Swydd Wag -- 1 x Penodi Aelod (Hanfodol Cymraeg) - Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Manylion y swydd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Fel arfer cynhelir cyfarfodydd yr Awdurdod ym mhrif swyddfeydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Aberhonddu, ond o bryd i’w gilydd fe’u cynhelir mewn lleoliadau eraill yn y Parc.
Bydd Aelod yn cael ei dalu £3,735 y flwyddyn (caiff y cyflog ei adolygu gan y Panel Cydnabyddiaeth Ariannol ac mae’n seiliedig ar ragdybiaeth o o leiaf 44 niwrnod o waith y flwyddyn, gyda diwrnodau ychwanegol yn cael eu hystyried fel yr elfen gwasanaeth cyhoeddus).  Mae Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd yr Awdurdod a dau Gadeirydd y pwyllgorau’n derbyn Cyflog Uwch yn ychwanegol. Mae aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cael eu hystyried fel deiliaid swydd at ddibenion trethi ac Yswiriant Gwladol.  Bydd yn rhaid talu trethi ar y ffioedd, o dan Atodlen E y Ddeddf Trethi a bydd yn rhaid talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.  Bydd y rhwymedigaethau hyn yn cael eu talu drwy system cyflogres Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r ffi net yn cael ei dalu i ddeiliad y swydd.  Nid oes yn rhaid talu TAW. 
44
blwyddyn

Rôl y corff

Beth yw Parciau Cenedlaethol?

Mae Parciau Cenedlaethol yn dirluniau o bwysigrwydd rhyngwladol.  Er eu bod yn barciau gwledig yn bennaf, maent yn agos at gymunedau trefol ac mae posibilrwydd sylweddol yno i gyfoethogi bywydau pobl Cymru, ac ymwelwyr â Chymru, ac i gyfrannu’n bositif at economi Cymru.  Tasg allweddol Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw helpu i sicrhau bod yr ardaloedd arbennig hyn, yn y dyfodol, yn lefydd sydd â thirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth gyfoethocach, mwy amrywiol nac sydd ganddynt heddiw, sy’n cael ei fwynhau gan drawsdoriad llawn o’r gymdeithas.  

Beth yw eu Rôl?

Mae gan Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ddau bwrpas statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995:


diogelu a gwella prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol;

hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y Parciau. 

Yn ogystal â cheisio cyflawni eu dau bwrpas statudol, mae gan Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ddyletswydd i feithrin llesiant economaidd a chymdeithasol eu cymunedau lleol wrth ymlid y ddau bwrpas statudol.


Os yr ymddengys bod gwrthdaro rhwng y dibenion hyn, rhoddir mwy o flaenoriaeth i ddiogelu a gwella prydferthwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal o fewn y Parc Cenedlaethol. 

Dulliau o weithio

Mae’n ofynnol i bob Awdurdod baratoi Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol.  Mae’r Cynllun yn pennu polisïau ar gyfer rheoli’r Parc a threfnu a darparu gwasanaethau a chyfleusterau gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol.  Mae’n cynnwys polisïau i reoli’r tir o fewn y Parc Cenedlaethol ac yn sail ar gyfer cydweithio, nid yn unig gyda sefydliadau cadwraeth statudol a gwirfoddol, ond hefyd gyda pherchnogion tir  eraill cyhoeddus a phreifat.  Mae ymgynghori yn ystod y cyfnod o baratoi’r Cynllun yn caniatâu i bobl gyfrannu at bolisïau  ymarferol, ac mae’n hollbwysig i sicrhau bod perthynas dda rhwng trigolion y Parc a buddiannau o fewn y Parc.

 

Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys prif randdeiliaid megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned wrth baratoi Cynlluniau Rheoli Parciau Cenedlaethol, a bydd yn chwarae rhan allweddol i ddatblygu y Cynllun Datblygu Lleol.  Awdurdodau y Parc Cenedlaethol yw awdurdod cynllunio eu hardal, sy’n gyfrifol am greu cynlluniau datblygu a rheoli datblygu


Beth yw eu Strwythur a’u Haelodaeth?

O dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 mae tri Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Awdurdodau Lleol â diben arbennig.  Maent yn gyrff corfforaethol gyda phwerau gweithredol.  Yr un pwrpas sydd i’r Parciau yng Nghymru a Lloegr ond mae aelodaeth Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ym mhob gwlad yn wahanol.


Yng Nghymru, mae dwy ran o dair o’r seddi yn cael eu llenwi gan gynghorwyr Awdurdodau Lleol cyfansoddol i adlewyrchu buddiannau lleol ac un rhan o dair gan benodiadau sy’n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru i gynrychioli buddiannau cenedlaethol.  Wrth benodi aelodau i eistedd ar Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol, mae Awdurdodau Lleol yn cael eu hannog i ddefnyddio cynghorwyr sy’n cynrychioli wardiau sydd naill ai’n gyfan-gwbl neu’n rhannol o fewn ffin y Parc. 

Ble mae Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol yn cael eu harian?

Mae Gweinidogion Cymru yn rhoi mwyafrif eu cyllid i Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ar ffurf Grant Parc Cenedlaethol.  Daw dwy ran o dair o’r Grant gan Weinidogion Cymru yn uniongyrchol, gyda’r un rhan o dair sy’n weddill yn cael ei gasglu gan Awdurdodau’r Parc o’u Hawdurdodau Lleol cyfansoddol.  Mae grant ychwanegol ar gael gan Weinidogion Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf penodol.  Caiff Awdurdodau y Parc Cenedlaethol incwm o, er enghraifft, weithgareddau masnach, ffioedd meysydd parcio a ffioedd ceisiadau cynllunio.  Mae Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn anfon llythyr grant strategol pob blwyddyn yn pennu’r blaenoriaethau a’r amcanion y cytunwyd arnynt ar gyfer Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn a ddaw.

 

 

 

 

 

 

 




 


 


 


 


 


 


 


 


 


 


 


 


 


 


 


 


 


 

 

 

 

Disgrifiad o'r swydd

Disgrifiad o'r rôl a manyleb y person

Mae aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol, yn unigol ac ar y cyd, i Lywodraeth Cymru am ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, am bennu ei bolisi ac am sicrhau ei fod yn bodloni ei amcanion o fewn y fframwaith statudol, a’r fframwaith polisi ac ariannol sydd wedi ei baratoi ar ei gyfer.  Mae gan aelodau ddyletswydd i weithredu o fewn y gyfraith, yn onest ac er budd y Parc Cenedlaethol, ac i sicrhau ei fod yn gwasanaethu’r cyhoedd bob tro heb gael ei ddylanwadu gan fuddiannau preifat, neu unrhyw amheuaeth fod hynny wedi digwydd.

 

Rôl y Pwyllgor

Mae’n ofynnol i Aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ddeall a dangos ymrwymiad i ddibenion y Parc Cenedlaethol a bod yn barod i neilltuo’r amser sydd ei angen i fod yn bresennol yn rheolaidd yng nghyfarfodydd llawn yr Awdurdod a chyfarfodydd y pwyllgor, yn ogystal â digwyddiadau i ddatblygu aelodau (o leiaf 6 pob blwyddyn), gweithgorau, digwyddiadau, a chynrychioli yr Awdurdod ar gyrff allanol. 

 

Prif Dasgau:

Arwain Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn benodol wrth ddiffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol ac wrth bennu amcanion heriol;

 

Sicrhau bod gweithgareddau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cael eu cynnal a’u hybu mewn ffordd mor effeithlon ac effeithiol â phosib;

Sicrhau bod strategaethau’n cael eu datblygu ar gyfer bodloni amcanion a dyletswyddau cyffredinol Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn unol â’r polisïau a’r blaenoriaethau a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru;

 Monitro perfformiad Awdurdod y Parc Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn bodloni ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformio;

 Sicrhau bod Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli, rheoleiddio a monitro ei weithgareddau, yn ogystal â gweithgareddau unrhyw gyrff eraill y mae’n eu noddi neu’n eu cefnogi, mewn ffordd sy’n rhoi gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer da, rheoleidd-dra a phriodoldeb ac i gymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol;

 Hyrwyddo amcanion Llywodraeth Cymru o ran datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

I gael eich ystyried bydd yn rhaid ichi ddangos bod gennych y rhinweddau, sgiliau a phrofiad i fodloni’r meini prawf ar gyfer penodiad. Yr ydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion sydd heb brofiad blaenorol o weithio ar fwrdd sector cyhoeddus. Caiff unigolion eu dewis ar y meini prawf hanfodol yn hytrach na’u bod yn cynrychioli sefydliad neu grwpiau penodol.

