Swydd Wag -- Tri Aelod - Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru

Manylion y swydd

Yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol
Rhithiol ar hyn o bryd drwy MS Teams neu unrhyw le yng Nghymru
£80 y diwrnod [ynghyd â chostau teithio a chostau 
eraill o fewn rheswm].
1
mis

Rôl y corff

Mae’r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn dal i fod yn gorff 
cymharol ifanc ac, o dan arweinyddiaeth y Prif Swyddog Gweithredol, Mrs Tegwen 
Ellis, mae wedi wynebu heriau argyfwng Covid-19 yn ddewr drwy weledigaeth, ysbryd 
ac ymrwymiad deinamig a hyblyg. Sefydliad bach ydym sy’n ymfalchïo yn y ffaith ein 
bod yn cydweithio â rhanddeiliaid, ochr yn ochr â chyrff eraill ar draws yr haen ganol, 
ac ag arweinwyr yn y system. Mae ein model cyswllt yn sicrhau ein bod yn cadw llygad
parhaus a manwl ar anghenion arweinwyr y system addysg ledled Cymru, ac yn ein 
galluogi i nodi unrhyw fylchau posibl o ran gwybodaeth a darpariaeth ar gyfer yr 
arweinwyr hynny. 


Er gwaethaf y pandemig byd-eang, mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod cyffrous i 
addysg yng Nghymru. Mae trawsnewid y cwricwlwm yn dod â'i heriau ei hun i 
arweinwyr, ac rydym wedi ymrwymo i gynnal ffocws uchelgeisiol iawn i gefnogi'n llawn 
y newidiadau a ddaw yn sgil y newid hwn. Fel corff sy'n galluogi, un o nodweddion 
allweddol ein rôl yw sicrhau mynediad cyfartal i gyfleoedd datblygu arweinyddiaeth o 
ansawdd uchel. Rydym yn parhau â'n hymrwymiad i wneud hyn, boed hynny drwy 
gymeradwyo darpariaeth sy'n bodloni safonau uchel o ran sicrhau ansawdd neu drwy 
ledaenu arfer gorau, nid dim ond o Gymru, ond a nodwyd yn fyd-eang. 


Un o'r prif elfennau rydym wedi canolbwyntio arni drwy gydol y 18 mis diwethaf yw lles 
pob arweinydd, ac rwy'n teimlo balchder yn y ffaith bod gwaith caled y tîm bach wedi 
cael ei gydnabod gan Fuddsoddwyr mewn Pobl drwy'r Achrediad Aur ar gyfer gwobr 
Rydym yn Buddsoddi mewn Lles. Rydym yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i 
gydraddoldeb, amrywiaeth a thryloywder yn ein gwaith, a byddem yn croesawu ac yn 
annog ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar lefel Bwrdd - rydym 
hefyd yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt efallai wedi gweithredu fel aelod o
Fwrdd o'r blaen

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod ym maes addysg, a hoffem eich croesawu i'n tîm i 
helpu i feithrin ac ysbrydoli arweinwyr addysgol nawr ac yn y dyfodol.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd disgwyl i'r Bwrdd herio, cefnogi a darparu persbectif a phrofiad allanol. Y nod yw 
cael Bwrdd sydd, ar y cyfan, ag ystod amrywiol o sgiliau a phrofiadau bywyd perthnasol 
a fydd yn ei alluogi i ddatblygu barn gyfunol ar faterion, gan ddarparu'r ysgogiad ar 
gyfer gwelliant parhaus o fewn y sefydliad er budd ei gwsmeriaid a’r gymdeithas 
ehangach. 


Felly, rydym yn chwilio am fwrdd sy'n seiliedig ar sgiliau, a rhoddir rhestr o’r arbenigedd
gofynnol penodol isod. Bydd angen i Aelodau'r Bwrdd ddarparu cefnogaeth ac 
arbenigedd i sefydliad cymharol newydd, gan roi ymdeimlad clir o gyfeiriad a phwrpas. 
Bydd angen iddynt ddatblygu dealltwriaeth gref o rôl, cylch gwaith a chyrhaeddiad 
posibl yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, a'i rôl bwysig wrth
ddiwygio addysg yng Nghymru. 


