Swydd Wag -- Aelod - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (“CCAUC” neu “y Cyngor”) yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd ym mis Mai 1992 o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992 ("Deddf 1992”).
Nod y Cyngor yw datblygu a chynnal addysg uwch ragorol ar lefel ryngwladol yng Nghymru, er lles unigolion, y gymdeithas a'r economi yng Nghymru a thu hwnt. Yn 2017-18, bydd CCAUC yn rheoli cyllideb o £100.4 miliwn. Drwy Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, sefydlwyd fframwaith rheoleiddio diwygiedig ar gyfer addysg uwch yng Nghymru, a gryfhaodd rôl reoleiddio’r Cyngor. Bydd hyn yn golygu newidiadau sylweddol yn y ffordd y bydd y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau wrth iddo baratoi i'r Ddeddf fod yn gwbl weithredol o 1 Medi 2017 ymlaen.
Mae'r Cyngor yn gweinyddu cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi addysg, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig mewn prifysgolion yng Nghymru, ynghyd ag addysgu gan y Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae hefyd yn darparu cyllid ar gyfer cyrsiau addysg uwch penodol mewn colegau addysg bellach.
Ar hyn o bryd hefyd, mae'r Cyngor yn gyfrifol am ariannu cyrsiau hyfforddi athrawon ac am achredu darparwyr hyfforddiant cychwynnol athrawon yng Nghymru. Caiff y cyfrifoldebau hyn eu cynnwys yn Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2012 ac yn Neddf Addysg 2005.
Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Cyngor ar gyfer 2015-16, y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2013-14 hyd 2016-17, ynghyd â llythyr cylch gwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 ar gael ar wefan CCAUC www.hefcw.ac.uk.
Rôl y Cyngor
Ar hyn o bryd mae dwy ran i brif dasgau'r Cyngor:
• rheoleiddio'r sector yng Nghymru drwy gymeradwyo a monitro cynlluniau ffioedd a mynediad sefydliadau, sicrhau ansawdd uchel Addysg Uwch mewn sefydliadau a reoleiddir a sefydlu fframwaith ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol mewn sefydliadau a reoleiddir; a
• dyrannu cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu addysg ac ymgymryd ag ymchwil gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru.
Mae'r Cyngor hefyd yn rhoi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru ac i'r sector. Y Prif Weithredwr yw'r Swyddog Cyfrifyddu dynodedig, sydd â chyfrifoldeb penodol yn ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.
Mae Strategaeth Corfforaethol CCAUC (2013-14 i 2016-17) yn nodi'r themâu strategol allweddol y bydd y Cyngor yn eu hystyried wrth geisio cyflawni ei weledigaeth ar gyfer sector addysg uwch yng Nghymru sy'n gynaliadwy, yn hygyrch ac yn rhagorol ar y llwyfan rhyngwladol. Hefyd yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi drafftio strategaeth Addysg Uwch lefel uchel i Gymru i gyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a gaiff ei thrafod gyda Llywodraeth Cymru yn ystod 2017.
Nod y Cyngor yw:
• sicrhau profiad rhagorol ac o'r radd flaenaf ar gyfer myfyrwyr addysg uwch ynghyd ag ymchwil rhagorol o safon ryngwladol;
• hybu cyfraniad addysg uwch yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol;
• galluogi darparwyr addysg uwch i gyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau'r DU ar gyfer addysg uwch; a
• hysbysu a llywio polisi'r Llywodraeth er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn briodol i'w gyflenwi gan ddarparwyr addysg uwch;
er mwyn:
• gwella cyfiawnder cymdeithasol; a
• sicrhau economi sy'n ffynnu.
Diwygio Addysg Uwch
Mae addysg uwch yng Nghymru yn wynebu newidiadau sylweddol yn y blynyddoedd nesaf, yn sgil:
• penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd;
• ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad yr Athro Hazelkorn o Reoleiddio a Chynnal Trosolwg o Addysg a Hyfforddiant ôl-Orfodol yng Nghymru;
• ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad Syr Ian Diamond o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru;
• y canlyniadau ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru sy'n deillio o'r Bil Diwygio Addysg Uwch yn Lloegr.
Bydd disgwyl i aelodau'r Cyngor fod yn ymwybodol o'r newidiadau diweddaraf ar draws y DU, a sut y byddant yn effeithio ar Addysg Uwch yng Nghymru.
Disgrifiad o'r swydd
Fel Aelod o'r Cyngor bydd disgwyl ichi:
• gydweithio'n agos â'r Cadeirydd ac â'r Prif Weithredwr wrth roi cyngor ac anogaeth i CCAUC wrth ysgogi, datblygu a gweithredu polisi ac wrth gyflawni'r cyfrifoldebau statudol;
• mynychu cyfarfodydd y Cyngor a chyfrannu at benderfyniadau allweddol ynghylch strategaeth y Cyngor;
• darparu cyngor awdurdodol ac amserol i Lywodraeth Cymru rhwng cyfarfodydd;
• cadeirio pwyllgorau'r Cyngor, neu fod yn aelodau ohonynt, fel y bo angen;
• cynnal, a hynny'n amlwg, y safonau uchaf posibl o ran uniondeb a didueddrwydd;
• ennyn parch tuag at waith y Cyngor; a
• gallu ymdrin yn hyderus â Llywodraeth Cymru, ei swyddogion a'i Gweinidogion, ac â'r sector Addysg Uwch yng Nghymru.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno recriwtio pedwar aelod i ddechau sydd â phrofiad helaeth ar hyn o bryd, neu yn ddiweddar, yn un neu fwy o'r meysydd canlynol:
• Sefydliadau Addysg Uwch;
• y sector ôl-orfodol ehangach, Addysg Bellach, Ysgolion (gan gynnwys darpariaeth chweched dosbarth), Dysgu Seiliedig ar Waith ac Addysg Gymunedol i Oedolion;
• cyflogwr mewn busnesau seiliedig ar wybodaeth neu sgiliau;
• recriwtio a/neu gyflogi graddedigion;
• rheoli a/neu weithredu newid sefydliadol.
Bydd rhestr wrth gefn o hyd at bedwar ymgeisydd addas hefyd yn cael ei llunio er mwyn llenwi swyddi a allai godi yn ystod y 12 mis nesaf.
Bydd hefyd disgwyl i Aelodau'r Cyngor:
• fod yn ymwybodol o'r newidiadau sy'n effeithio ar y sector addysg uwch a'r heriau y mae'n eu hwynebu o fewn y DU ac yn rhyngwladol;
• cael y gallu i herio syniadau cyfredol ac i gyfathrebu'n effeithiol ac mewn modd argyhoeddiadol;
• cael y gallu i wrando, dadansoddi a chwestiynu cynigion strategol a data ynghylch perfformiad , a gweithio fel rhan o dîm sydd â nod cyffredin;
• cael dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt;a
• chael dealltwriaeth o bwysigrwydd safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus.
Y Gymraeg
Byddai'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn defnyddio gwasanaethau Minervasearch.com wrth ymgymryd â’r broses.
Am fwy o wybodaeth am y broses ddethol neu help i ymgeisio am y swydd hon,, cysylltwch â:
Y Ganolfan Cydwasanaethau Gorfforaethol
Ffôn: 029 2082 5454
E-bost: DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a rôl yr Aelod(au), cysylltwch â'r Is-adran Addysg Uwch:
Ffôn: Colette Eley 03000 250523
E-bost: colette.eley@wales.gsi.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.cymru.gov.uk/penodiadaucyhoeddus
**Nodwch os gwelwch yn dda fod y dyddiad cau wedi'i ymestyn hyd 22 Awst**
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.