Swydd Wag -- Aelod - Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) (Hanfodol Cymraeg)

Manylion y swydd

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)
Cynhelir y cyfarfodydd fel arfer yn swyddfeydd CCAUC ym Medwas, Caerffili, er y byddant yn cael eu cynnal mewn lleoliadau eraill ledled Cymru o bryd i'w gilydd.
£5,076 y flwyddyn ynghyd â chostau teithio a threuliau eraill rhesymol.
18
blwyddyn

Rôl y corff

Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ("CCAUC" neu "y Cyngor") yn gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd ym mis Mai 1992 o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ("Deddf 1992”). 

 

Dyma'r corff sy'n gyfrifol am reoleiddio addysg uwch yng Nghymru, o dan bwerau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, ac mae'n gweinyddu cyllid a roddir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi addysg, ymchwil a gweithgareddau cysylltiedig mewn naw prifysgol yng Nghymru, gan gynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru.  Mae hefyd yn darparu arian ar gyfer cyrsiau addysg uwch penodol mewn colegau addysg bellach. 


Yn 2019-20, bydd CCAUC yn rheoli cyllideb o fwy na £152 miliwn. 

Mae CCAUC hefyd yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. 

 

Mae Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CCAUC ar gyfer 2018-19, ei Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2017-2020 a chopi o lythyr cylch gwaith y Gweinidog Addysg ar gyfer 2019-20 ar gael ar wefan CCAUC www.hefcw.ac.uk

 

Rôl y Cyngor

 

Mae gan CCAUC ddwy dasg ar hyn o bryd: 
 

  • rheoleiddio addysg uwch yng Nghymru drwy gymeradwyo a monitro cynlluniau ffioedd a mynediad sefydliadau; asesu ansawdd AU mewn sefydliadau a reoleiddir; a chraffu ar berfformiad AU drwy fframwaith ar gyfer trefnu a rheoli materion ariannol sefydliadau a reoleiddir; a 
     
  • dosbarthu cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu addysg, cefnogi ymchwil a gweithgareddau cymwys eraill gan ddarparwyr addysg uwch yng Nghymru. 

 

Mae CCAUC hefyd yn rhoi cyngor arbenigol i Lywodraeth Cymru a'r sector.  Prif Weithredwr CCAUC yw'r Swyddog Cyfrifyddu dynodedig, sydd â chyfrifoldeb penodol yn ymwneud â'r defnydd o arian cyhoeddus a roddir gan Lywodraeth Cymru. 

 

Mae Strategaeth Gorfforaethol CCAUC 2017-20 yn nodi'r blaenoriaethau y bydd CCAUC yn eu hystyried wrth geisio gweithredu ei weledigaeth ar gyfer sector addysg uwch sy'n gynaliadwy, yn hygyrch ac yn rhagorol yn rhyngwladol yng Nghymru. 

 

Gweledigaeth CCAUC yw cynnal addysg uwch o safon ryngwladol ragorol yng Nghymru, er budd unigolion, cymdeithas a'r economi yng Nghymru, a thu hwnt.

 

Ei genhadaeth yw:

• Ariannu addysg uwch yng Nghymru

• Rheoleiddio darparwyr addysg uwch yng Nghymru

• Dylanwadu ar addysg uwch gyda chyngor seiliedig ar dystiolaeth a gwaith partneriaeth

• Gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr

• Gweithredu'n effeithiol fel sefydliad. 

Disgrifiad o'r swydd

Mae Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn darparu bod rhaid i'r Cyngor gael rhwng 8 a 12 o aelodau, gan gynnwys y Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol.

Rydym yn gobeithio penodi tri aelod i lenwi'r swyddi gwag presennol a'r rhai sydd i ddod.