Bydd disgwyl i holl aelodau'r Bwrdd: 

 Ddarparu cyfeiriad ac arweinyddiaeth strategol, gyrru perfformiad a dwyn yr 
Academi i gyfrif yn erbyn ei gynlluniau strategol a chorfforaethol.

 Sicrhau priodoldeb, rheoleidd-dra, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth 
weithredu'r corff a glynu wrth 7 egwyddor bywyd cyhoeddus (egwyddorion 
Nolan).

 Ynghyd ag aelodau eraill y Bwrdd, sicrhau a chefnogi'r Academi i gyflawni ei 
nodau a'i amcanion.

 Hyrwyddo’r sefydliad, a'i nodau a'i amcanion. Bod yn esiampl i staff a 
rhanddeiliaid.

 Gweithio ar y cyd i feithrin perthynas â'r holl randdeiliaid a sicrhau bod llais 
rhanddeiliaid yn cael ei glywed yn glir wrth redeg yr Academi
Bydd hyn yn cynnwys y canlynol:
 Craffu ar berfformiad a’i fonitro yn erbyn cynlluniau busnes strategol a 
chorfforaethol
 Craffu a llywodraethu’n effeithiol yn unol ag arfer gorau
 Cynrychioli’r Academi yn allanol a meithrin perthynas waith agos â rhanddeiliaid 
allweddol, gan gynnwys y grŵp sy’n cynrychioli rhanddeiliaid.
 Ceisio gwneud cysylltiadau â meysydd eraill o fewn y system addysg, gan 
sicrhau bod yr Academi yn datblygu ar y cyd â diwygiadau addysg.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Mae'r sgiliau a'r profiadau rydym yn chwilio amdanynt wedi'u nodi isod. Er mwyn cael 
eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i 
fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl.


Meini Prawf Hanfodol


Bydd angen i bob ymgeisydd ddangos y canlynol:

 Sgiliau dadansoddi rhagorol a gallu deallusol, a'r gallu hefyd i wneud 
penderfyniadau a chyfrannu'n effeithiol at drafodaeth am faterion strategol ac 
ymarferol;
 
 Sgiliau cyfathrebu rhagorol a'r gallu i gynrychioli'r Academi Genedlaethol ar gyfer 
Arweinyddiaeth Addysgol yn gyhoeddus ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol;

 Y gallu i ddod â syniadau newydd i drafodaethau gan sicrhau ar yr un pryd bod 
yr Academi yn cadw at y nodau y mae wedi’u datgan a bod ganddi drefniadau 
llywodraethiant effeithiol;

 Ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth.


Byddai gwybodaeth a/neu brofiad mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol yn ddymunol:

 Profiad o redeg busnes, gweinyddiaeth gyhoeddus ar lefel uwch, gweithio i elusen 
neu fod yn ymddiriedolwr

 Diddordeb mewn addysg yng Nghymru a gwybodaeth amdani – gall hyn gynnwys 
Gwaith Ieuenctid a/neu Addysg Bellach

 Gwybodaeth am TG a Thechnoleg a'i rôl mewn dysgu proffesiynol

 Dealltwriaeth o Adnoddau Dynol (a all gynnwys profiad o hyrwyddo cydraddoldeb 
ac amrywiaeth neu gefnogi lles staff)

 Y gallu i siarad Cymraeg 

 Ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg.

Dylai ymgeiswyr sy'n gallu cynnig arbenigedd mewn un neu fwy o'r meysydd hyn 
ddangos hyn yn glir ar eu cais. Byddai croeso hefyd i geisiadau gan unigolion sydd â 
chefndiroedd a phrofiadau perthnasol eraill a fydd yn helpu'r Bwrdd i ddysgu a thyfu

Dyddiadau cyfweliadau

17 Chwefror 2022
18 Chwefror 2022

Dyddiad cau

22/12/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.