Swydd Wag -- Cadeirydd - Hybu Cig Cymru
Manylion y swydd
Telir £25,200 y flwyddyn i'r Cadeirydd. Ystyrir bod Cadeirydd HCC yn ddeiliad swydd at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol. Oherwydd hynny, codir treth ar ffioedd sy'n daladwy o dan Atodlen E i'r Ddeddf Trethu a byddant yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Caiff y rhwymedigaethau hyn eu didynnu drwy system gyflogres Hybu Cig Cymru a thelir y ffi net i ddeiliad y swydd. Ni chodir TAW ar ffioedd.
Gellir hawlio costau teithio a threuliau rhesymol eraill yr eir iddynt o bosibl wrth gyflawni gwaith ar ran HCC yn ôl gan HCC o fewn y terfynau cydnabyddedig. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i adennill costau mewn perthynas â gofal plant/gofal i'r henoed/gofalwr cynorthwyol, tra'n gwneud gwaith ar ran HCC.
Rôl y corff
Hybu Cig Cymru (HCC) yw'r corff strategol sy'n gyfrifol am ddatblygu, marchnata a hyrwyddo diwydiant cig coch Cymru. Ei genhadaeth yw datblygu marchnadoedd proffidiol a chynaliadwy ar gyfer cig oen, cig eidion a phorc o Gymru. Mae'r sefydliad yn gwmni cyfyngedig drwy warant heb unrhyw gyfalaf cyfranddaliadau. Mae'r Bwrdd yn cynnwys 12 cyfarwyddwr anweithredol, gan gynnwys y Cadeirydd.
Lansiwyd Dyfodol y Diwydiant - Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Cig Coch Cymru, a ddatblygwyd gan HCC mewn ymgynghoriad agos â diwydiant cig coch Cymru a Llywodraeth Cymru, ym mis Gorffennaf 2015, a'i weledigaeth yw sicrhau diwydiant cig coch i Gymru sy'n broffidiol, yn effeithlon, yn gynaliadwy ac yn arloesol, ac sy'n gallu gwrthsefyll newidiadau gwleidyddol ac amgylcheddol ac ymateb yn gystadleuol i dueddiadau mewn marchnad sy'n newid yn barhaus.
Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon mae dwy flaenoriaeth strategol allweddol, sef:
• Cynyddu'r galw am gynhyrchion cig coch o Gymru (gan gynyddu gwerthiannau ac elw)
• Gwella effeithlonrwydd prosesau cynhyrchu (gan gynyddu'r cyflenwad o gynnyrch o ansawdd) tra'n cynnal amgylchedd a thirwedd Cymru.
Caiff ffocws darparu HCC ei gyflawni drwy dair adran:
• Datblygu Marchnadoedd - mae HCC yn weithgar mewn sawl marchnad bwysig ledled y byd gan ddatblygu a chryfhau cyfleoedd busnes ar gyfer allforwyr cig coch Cymru. Gartref mae HCC yn gweithio gyda manwerthwyr, marchnadoedd ffermwyr a gweithredwyr gwasanaethau bwyd sy'n cynnal rhaglenni hyrwyddo rheolaidd ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig.
• Datblygu'r Diwydiant - mae HCC yn gwneud gwaith ymchwil a datblygu, yn lledaenu gwybodaeth a hyfforddiant sy'n berthnasol i bob rhan o'r gadwyn gyflenwi, er mwyn sicrhau bod diwydiant cig coch Cymru mewn sefyllfa i wella ansawdd, cynyddu costeffeithiolrwydd, gwella iechyd anifeiliaid, diogelu'r amgylchedd ac ychwanegu gwerth at gynhyrchion cig coch ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi.
• Cyfathrebu - mae HCC yn sicrhau y caiff rhanddeiliaid a defnyddwyr wybodaeth am ddatblygiadau mewn perthynas â chig coch Cymru. Cynhelir cydberthnasau â'r Llywodraeth, byrddau ardollau a rhanddeiliaid allweddol eraill hefyd.
Daw prif ffynhonnell incwm HCC o Ardreth Cig Coch Cymru a gesglir mewn perthynas â gwartheg, defaid a moch a leddir yng Nghymru. Mae'r ardreth statudol wedi bodoli yn y sector cig coch am nifer o flynyddoedd er mwyn ariannu gweithgareddau i helpu i ddatblygu'r sector hwn, ac yn benodol gwaith na fyddai fel arall yn cael ei wneud o dan amodau arferol y farchnad.
