Swydd Wag -- Aelod - Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (Cymraeg yn ddymunol iawn)

Manylion y swydd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Plas Tan Y Bwlch, Maentwrog, Gwynedd, neu yn rhithwir drwy Zoom

Bydd Aelod yn cael ei dalu £4,053 y flwyddyn (caiff lefel y gydnabyddiaeth ariannol ei hadolygu gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac mae’n seiliedig ar ragdybiaeth o o leiaf 44 niwrnod o waith y flwyddyn, gyda diwrnodau ychwanegol yn cael eu hystyried yn elfen gwasanaeth cyhoeddus).  Ystyrir aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ddeiliaid swydd at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol.  O ganlyniad, bydd yn rhaid talu trethi ar y ffioedd o dan Atodlen E i’r Ddeddf Trethi a bydd yn rhaid talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.  Caiff y rhwymedigaethau hyn eu didynnu drwy system gyflogres Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a thelir y ffi net i ddeiliad y swydd.  Nid yw’r ffioedd yn destun TAW. Gellir hawlio costau teithio a threuliau rhesymol eraill y gellid eu hysgwyddo wrth wneud gwaith ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o’r Awdurdod o fewn y terfynau cydnabyddedig.  Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau mewn perthynas â gofal plant/gofal yr henoed/gofalwr cynorthwyol, tra’n gwneud gwaith ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynghylch a fyddech yn gymwys i gael lwfansau gofal, cysylltwch ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: Anwen Gaffey, Swyddog Gwasanaethau Aelodau, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Ffôn: 01766 772226 neu anwen.gaffey@eryri.llyw.cymru.

44
blwyddyn

Rôl y corff

Mae Parciau Cenedlaethol yn dirweddau o bwysigrwydd rhyngwladol.  Er eu bod yn wledig eu natur yn bennaf, maent yn agos at gymunedau trefol ac mae ganddynt botensial sylweddol i gyfoethogi bywydau pobl Cymru ac ymwelwyr â Chymru, ac i gyfrannu’n gadarnhaol at economi Cymru. Un o dasgau allweddol Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yw helpu i sicrhau y bydd yr ardaloedd arbennig hyn, yn y dyfodol, yn lleoedd â thirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth gyfoethocach a mwy amrywiol na heddiw, wedi’u mwynhau a’u thrysori gan drawstoriad llawn o gymdeithas. 

Disgrifiad o'r swydd

Mae’n ofynnol i Aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddeall a dangos ymrwymiad i ddibenion y Parc Cenedlaethol a bod yn barod i ymrwymo’r amser sydd ei angen i fynychu cyfarfodydd llawn yr Awdurdod a’r pwyllgor yn rheolaidd, yn ogystal â digwyddiadau datblygu aelodau, gweithgorau, digwyddiadau, a chynrychioli’r Awdurdod ar gyrff allanol.

Mae tasgau allweddol yn cynnwys:

  • Arwain yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, yn enwedig wrth ddiffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol ac wrth bennu amcanion heriol;
  • Sicrhau bod gweithgareddau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cael eu cynnal a’u hyrwyddo mewn modd mor effeithlon ac effeithiol â phosib;
  • Sicrhau bod strategaethau, gan gynnwys y Cynllun Rheolaeth a’r Cynllun Datblygu Lleol, yn cael eu datblygu i fodloni dibenion a dyletswyddau statudol yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, yn unol â polisïau a blaenoriaethau a nodir gan Lywodraeth Cymru;
  • Monitro perfformiad yr Awdurdod er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformiad yn llawn;
  • Sicrhau bod rheoli, rheoleiddio a monitro gweithgareddau’r Awdurdod, yn ogystal â rhai unrhyw gyrff eraill y gall eu noddi neu eu cefnogi, yn sicrhau gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb a chymryd rhan yn y broses cynllunio gorfforaethol;

Hyrwyddo amcanion amgylcheddol, datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Dim sgiliau

Manyleb y person

I gael eich ystyried, rhaid i chi fedru dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a’r profiad i fodloni’r holl feini prawf hanfodol ar gyfer penodi. Yr ydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion nad oes ganddynt brofiad blaenorol o weithio ar fyrddau sector cyhoeddus. Dewisir unigolion ar sail teilyngdod, yn erbyn y meini prawf hanfodol ac nid fel cynrychiolwyr sefydliadau neu grwpiau penodol.

