Swydd Wag -- Aelod - Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Manylion y Swydd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Beth yw Parciau Cenedlaethol?

Tirweddau o bwys rhyngwladol yw'r Parciau Cenedlaethol.  Er mai ardaloedd gwledig o ran natur yw'r rhain yn bennaf, maent yn agos at gymunedau trefol o bwys ac mae ganddynt botensial sylweddol i gyfoethogi bywydau pobl Cymru ac ymwelwyr â'r wlad a chyfrannu at wella economi Cymru.  Un o brif dasgau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yw helpu i sicrhau bod yr ardaloedd arbennig hyn, yn y dyfodol, yn fannau a chanddynt dirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth sy'n gyfoethocach ac yn fwy amrywiol na'r hyn sydd yno heddiw, a'r rheini'n cael eu mwynhau a'u coleddu gan drawstoriad cyflawn o'r gymdeithas.

Beth yw eu rôl?

Mae gan Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddau ddiben o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995:

• gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol:

• hybu cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig [y Parc].

Yn ogystal â cheisio cyflawni eu dau ddiben statudol, mae gan Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddyletswydd i feithrin lles economaidd a chymdeithasol eu cymunedau lleol.

Os yw'n ymddangos bod gwrthdaro rhwng y dibenion hyn, rhoddir mwy o bwys ar ddiben gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal sydd yn y Parc Cenedlaethol.

Sut y byddant yn cyflawni eu dibenion?

Bydd yr Awdurdodau'n cyflawni'r dibenion hyn drwy reoli datblygu'n effeithiol a thrwy gyflawni’n effeithiol eu dyletswydd i hybu cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau'r ardaloedd arbennig hyn.  Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yw'r awdurdodau cynllunio a mwynau ar gyfer eu hardaloedd.

Mae Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn gyfrifol am gyhoeddi cynlluniau datblygu ac am reoli datblygu yn eu hardaloedd.  Mae gofyn i bob Awdurdod baratoi Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol.  Mae'r Cynllun yn cynnwys polisïau ar gyfer rheoli'r Parc ac ar gyfer trefnu a darparu gwasanaethau a chyfleusterau gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gyflawni ei ddibenion.  Mae'n cynnwys polisïau ar gyfer rheoli'r tir yn y Parc Cenedlaethol ac mae’n sail ar gyfer cydweithredu, nid dim ond gyda sefydliadau cadwraeth statudol a gwirfoddol, ond hefyd gyda thirfeddianwyr cyhoeddus a phreifat eraill. Drwy ymgynghori wrth baratoi'r Cynllun, bydd cyfle i bobl gyfrannu at bolisïau y gellir eu rhoi ar waith ac mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr Awdurdod yn cydymdeimlo ac yn cydweithredu â thrigolion a buddiannau eraill yn y Parc.  Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chynghorau Cymuned hefyd wrth baratoi Cynlluniau Rheoli'r Parc Cenedlaethol a bydd yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu'r Cynllun Datblygu Unedol a'r Cynllun Datblygu Lleol.

Beth yw eu strwythur a phwy yw eu haelodau?

O dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Awdurdodau lleol at ddibenion arbennig yw tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol Cymru.  Cyrff corfforaethol ydynt ac mae ganddynt bwerau gweithredol.  Yr un yw dibenion y Parciau yng Nghymru ac yn Lloegr ond mae aelodaeth Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn wahanol yn y ddwy wlad.

Yng Nghymru, cynghorwyr awdurdodau lleol ardal y Parc sy'n llenwi dwy ran o dair o'r seddi er mwyn adlewyrchu buddiannau lleol. Llywodraeth Cymru a fydd yn penodi'r traean arall i gynrychioli'r budd cenedlaethol.  Wrth benodi aelodau i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, anogir awdurdodau lleol i ddefnyddio cynghorwyr sy'n cynrychioli wardiau sydd naill ai'n llwyr neu'n rhannol o fewn ffiniau'r Parc. Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 18 o aelodau.

O ble y daw arian y Parciau Cenedlaethol?

Llywodraeth Cymru sy'n ariannu Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ar ffurf Grant y Parciau Cenedlaethol.  Daw dwy ran o dair o'r Grant yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru a bydd Awdurdodau'r Parciau'n codi'r traean arall gan yr awdurdodau lleol yn eu hardaloedd.  Mae grant ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf rhagnodedig.  Bydd Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn cael incwm hefyd yn sgil pethau megis gweithgareddau masnachu, taliadau am barcio a thaliadau am geisiadau cynllunio.  Bydd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn anfon llythyr grant strategol blynyddol at Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn nodi'r blaenoriaethau a'r amcanion y cytunwyd arnynt ar gyfer Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn y flwyddyn sydd ar ddod.

