol, ac i gefnogi diwylliant o newid.
  • Dealltwriaeth o'r Agenda ehangach ar Iechyd a Lles Anifeiliaid mewn gwledydd eraill, sut y mae'n effeithio ar yr agenda sydd gennym yng Nghymru, a'r cysylltiadau rhwng yr agendâu hynny
  • Y gallu i weithio'n dda fel rhan o grŵp amrywiol o aelodau, gan gydnabod y safbwyntiau a'r buddiannau gwahanol sydd gan ystod o'r sectorau a gynrychiolir  
  • Gwerthfawrogiad o werthoedd datblygu cynaliadwy fe y'u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.
  • Y gallu i ystyried materion strategol a nodi eu goblygiadau yn y tymor byr a'r tymor hir
  • Cefndir a dealltwriaeth o waith ymchwil a datblygu ym maes iechyd a lles anifeiliaid.

 

Dyddiadau cyfweliadau

15 Ionawr 2021
22 Ionawr 2021

Dyddiad cau

06/01/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Am ragor o wybodaeth am rôl y Grŵp Fframwaith a rôl aelod, cysylltwch â:

Emily Lay – Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol

Ffôn: 03000 253853

E-bost: Emily.Lay@llyw.cymru

Alexandra Jones – Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol

Ffôn: 03000 258621

E-bost: Alexandra.Jones030@llyw.cymru

 Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch wrth ichi wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â PublicAppointments@llyw.cymru / 03000 255454.  

 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.