Ar 01 Ebrill 2007, sefydlwyd HCC yn gorff o dan berchenogaeth lwyr Gweinidogion Cymru.
Mae is-adran Amaeth – Cynaliadwyedd a Datblygu Llywodraeth Cymru yn awyddus i benodi Cadeirydd i arwain Bwrdd HCC.
Disgrifiad o'r swydd
Y Cadeirydd sy'n bennaf cyfrifol am arwain y Bwrdd o Gyfarwyddwyr anweithredol a sicrhau effeithiolrwydd Hybu Cig Cymru. Mae'r cyfrifoldeb gweithredol am weithredu HCC yn nwylo'r Prif Swyddog Gweithredol.
Cyfrifoldebau allweddol y Cadeirydd fydd:
• Arwain y Bwrdd i gyflawni'r argymhellion allweddol o'r adolygiad annibynnol o Hybu Cig Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2016;
• Arwain y Bwrdd i gyflawni Dyfodol y Diwydiant: Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Cig Coch Cymru
• Arwain Is-bwyllgorau'r Bwrdd a sicrhau eu heffeithiolrwydd;
• Meithrin a chynnal cydberthynas effeithiol â'r Prif Swyddog Gweithredol;
• Arwain y gwaith o ddatblygu Cynllun Corfforaethol HCC a Chynllun Busnes HCC drwy'r Bwrdd;
• Sicrhau bod systemau ar waith i fonitro effeithiolrwydd HCC a bod aelodau'r Bwrdd yn cael gwybodaeth gywir, amserol a chlir am berfformiad y cwmni;
• Sicrhau bod trefniadau llywodraethu corfforaethol yn gadarn ac y caiff pob gweithgaredd ei gyflawni yn onest ac yn briodol fel sy'n ofynnol gan sefydliad sy'n gwario arian cyhoeddus;
• Cynrychioli HCC i'r cyfryngau, y Llywodraeth, rhanddeiliaid allweddol, defnyddwyr a chyrff perthnasol yn y DU a'r UE;
• Cyfathrebu a mynychu cyfarfodydd, lle y bo'n briodol, â rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru
• Chwarae rôl allweddol wrth hyrwyddo safbwyntiau HCC i'r cyhoedd;
• Gwerthuso effeithiolrwydd aelodau'r Bwrdd yn barhaus.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Caiff pob cais ei asesu yn erbyn y meini prawf a nodir isod. I gael eich ystyried, mae rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol am y penodiad.
Meini Prawf Hanfodol
Arweinyddiaeth a Gweithio mewn Tîm
• Sgiliau cyfathrebu a dylanwadu ardderchog, ynghyd â'r gallu i ysbrydoli a chymell;
• Y gallu i reoli grŵp o bobl â safbwyntiau gwahanol a'u harwain i wneud penderfyniadau effeithiol a datblygu polisïau cydlynol.
Dealltwriaeth o anghenion y diwydiant amaeth a'r diwydiant bwyd ehangach
• Yn gallu dangos dealltwriaeth o'r materion sy'n wynebu'r diwydiant a thalwyr ardollau cig coch yng Nghymru;
• Gwybodaeth am faterion allforio, gwerthu a marchnata sy'n berthnasol i'r sector cig coch yng Nghymru neu'n gallu deall materion o'r fath.
Datblygu Strategol
• Mae'n deall yr amgylchedd strategol ehangach ac yn ei ystyried wrth wneud penderfyniadau. Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth iawn.
Llywodraethu Corfforaethol
• Dealltwriaeth o lywodraethu corfforaethol a'r hyn y mae'n ofynnol i'r Bwrdd ei wneud a'i gyfrifoldebau.
Sgiliau Cyfathrebu
• Y gallu i hyrwyddo safbwyntiau'r diwydiant a'r sector i'r cyfryngau, y Llywodraeth a rhanddeiliaid;
• Sgiliau rhyngbersonol da, yn gallu meithrin cydberthnasau cadarn â rhanddeiliaid ac eraill.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Am ragor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol
Ffôn: 029 2082 5454
E-bost: sharedservicehelpdesk@wales.gsi.gov.uk
Am ragor o wybodaeth am rôl Hybu Cig Cymru a rôl y Cadeirydd cysylltwch â:
Gareth Wilson
Ffôn: 0300 025 3366
E-bost: Gareth.wilson@wales.gsi.gov.uk
Os bydd angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru drwy ffonio 029 2082 5454 neu drwy anfon neges e-bost i SharedServiceHelpdesk@wales.gsi.gov.uk
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.