Swydd Wag -- Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi / Dirprwy Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Dyddiad
Manylion y swydd
Bydd swydd Cadeirydd y Pwyllgor yn derbyn £366 y diwrnod. Bydd cynllun i ad-dalu treuliau cynhaliaeth, a threuliau eraill a ysgwyddir fel rhan o’r gwaith. Bydd y cynllun hwn yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion. Cewch hawlio treuliau teithio a threuliau rhesymol eraill a ysgwyddir wrth wneud eich gwaith yn unol â'r cynllun hwn. Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau gofal plant/gofal henoed/gofal cynorthwyol wrth wneud gwaith ar ran y corff.
Nid yw'r swydd hon yn bensiynadwy.
Rôl y corff
- Fel aelod o Fwrdd Rhaglen y Comisiwn, goruchwylio cynnydd yr holl brosiectau yn erbyn cynllun rhaglen lefel uchel
- Gweithio ar y cynllun pontio gyda'r Prif Swyddog Gweithredol ac UwchSwyddog Cyfrifol Llywodraeth Cymru ar Fwrdd y Rhaglen i sicrhau bod y Comisiwn yn weithredol mewn pryd ac yn addas i’w ddiben erbyn ei ddiwrnod
gweithredu cyntaf - Monitro risgiau, problemau, ac elfennau rhyngddibynnol ar lefel y rhaglen
- Rhoi adborth i dîm y rhaglen ar y cynigion a’r cynnydd
- Rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru a yw’n hapus gyda phob cam o’r rhaglen ar gerrig milltir allweddol, a phan gwblheir y prosiectau dan sylw
- Ystyried buddiannau rhanddeiliaid allanol
- Nodi cyfleoedd a manteision posibl.
Unwaith bydd y Comisiwn wedi'i sefydlu
- Cefnogi'r Cadeirydd i gyflawni cylch gwaith y Bwrdd
- Arwain gwaith unrhyw is-grŵp (yn ôl y gofyn) i gefnogi cynllun gwaith y Bwrdd a chyflawni targedau gweithredu
- Cyfrannu at sicrhau bod addysg drydyddol ac ymchwil yn ganolog i waith y Bwrdd
- Cydweithio â rhanddeiliaid wrth ddatblygu blaenoriaethau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan sicrhau arferion gorau, gwerth am arian ac y cydymffurfir â blaenoriaethau eraill y llywodraeth.
- Hyrwyddo addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan dynnu sylw at y cyfleoedd a'r manteision
- Sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni nodau a gweledigaeth strategol y Comisiwn yn effeithiol
- Cyflawni ei swyddogaethau yn unol â'r cylch gorchwyl y cytunwyd arno
- Hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus; cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb, a gwerth am arian; sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol yn cael eu sefydlu a'u gweithredu i gyflawni'r cyfrifoldebau, y swyddogaethau a'r dyletswyddau cyfreithiol a roddir ar y corff drwy Statud.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cadeirio’r Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi ac yn dirprwyo ar ran cadeirydd Bwrdd y Comisiwn. Fel Cadeirydd y Pwyllgor, bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o gynghori’r Comisiwn ynghylch sut i arfer ei swyddogaethau ymchwil ac arloesi. Bydd Dirprwy Gadeirydd Bwrdd y Comisiwn yn cyfrannu at y trefniadau pontio sydd eu hangen er mwyn sefydlu'r corff newydd erbyn Ebrill 2024 fan bellaf. Bydd yn atebol i’r Cadeirydd, ac yn gyfrifol am lywio penderfyniadau a’r hyn a gyflawnir mewn perthynas â sefydlu’r Comisiwn. Bydd y Dirprwy Gadeirydd yn sicrhau bod cyngor awdurdodol ac amserol yn cael ei roi i Weinidogion Llywodraeth Cymru drwy swyddogion, a bydd yn rhoi adborth i'r sectorau.