Er mwyn llwyddo yn y rôl hon mae’n bwysig eich bod yn gallu cymhwyso eich sgiliau a’ch profiad mewn ffyrdd sy’n helpu i gyflawni’r dibenion statudol y dynodwyd y Parciau Cenedlaethol ar eu cyfer (gweler yr ail baragraff yn Atodiad B). 

Bydd yr Awdurdod yn elwa o allu manteisio ar ystod eang o sgiliau a gwybodaeth yn ei aelodaeth. Bydd angen i chi fedru dod â phersbectif cenedlaethol i’w waith, gan gydnabod ei rôl a’i gyfraniad at ddyheadau Cymreig (yn enwedig er lles cenedlaethau’r dyfodol) tra’n adnabod cyfraniad y Parc i fywyd amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol bob dydd.

Meini Prawf Hanfodol 

  • Y gallu i wneud cyfraniad cryf i Awdurdod y Parc drwy gymryd rhan yn effeithiol ac yn adeiladol ar ei bwyllgorau a’i weithgorau, gan weithio mewn modd colegol ar bob amser;
  • Y gallu i weithredu'n effeithiol mewn rôl strategol neu genedlaethol, gan ddarparu cyfeiriad i dîm gweithredol yr Awdurdod, a chyfathrebu’n glir ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd;
  • Y gallu i weithredu’n effeithiol mewn Bwrdd Awdurdod Cymraeg/dwyieithog a’i amgylchedd sefydliadol ehangach a chyfrannu ato;
  • Gwerthfawrogiad o bolisi ac arfer presennol Awdurdodau Parc Cenedlaethol;
  • Dealltwriaeth glir ac ymrwymiad i’r deg egwyddor yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (gweler Atodiad D);
  • Dod â phrofiadau byw sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru.

Ystyrir bod gwybodaeth neu brofiad o hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth mewn cyd-destun perthnasol yn hanfodol ar gyfer un swydd ac yn ddymunol i’r llall. Gallai enghreifftiau gynnwys profiad bywyd o anfantais neu allgau, dal un neu fwy o’r nodweddion gwarchodedig.
(1) a/neu unigolion sydd â phrofiad proffesiynol yn y maes hwn. Gallai profiad proffesiynol o'r fath gynnwys mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ariannol ac iechyd, neu ddymchwel rhwystrau i gynhwysiant.

Sgiliau hanfodol

Mae sgiliau a phrofiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol hefyd yn hanfodol:

  • Yr Argyfwng Hinsawdd – gweithredu atebion ymarferol;
  • Newidiadau ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd – economi wledig;
  • Adferiad ar ôl Covid – adfywio canol trefi a/neu dwristiaeth gynaliadwy;
  • Archwilio a llywodraethu, gyda phwyslais ar ofynion y sector gyhoeddus
  • Cynllunio Gwlad a Thref.

Sgiliau dymunol

Gall profiad o weithio i elusen, bod yn ymddiriedolwr, rhedeg busnes neu weinyddiaeth gyhoeddus ar lefel uwch fod yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol o gwbl.

[1] Oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol.

Dyddiadau cyfweliadau

6 Rhagfyr 2021
10 Rhagfyr 2021

Dyddiad cau

28/10/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Manylion Cyswllt:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a rôl Aelodau cysylltwch â:

 

Geraint Evans, Yr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth, Llywodraeth Cymru

Ffôn: 0300 062 2097

E-bost: geraint.evans@llyw.cymru

 

Neu

 

Anwen Gaffey (Swyddog Gwasnaethau Aelodau)

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,

Swyddfa’r Parc Cenedlaethol,

Penrhyndeudraeth,

Gwynedd LL48 6LF

Ffôn: 01766 772226 E-bost: anwen.gaffey@eryri.llyw.cymru

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

 

Digwyddiadau allgymorth

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnal digwyddiadau allgymorth lle bydd darpar ymgeiswyr yn gallu cwrdd ag Aelod presennol yn rhithwir i drafod beth yw rôl Aelodau. Am ragor o fanylion ewch i'w gwefan: Eryri - Snowdonia (llyw.cymru). Ar yr un ddolen fe welwch hefyd fideos o Aelodau presennol yn trafod eu rolau.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.