Swydd Wag -- Penodi Is-Gadeirydd - Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cynhelir cyfarfodydd y bwrdd bob deufis gyda gweithdai'r Bwrdd/sesiynau datblygu bob deufis mewn amrywiol leoliadau ar draws y Gogledd. Mae gan y Bwrdd Iechyd amrywiol bwyllgorau hefyd. Gall y cyfarfodydd hyn fod yn rhai misol, pob deufis neu bob chwarter.
£56,316 y flwyddyn
13
mis

Rôl y corff

Cefndir 
 
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yw’r sefydliad iechyd mwyaf yng Nghymru, ac mae'n gyfrifol am wella iechyd a lles poblogaeth o ryw 678,000 o bobl ledled chwe sir y Gogledd (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam).  Mae hyn yn cynnwys atal salwch yn ogystal â thrin salwch a darparu gwasanaethau gofal iechyd ardderchog.
 
Mae'r Bwrdd Iechyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol ac iechyd meddwl, yn ogystal â gwasanaethau ysbyty acíwt.  Mae'n gyfrifol am redeg dri phrif ysbyty (Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam), yn ogystal â rhwydwaith o ysbytai cymunedol, canolfannau iechyd, clinigau, unedau iechyd meddwl a lleoliadau timau cymunedol.
 
Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cydgysylltu gwaith 105 o bractisau meddygon teulu a gwasanaethau GIG a ddarperir gan ddeintyddion, optegwyr a fferyllwyr yn y Gogledd.
 
Yn 2018/19, roedd gan y Bwrdd Iechyd incwm refeniw o £1.54 biliwn ac roedd y cyflogi tua 18,000 o bobl (15,500 cyfystyr ag amser llawn).
 
 
Mae rôl aelod y Bwrdd yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:- 
 
1. Strategaeth – cyfrannu at ddatblygu strategol a gwneud penderfyniadau;

2. Perfformiad –  sicrhau bod trefniadau rheoli effeithiol yn ogystal â thîm effeithiol yn gweithredu ar lefel uchaf y sefydliad. Helpu i egluro pa benderfyniadau sydd i'w gwneud gan y Bwrdd ac yna sicrhau bod y gweddill yn cael eu dirprwyo'n glir a dwyn y rheolwyr i gyfrif am eu perfformiad o ran bodloni nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt trwy herio a chraffu'n bwrpasol, a monitro'r gwaith o adrodd am berfformiad; 

3. Risg – sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn gywir, a bod rheolaethau ariannol a systemau rheoli risg a sicrwydd yn gadarn a bod modd eu hamddiffyn; a

4. Ymddygiad – cynnal y safonau moesegol uchaf o ran uniondeb a chywirdeb a chydymffurfio'n llawn â'r Cod Ymddygiad. Dylai aelodau'r bwrdd ddangos trwy eu hymddygiad eu bod yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau tuag at ddinasyddion, y sefydliad a'i randdeiliaid

Disgrifiad o'r swydd

Mae hwn yn gyfle gwych i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Bydd yr Is-gadeirydd yn aelod o'r Bwrdd ac yn dirprwyo ar ran y Cadeirydd, os bydd yn absennol am unrhyw reswm. 
 
Bydd yr Is-gadeirydd yn:- 

  • Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei reoli, mewn modd clinigol a chorfforaethol, ac mae disgwyl iddynt gynnig barn annibynnol i'r Bwrdd am faterion fel perfformiad, penodiadau allweddol, rhagolygon ac atebolrwydd;
  • Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar ei annibyniaeth, ei brofiad yn y gorffennol a'i wybodaeth, a'i allu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd;
  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw;
  • Yn dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r Bwrdd Iechyd i weithredu'n effeithiol;
  • Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau. 

    Yn ogystal â'i rôl gorfforaethol ar draws holl gyfrifoldebau'r Bwrdd Iechyd, bydd gan yr Is-gadeirydd gyfrifoldeb penodol i oruchwylio gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac anabledd dysgu'r Bwrdd Iechyd gan sicrhau model gofal cytbwys sy'n diwallu anghenion poblogaeth y Bwrdd Iechyd.  Bydd yr Is-gadeirydd yn:  