Bydd deiliad y swydd:
- Yn arwain y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi o ran pennu cyfeiriad strategol swyddogaethau ymchwil ac arloesi’r Comisiwn
- Yn cadeirio a hwyluso cyfarfodydd y Pwyllgor, penderfynu ar yr agenda a chymeradwyo'r cofnodion cyn iddynt gael eu rhannu â’r aelodau
- Yn sicrhau bod busnes y Pwyllgor yn cael ei gyflawni’n effeithlon ac yn effeithiol
- Yn annog pob aelod o’r Pwyllgor i gydweithio, a cheisio dod i gonsensws
- Yn gweithredu’n deg ac yn ddiduedd bob amser ac er budd y Comisiwn, gan barchu cyfrinachedd fel y bo’n briodol Yn sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol ar gyfer y Pwyllgor yn cael eu sefydlu a'u gweithredu i gyflawni'r cyfrifoldebau, y swyddogaethau a'r dyletswyddau cyfreithiol a roddir ar y Comisiwn drwy Statud
- Yn sicrhau bod y Pwyllgor yn gweithredu o fewn y cylch gorchwyl y cytunwyd arno
- Yn sicrhau bod unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael ei nodi a’i reoli’n briodol er mwyn sicrhau uniondeb y Pwyllgor bob amser
- Yn hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus; cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian; sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol yn cael eu sefydlu a'u gweithredu i gyflawni'r cyfrifoldebau, y swyddogaethau a'r dyletswyddau cyfreithiol a roddir ar y corff drwy Statud
- Yn dirprwyo ar ran y Cadeirydd i hwyluso cyfarfodydd Bwrdd y Comisiwn, penderfynu ar yr agenda a chymeradwyo’r cofnodion
- Yn cefnogi’r Cadeirydd i arwain Bwrdd y Comisiwn o ran pennu cyfeiriad strategol y Comisiwn ac asesu a gwerthuso’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth fusnes, cynlluniau ac amcanion perfformiad y sefydliad, yn ôl yr
angen - Yn cyflawni’r rôl allweddol o sicrhau bod gan holl aelodau’r Bwrdd rolau a chyfrifoldebau clir o ran y broses bontio i sefydlu’r Comisiwn
- Yn cyfrannu at asesu gweledigaeth, cenhadaeth a nodau’r Comisiwn
- Yn meithrin perthynas gydag arweinwyr y sector
- Yn darparu cynrychiolaeth ar gyfer prosiectau ar lefel uwch, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
- Arweinydd a rheolwr ar lefel uwch sy’n uchel ei barch ac yn ysbrydoli eraill, ac sydd â phrofiad o hyrwyddo ymchwil ac arloesi
- Dealltwriaeth o amgylchedd ymchwil y sector addysg uwch, y trydydd sector neu’r sector preifat yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol
- Gwybodaeth a dealltwriaeth aeddfed o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol
- Record gwych o ysbrydoli ac ysgogi rhanddeiliaid sy'n dangos eich bod yn gweithio mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff
- Record o reoli cydberthnasau cymhleth a heriol yn llwyddiannus, gan gynnig cymorth priodol yn ôl yr angen a rheoli perfformiad yn effeithiol
- Y gallu i ddeall ymrwymiadau rôl gyhoeddus, fel y'u diffinnir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan
- Dealltwriaeth glir o gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymrwymiad iddynt, a pharodrwydd i herio arferion sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl
- Y gallu i herio meddylfryd a phrofi barn, gyda pharodrwydd i gael eich herio, ac annog trafodaeth agored er mwyn dod i benderfyniadau gwell.
Dymunol
- Profiad o weithio ar gyllid a swyddogaethau cyfnewid gwybodaeth a pholisi ymchwil mewn prifysgol
- Profiad o gyllid datblygu ymchwil ac arloesi, ac o rannu darpariaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
- Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad oes gennych sgiliau o'r fath, dylech fod yn barod i wneud ymrwymiad i ddysgu ar ôl cael eich penodi. Darperir hyfforddiant, gan gynnwys cefnogaeth a hyfforddiant unigol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.