Fel aelod o'r Cyngor, bydd disgwyl i chi:
 

  • weithio'n agos gyda'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr i roi cyngor ac anogaeth i CCAUC wrth iddo gyflawni ei gyfrifoldebau statudol ac wrth gychwyn, datblygu a gweithredu polisi;
  • nodi a gwerthuso risgiau ac opsiynau a datblygu strategaethau i'w rheoli a'u lliniaru;
  • meddu ar yr hyder i herio rhagdybiaethau mewn ffordd gadarn ond adeiladol;
  • mynychu cyfarfodydd y cyngor a chyfrannu, a bod yn rhan o benderfyniadau allweddol yn ymwneud â strategaeth y Cyngor;
  • rhoi cyngor awdurdodol ac amserol i Lywodraeth Cymru rhwng cyfarfodydd;
  • cadeirio, neu fod yn aelod o, bwyllgorau'r Cyngor, yn ôl yr angen;
  • arddel, a chael eich gweld i fod yn arddel, y safonau uchaf o ran uniondeb a didueddrwydd;
  • ennyn parch at waith y Cyngor; a
  • gallu delio'n hyderus â Llywodraeth Cymru, ei swyddogion a'i Gweinidogion, a'r sector Addysg Uwch yng Nghymru.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a’r profiad i fodloni’r holl feini prawf hanfodol:
 

Meini Prawf Hanfodol 

  • y gallu i weithredu'n effeithiol ar lefel bwrdd;
  • gwybodaeth a dealltwriaeth o addysg uwch a'r sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol (AHO) ehangach;
  • ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n wynebu addysg uwch yng nghyd-destun y DU a'r cyd-destun rhyngwladol;
  • empathi tuag at fyfyrwyr, eu profiad a'u cyfleoedd mewn bywyd;
  • y gallu i herio'r meddylfryd presennol a bod yn gyfathrebwr effeithiol a darbwyllol;
  • y gallu i wrando, dadansoddi a chwestiynu cynigion strategol a data ar berfformiad, a gweithio fel rhan o dîm gyda nod cyffredin;
  • dealltwriaeth glir o gydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymrwymiad i'w sicrhau; a   
  • dealltwriaeth o bwysigrwydd safonau uchel mewn bywyd cyhoeddus. 

 

Yn ogystal â'r fanyleb person uchod, i gwrdd â bylchau sgiliau cyfredol, rydym yn arbennig o awyddus i annog ceisiadau gan unigolion sy'n gallu dangos profiad cyfredol neu ddiweddar mewn un neu fwy o'r meysydd canlynol:
 

  • y sector ôl-orfodol ehangach, dysgu a hyfforddiant seiliedig ar waith a phrofiad o weithio ar draws sectorau;
  • cefndir ymchwil cryf a/neu brofiad o weithio gyda Chynghorau Ymchwil;
  • cyflogwr mewn busnes seiliedig ar wybodaeth neu sgiliau a/neu brofiad o recriwtio a/neu gyflogi graddedigion.

Ni fydd ymgeisydd llwyddiannus a fu gynt yn gweithio i un o'r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru neu sy'n gweithio i un ar hyn o bryd yn cynrychioli buddiannau'r sefydliad hwnnw tra ar y Cyngor, ond bydd disgwyl iddo gymryd golwg ddiduedd a chyfannol ar yr heriau sy'n wynebu'r sector AU Cymru yn ei gyfanrwydd. Os yw popeth arall yn gyfartal, rhoddir ffafriaeth i ymgeiswyr nad ydynt yn cael eu cyflogi ar hyn o bryd gan un o sefydliadau addysg uwch Cymru.


Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer penodi.

Dyddiadau cyfweliadau

17 Chwefror 2020
21 Chwefror 2020

Dyddiad cau

10/01/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

 

Penodiadau Cyhoeddus

Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl CCAUC a rôl y Cadeirydd cysylltwch â Colette Eley yn nhîm noddi Llywodraeth Cymru:

 

Ffôn: 03000 250523

E-bost: colette.eley@llyw.cymru


neu Dale Hall, Ysgrifennydd Cyngor CCAUC:

 

Ffôn: 029 2085 9665

E-bost: dale.hall@hefcw.ac.uk 


Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.