 

Er mwyn llwyddo yn y swydd hon mae’n bwysig eich bod yn gallu defnyddio eich sgiliau a’ch profiad mewn ffyrdd sy’n helpu i gyflawni y dibenion statudol a ddynodwyd i’r Parciau Cenedlaethol (gweler yr ail baragraff yn Atodiad B). 

 

Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn elwa o ddefnyddio yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sydd gan ei aelodau a bydd angen ichi allu dod â chyd-destun cenedlaethol i waith Awdurdod y Parc sydd yn cydnabod ei rôl a chyfraniad at ddyheadau Cymreig (yn arbennig ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodol) tra’n adnabod cyfraniad y Parc at fywyd amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

 

Gallai helpu os oes gennych brofiad o weinyddu cyhoeddus ar lefel uwch, wedi rhedeg busnes, bod yn ymddiriedolwr neu weithio i elusen neu wybodaeth arall mewn maes sy’n uniongyrchol berthnasol i waith amrywiol Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

 

Yn y cylch penodi hwn mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unigolion sydd â phrofiad eang a sgiliau mewn cadeirio, busnes, cyllid, partneriaethau strategol, cyfathrebu a llywodraethu, ond bydd profiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol hefyd yn fuddiol:

gwarchod yr amgylchedd naturiol, hanesyddol, adeiledig ac / neu ddiwylliannol;

cyfathrebu a materion cyhoeddus (technoleg ddigidol yn benodol);

rheoleiddio a llywodraethu;

y celfyddydau;

hamdden a chwaraeon;

ynni adnewyddadwy;

 addysg;

datblygu cynaliadwy;

sector busnes;

 amaethyddiaeth; neu

 gweithio gyda chymunedau a grwpiau cymunedol.

 

Meini Prawf Hanfodol

Y gallu i wneud cyfraniad cadarn i’r broses o arwain yr Awdurdod Parc Cenedlaethol neu raglenni gan ddefnyddio’r wybodaeth briodol o ran perfformiad i hybu gwelliant a sicrhau cyflawni;

Y gallu i weithredu’n effeithiol mewn swyddogaeth strategol neu genedlaethol sy’n dylanwadu ac yn sicrhau bod polisïau yn cael eu gweithredu;   Y gallu i adeiladu a chyfrannu at dimau effeithiol, gyda’r gallu i gyfathrebu’n glir gydag amrywiol gynulleidfaoedd fel llysgennad i’r Awdurdod;  Gwerthfawrogiad o’r polisi ac arferion presennol a gwaith Awdurdodau Parc Cenedlaethol;

Dealltwriaeth ac ymrwymiad i’r deg egwyddor yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (gweler Atodiad D);

Mae’r Awdurdod yn cynnal ei waith yn electronig a disgwylir i aelodau fod yn ddigon hyfedr mewn TG i fedru rheoli calendrau, i ddelio ag ebyst a phob agenda a phapurau drwy system rheoli pwyllgor electronig;

Dod â phrofiadau eich hun sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru

Dyddiadau cyfweliadau

10 Chwefror 2020
14 Chwefror 2020

Dyddiad cau

02/01/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

 

Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol

Ffôn: 0300 025 5454

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a rôl Aelodau cysylltwch â:

 

Geraint Evans, Yr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth, Llywodraeth Cymru

Ffôn: 0300 062 2097

E-bost: geraint.evans@llyw.cymru

 

Neu

 

Julia Gruffydd (Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd)

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog,

Plas y Ffynnon,

Cambrian Way,

Aberhonddu,

Powys

LD3 7HP

 

Ffôn: 01874 620400

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 0300 025 5454 neu anfonwch e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.