  • Cynnig arweiniad cryf, effeithiol a gweladwy ar draws gwasanaethau iechyd sylfaenol, iechyd cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu; yn fewnol drwy'r Bwrdd a'i bwyllgorau, ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid ar lefel ehangach y gymuned ac yn genedlaethol;
  • Cadeirio Pwyllgor Deddfwriaethol Iechyd Meddwl y Bwrdd sy'n goruchwylio cydymffurfiaeth â deddfwriaeth iechyd meddwl a chodau ymarfer cysylltiedig;
  • Bod yn gyfrifol am graffu ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer gwasanaethau iechyd sylfaenol, iechyd cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu. Yn gweithio o fewn fframwaith llywodraethu'r Bwrdd Iechyd i roi sicrwydd i'r Bwrdd bod gwaith system gyfan yn cael ei wneud yn effeithiol ar sail llwybrau gofal integredig;
  • Gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid yn y gymuned, yn arbennig yn ei faes cyfrifoldeb ac yn fwy eang a chefnogi'r Cadeirydd i sicrhau bod diwylliant ac arferion gwaith y sefydliad yn seiliedig ar ysbryd o bartneriaethau agored, ystyrlon a chynaliadwy. Bydd gan yr Is-gadeirydd sgiliau cyfathrebu rhagorol a, thrwy graffu effeithiol, bydd yn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd bod strwythurau'r sefydliad yn rhoi pwys cyfartal ar wasanaethau iechyd sylfaenol, iechyd cymunedol ac iechyd meddwl ac ar wasanaethau eraill y Bwrdd Iechyd, gan roi cyfle i wasanaethau contractwyr chwarae rhan lawn yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau;
  • Cefnogi prosesau rheoli perfformiad y Bwrdd Iechyd, i sicrhau system rheoli a gwella perfformiad integredig;
  • Helpu i feithrin a chynnal perthynas uniongyrchol â gweithwyr proffesiynol sy'n gontractwyr gofal sylfaenol, gan sicrhau eu bod yn chwarae rhan lawn yng ngwaith y Bwrdd Iechyd; a
  • Mabwysiadu rôl fel llysgennad allanol, gan gynrychioli'r Bwrdd yn gyhoeddus a meithrin hyder y cyhoedd.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Bydd yr Is-gadeirydd yn arddangos y rhinweddau canlynol:
 
Gwybodaeth a Phrofiad

  • Profiad o arwain a datblygu sefydliad preifat, cyhoeddus neu drydydd sector llwyddiannus, a'r gallu i edrych i'r dyfodol a chynnig arweiniad strategol;
  • Y gallu i gyfrannu'n effeithiol ar lefel y Bwrdd;
  • Profiad o ddeall y berthynas rhwng dyrannu adnoddau a rheoli a chyflenwi blaenoriaethau gwasanaeth o fewn fframwaith o lywodraethu corfforaethol cadarn;
  • Y gallu i ddadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn ;
  • Y gallu i weithio gyda'r cyfarwyddwyr er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn arwain y sefydliad yn effeithiol. Lle y bo angen, byddwch yn dangos sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddwyn y cyfarwyddwyr gweithredol i gyfrif am berfformiad gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
  • Y gallu i gyfrannu at brosesau Llywodraethu'r Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau; 
  • Profiad o weithio mewn cymunedau a thimau amlddisgyblaethol ac â rhanddeiliaid allweddol mewn llywodraeth leo; a
  • Ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a'r gallu i ddangos a hyrwyddo arweinyddiaeth gynhwysol.

 
Priodoleddau Personol a Sgiliau Bydd angen i chi allu dangos y canlynol

  • Y gallu i arwain ac ysbrydoli staff, edrych i'r dyfodol a nodi'r materion allweddol ar gyfer y sefydliad;
  • Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol â sgiliau dylanwadu a thrafod cadarn;
  • Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau hirdymor a thymor byr;  
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno, a'r gallu i feithrin cysylltiad â phobl ar bob lefel;
  • Y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill;
  • Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
  • Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn;
  • Y gallu i gyflawni rôl yr Is-gadeirydd yng nghyd-destun cyfrifoldebau statudol a chorfforaethol ehangach y Bwrdd a rolau'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr.

 

Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos:

  • Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymrwymiad iddynt; a
  • Dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan', ynghyd ag ymrwymiad iddynt.

Y Gymraeg 

  • Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Disgwylir i bob ymgeisydd ddangos empathi at yr iaith a dangos arweiniad i gryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yng Nghymru. 

Dyddiadau cyfweliadau

25 Tachwedd 2019
29 Tachwedd 2019

Dyddiad cau

25/10/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau:
 
 
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â: E-bost y Tîm Penodiadau Cyhoeddus:  PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru  
 
I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol, cysylltwch â Mark Polin OBE QPM, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ffôn: 01248 384290, E-bost: Mark.Polin@wales.nhs.uk  
 
I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, efallai yr hoffech fynd i wefan y Bwrdd Iechyd: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/861/home


Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar

 
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus  
 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.