Beth fydd disgwyl i chi ei wneud?

Mae aelodau'r Parciau Cenedlaethol yn gyfrifol, yn unigolion ac ar y cyd, i Lywodraeth Cymru am ddarparu arweiniad effeithiol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, am bennu ei bolisïau ac am sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion o fewn y fframwaith statudol, y fframwaith polisi a'r fframwaith ariannol a bennwyd ar ei gyfer.  Mae'n ddyletswydd ar aelodau i weithredu yn ôl y gyfraith, yn ddidwyll ac er lles gorau'r Parc Cenedlaethol bob amser, ac i ofalu i sicrhau nad yw eu budd preifat byth yn dylanwadu er gwaeth ar y budd cyhoeddus, na bod lle i amau hynny.

Prif Dasgau:

Arwain Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn effeithiol, yn arbennig wrth ddiffinio a datblygu ei drywydd strategol ac wrth bennu amcanion sy'n cynnig her;

Sicrhau bod gweithgareddau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cael eu cynnal mor effeithlon ac effeithiol ag sy'n bosibl;

Sicrhau bod strategaethau'n cael eu datblygu ar gyfer bodloni amcanion economaidd a chymdeithasol cyffredinol Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn unol â'r polisïau a'r blaenoriaethau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru;

Monitro perfformiad Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ei nodau, ei amcanion a'i dargedau perfformiad yn llawn;

Sicrhau bod gwaith y Parc Cenedlaethol o reoli, rheoleiddio a monitro ei weithgareddau, yn ogystal â gweithgareddau unrhyw gorff arall a noddir neu a gynhelir ganddo, yn rhoi gwerth am arian o fewn fframwaith arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb a chyfrannu at y broses cynllunio corfforaethol;

Hyrwyddo amcanion datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Pa sgiliau neu wybodaeth sydd eu hangen arnoch?

Detholir unigolion ar sail eu rhinweddau a'u profiad personol ac nid ar y sail eu bod yn cynrychioli sefydliadau neu grwpiau penodol.  Nod Llywodraeth Cymru yw i bob Awdurdod Parc gael cydbwysedd arbenigedd ym mhob maes sy'n berthnasol i’r Awdurdod hwnnw.

Dylai'r sawl a benodir:

• feddu ar brofiad sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y Parciau megis gweinyddiaeth gyhoeddus; diogelu’r amgylchedd naturiol, hanesyddol a diwylliannol; pensaernïaeth; hamddena awyr agored; gweithgareddau cymunedol; ynni adnewyddadwy; ailgylchu a ffermio. Rydym yn chwilio yn arbennig am brofiad ym meysydd cynllunio; twristiaeth, trafnidiaeth a choedwigaeth;

• gwerthfawrogi'r dibenion y dynodwyd y Parciau i'w cyflawni a phwysigrwydd cenedlaethol y dibenion hynny;

• bod yn ymwybodol o fuddiannau pawb sy'n byw neu'n gweithio yn y Parciau, neu sy'n ymweld â hwy;

• gallu cynnig persbectif cenedlaethol i waith yr Awdurdod;

• gallu profi fod ganddo sgiliau gwaith tîm;

• gallu profi fod ganddo sgiliau cyfathrebu;

• gallu mynd i gyfarfodydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheolaidd (bydd angen gallu ymrwymo pedwar diwrnod y mis, fan leiaf);

• deall materion cydraddoldeb yn glir ac ymrwymo iddynt, a'r gallu i herio gweithdrefnau gwahaniaethol pan fydd hynny'n briodol;

• deall 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan yn glir ac ymrwymo iddynt.

• Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yn hanfodol

Mae'r Awdurdod fel arfer yn cynnal cyfarfodydd yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri.

Bydd aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn derbyn lwfans sylfaenol o £3,600 y flwyddyn a lwfans cyfrifoldebau ar ben hynny.

Gellir hawlio costau teithio a threuliau rhesymol eraill y bydd rhywun yn eu hysgwyddo wrth wneud gwaith i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gan Awdurdod y Parc o fewn y terfynau cydnabyddedig.  Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau gofalu am blentyn/gofalu am yr henoed/gofalwyr cynorthwyol, tra byddwch yn gwneud gwaith ar ran yr Awdurdod.  Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag a fyddech chi'n gymwys i gael lwfansau gofal, cysylltwch ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri neu Emily Kennedy ar 02920821529 neu Emily.kennedy@cymru.gsi.gov.uk




4
mis

Yr Iaith Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Dyddiadau cyfweliadau

7 Rhagfyr 2015
7 Rhagfyr 2015

Dyddiad Cau

05/11/15 23:55
Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.