Swydd Wag -- Comisiynydd Plant Cymru
Manylion y swydd
Telir £90,000 i £95,000 y flwyddyn i Gomisiynydd Plant Cymru.
Rôl y corff
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gael Comisiynydd Plant annibynnol – esiampl a ddilynwyd gan wledydd eraill y DU.
Fe'i sefydlwyd gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, ac mae Comisiynydd Plant Cymru yn sefydliad hawliau dynol annibynnol i blant. Nodir cylch gwaith y Comisiynydd yn Neddf Comisiynydd Plant Cymru 2001, a ddiwygiodd Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Prif nod y Comisiynydd yw diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant.
Mae hon yn rôl uchel ei phroffil sydd â phroffil sylweddol yn y cyfryngau ac yn gyhoeddus. Gwneir penodiadau gan y Prif Weinidog yn dilyn proses drylwyr sy’n cynnwys plant a phobl ifanc, panel penodi o bobl ifanc a phanel penodi trawsbleidiol.
Ar hyn o bryd mae gan Swyddfa'r Comisiynydd fwy na 21 o staff cyfwerth ag amser llawn ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllideb o £1.579 miliwn y flwyddyn.
Mae cylch gwaith Comisiynydd Plant Cymru yn cwmpasu pob maes o bwerau datganoledig Senedd Cymru i'r graddau y maent yn effeithio ar hawliau a lles plant. I grynhoi, mae gan y Comisiynydd y pwerau canlynol:
- Y pŵer i adolygu effaith arfer swyddogaethau ar blant neu'r bwriad i arfer swyddogaethau cyrff cyhoeddus diffiniedig gan gynnwys Llywodraeth Cymru.
- Y pŵer i adolygu a monitro pa mor effeithiol yw'r trefniadau ar gyfer cwynion, chwythu'r chwiban ac eiriolaeth cyrff cyhoeddus diffiniedig wrth ddiogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant.
- Y pŵer i archwilio achosion mewn perthynas â phlant unigol mewn rhai amgylchiadau.
- Y pŵer i roi cymorth i blentyn mewn rhai amgylchiadau.
- Y pŵer i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru am unrhyw faterion sy'n effeithio ar hawliau a lles plant sy'n ymwneud â'r Comisiynydd ac nad oes ganddynt y pŵer i weithredu ar eu rhan.
I gael gwybod mwy am bwerau'r Comisiynydd Plant, gweler yr ddogfen atodedig: Pwerau Comisiynydd Plant Cymru.
Disgrifiad o'r swydd
- Byddwch yn diogelu ac yn hyrwyddo hawliau a lles plant a phobl ifanc hyd at 18 oed (hyd at 25 oed mewn rhai achosion) yng Nghymru. Dyma brif rôl y Comisiynydd, sydd wedi'i phennu mewn deddfwriaeth.
- Byddwch yn ysbrydoli pobl i sicrhau gwell canlyniadau i holl blant a phobl ifanc Cymru ym mhob maes polisi, deddfwriaeth, penderfyniadau ac arferion sy’n effeithio ar eu bywydau yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
- Byddwch yn parhau i ysgogi trafodaeth a dadl genedlaethol ynghylch cael cymdeithas sy’n parchu plant a phobl ifanc ac sy’n cydnabod gwerth gwirioneddol cynnig cyfleoedd iddynt y mae eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial unigol.
- Byddwch yn darparu arweinyddiaeth genedlaethol ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc drwy sefydlu a chynnal partneriaethau cryf a pherthynas bwerus gyda phobl a sefydliadau.
- Byddwch yn ystyried ac yn hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) – siarter ryngwladol sy'n nodi'r safonau gofynnol ar gyfer plant a phobl ifanc lle bynnag y maent yn byw. Mae CCUHP yn sail i holl waith y Comisiynydd.
- Byddwch yn arwain y broses o ymgysylltu â chraffu ar y Llywodraeth a sefydliadau eraill i ddarparu gwasanaethau ymatebol sy'n cael eu llywio gan syniadau a safbwyntiau plant a phobl ifanc.
- Byddwch yn cyflawni swyddogaeth endid corfforaethol ac yn Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer y sefydliad, gan sicrhau bod dulliau monitro ac adolygu cyfrifyddu ariannol tryloyw yn cael eu gweithredu’n barhaus.
