Swydd Wag -- Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Penodi Aelod (Cymraeg Dymunol)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Rôl a chyfrifoldebau'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Cefndir
Mae Adran 81(1) Deddf yr Amgylchedd 2016 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol (y Pwyllgor).
Swyddogaeth y Pwyllgor
Pwrpas y Pwyllgor yw cynghori Gweinidogion Cymru ar bob mater sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth a pharatoi a chryfhau cymunedau i allu gwrthsefyll llifogydd. Bydd y Pwyllgor yn rhoi cyngor arbenigol ar gyfeiriad strategol gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, gan weithio'n glos ag Awdurdodau Rheoli Risg a Llywodraeth Cymru.
Rydym yn rhagweld y bydd y Pwyllgor yn creu ei rhaglen ei hun o weithgarwch cynghori a allai adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol tymor byr yn ogystal â rhai tymor hir, gan gynnwys ymateb i ymgynghoriadau, nodi anghenion ymchwil a thynnu sylw at yr arferion gorau yng Nghymru a thu hwnt.
Disgrifiad o'r swydd
Penodi Aelod y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Disgrifiad o'r rôl a manyleb y person
Rôl a chyfrifoldebau
Bydd disgwyl i aelodau:
- Bod yn bresennol a chymryd rôl weithredol mewn cyfarfodydd Pwyllgorau; bydd disgwyl i aelodau fynd i ddau neu dri cyfarfod o'r pwyllgor bob blwyddyn a gweithredu camau sy'n codi;
- Delio gyda gwaith papur a materion sy'n gysylltiedig â gwaith y Pwyllgor;
- Bod yn bresennol ac/neu gadeirio cyfarfodydd yr is-bwyllgor neu gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid;
- Cyfrannu at unrhyw adroddiadau neu ddogfennau sy'n cael eu cynhyrchu ar ran y Pwyllgor, fel y bo angen.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Manyleb y person
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol.
Meini Prawf Hanfodol
Arbenigedd
Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad da o rolau a chyfrifoldebau rhanddeiliaid y maes llifogydd ac erydu arfordirol a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol.
Arbenigedd o fewn ac ym maes rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol (FCERM). Gallai hyn gynnwys:
Arbenigedd technegol megis peirianneg, cynllunio, GIS;
Rheoli arfordirol ac amgylcheddol;
Ymateb gweithredol i lifogydd neu cynorthwyo gydag adfer wedi llifogydd;
Profiad academaidd neu FCERM ehangach.
Sgiliau ac Ymddygiad
Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu da gan gynnwys dangos gallu i drafod gyda rhanddeiliaid a chyfrannu at, a dylanwadu ar gyfarfodydd o'r pwyllgor;
Dangos gallu i ddadansoddi, trafod a chyfathrebu am faterion sy'n gysylltiedig â llifogydd gydag arbenigwyr a'r rhai nad ydynt yn arbenigwyr, a gweld y darlun mwy ledled Cymru;
Deall materion amrywiaeth.
Maen Prawf Dymunol
Gan bod gan y Pwyllgor fwriad i gynnwys trawsdoriad eang o safbwyntiau a phrofiadau ni fydd yn hanfodol i fodlioni pob un o'r meini prawf dymunol.
Gwybodaeth a Phrofiad
-
Gwybodaeth o gyllid a mecanweithiau Llywodraeth Cymru;
Deall y cyfleoedd posibl i fuddsoddi y tu allan i gyllid y Llywodraeth.
Deall Cynlluniau Rheoli Traethlin wrth reoli risg arfordirol.
Dealltwriaeth o reoli risg llifogydd naturiol.
Sgiliau
-
Y gallu i ddadansoddi data ac ymchwil i lywio argymhellion.
Gallu paratoi adroddiadau.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.