- Byddwch yn arwain ac yn rheoli Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru ac yn sicrhau ei fod yn parhau’n sefydliad ar gyfer Cymru gyfan sy’n gryf, hyderus a chydnerth ac sy’n gweithio’n effeithiol fel tîm, gyda strwythurau llywodraethu a busnes cadarn, i sicrhau fod plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae'r Prif Weinidog yn dymuno penodi unigolyn a all ddangos y canlynol:
- y gallu i ddangos profiad o ymgysylltu â chynrychioli safbwyntiau eraill, yn benodol arwain ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer unrhyw grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a sefyll lan dros eu hawliau;
- natur ddeallgar a dealltwriaeth o'r heriau penodol o gynrychioli safbwyntiau plant a phobl ifanc;
- sylfaen wybodaeth gadarn ac ymrwymiad i hybu hawliau plant;
- sgiliau dylanwadu ardderchog, yn cynnwys y gallu i wrando, cyfathrebu ac ennyn hyder ymhlith amrywiaeth o randdeiliaid, o blant i bobl ifanc i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ar y lefel uchaf un;
- y gallu i fynegi materion cymhleth yn syml a chlir a chyflwyno tystiolaeth mewn modd clir a symbylol;
- barn annibynnol a’r gallu i ddadansoddi problemau cymhleth yn gyflym a nodi atebion posibl.
- yr hyder a’r gallu i godi llais ynghylch materion sy’n cael effaith ar blant a phobl ifanc Cymru, gan gynnwys y cyfryngau, y Llywodraeth a Senedd Cymru;
- profiad o arwain sefydliad neu uned benodol o fewn sefydliad mwy, gan gynnwys rheoli ariannol a rheoli pobl;
- hunan gymhelliant a’r gallu i fod yn rhyngweithiol, penderfynol, positif a chydnerth.
- y brwdfrydedd i fod yn llysgennad effeithiol i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc.
- gonestrwydd, hygrededd a sensitifrwydd proffesiynol sy’n cynnal hyder ac ymddiriedaeth pawb;
- gwybodaeth profedig o'r hinsawdd gwleidyddol yng Nghymru a'r sefyllfa ddeddfwriaethol o ran hawliau plant, a dealltwriaeth o sut y gall y Comisiynydd Plant weithredu'n effeithiol o fewn y cyd-destun hwn.
I gael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y penodiad.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Comisiynydd Plant Cymru, cysylltwch â Karen Cornish, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Plant a Theuluoedd.
Ffôn: 0300 025 3424
E-bost: Karen.Cornish@llyw.cymru
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Ar ôl cofrestru, bydd modd i chi weld y ffurflen gais. I wneud cais bydd angen i chi lanlwytho dwy ddogfen ategol.
- Dylai'r ddogfen gyntaf gynnwys dau ddatganiad personol (mewn un Ddogfen PDF): un wedi'i ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc ac un wedi'i ysgrifennu ar gyfer oedolion. Bydd y ddau ddatganiad yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses penodiadau cyhoeddus.
Cewch chi benderfynu sut i gyflwyno'r wybodaeth. Fodd bynnag, dylech anelu at ddarparu enghreifftiau manwl sy'n dangos sut y mae eich gwybodaeth a'ch profiadau yn cyd-fynd â phob maen prawf, ac sy'n disgrifio eich rôl chi wrth gyflawni canlyniad penodol. Bydd hefyd o fudd i'r panel dethol os gallwch nodi'n glir pa dystiolaeth benodol sy'n berthnasol i ba faen prawf. Mae'n arfer cyffredin darparu paragraffau ar wahân mewn perthynas â phob maen prawf.
Yn eich datganiad personol ar gyfer plant a phobl ifanc, bydd angen i chi ddarparu enghreifftiau manwl o hyd sy'n dangos sut mae eich gwybodaeth a'ch profiad yn cyd-fynd â phob un o'r meini prawf ond dylech ei ysgrifennu yn y fath fodd fel y gall plant a phobl ifanc ei ddeall yn hawdd. Efallai y byddwch hefyd am adlewyrchu’r tair blaenoriaeth ar gyfer y Comisiynydd nesaf a ddarperir gan blant a phobl ifanc ar dudalen 4.
Cyfyngwch eich dau ddatganiad personol i ddwy dudalen yr un. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn.
- Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.