Swydd Wag -- Aelod Bwrdd (Hanfodol Cymraeg x1) - Bwrdd Hybu Cig Cymru (HCC)

Manylion y swydd

Bwrdd Hybu Cig Cymru (HCC)
Fel arfer mae cyfarfodydd y Bwrdd y cael eu cynnal yn Aberystwyth, ac mae cyfarfodydd gyda, sesiynau briffio, digwyddiadau a sioeau'r diwydiant yn cael eu cynnal ledled Cymru, y DU ac o bosib ledled y byd.
Telir £300 y dydd i Aelodau o Fwrdd HCC.
12
blwyddyn

Rôl y corff

Mae Bwrdd HCC yn arwain a llywodraethu HCC ac yn cyflawni’r rôl bwysig o graffu ar holl fuddsoddiadau a gweithgareddau HCC. Y Bwrdd hefyd sy'n pennu amcanion y dyfodol. Bydd Aelodau'r Bwrdd yn atebol fel unigolion ac ar y cyd i Lywodraeth Cymru drwy Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.  

Yn bennaf mae Cadeirydd HCC yn gyfrifol am arwain y Bwrdd o Gyfarwyddwyr anweithredol i sicrhau bod HCC yn gweithredu'n effeithiol, ac mae'r Prif Weithredwr yn ymgymryd â rôl y Swyddog Cyfrifyddu wrth weithredu HCC.  Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae'n ofynnol i HCC gydymffurfio â darpariaethau Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Disgrifiad o'r swydd

Dyma gyfrifoldebau allweddol y Bwrdd:  

  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni prif argymhellion yr adolygiad annibynnol o HCC, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2016.
  • Arwain y gwaith o gyflawni 'Gweledigaeth 2025 – Gweledigaeth a Chyfeiriad Strategol ar gyfer y Sector Cig Coch yng Nghymru hyd at 2025'.
  • Mynychu Is-bwyllgorau'r Bwrdd fel sy'n briodol.
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu Cynllun Corfforaethol HCC a Chynllun Gweithredu HCC drwy'r Bwrdd.
  • Sicrhau bod systemau ar waith i fonitro effeithiolrwydd HCC a bod gan holl Aelodau'r Bwrdd wybodaeth gywir, amserol a chlir ar berfformiad y cwmni.
  • Cynnal trefniadau llywodraethu corfforaethol cadarn a sicrhau bod yr holl weithgareddau’n cael eu cynnal yn gywir ac yn briodol fel sy'n ofynnol gan sefydliad sy'n gwario arian cyhoeddus.
  • Cyfathrebu â rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru a mynychu cyfarfodydd gyda nhw lle bo hynny'n briodol.
  • Chwarae rhan allweddol yn y gwaith o hyrwyddo safbwyntiau HCC i'r cyhoedd.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Rhugl

Manyleb y person

I gael eich ystyried, mae'n rhaid ichi ddangos bod gennych y nodweddion arbennig, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y penodiad hwn: 

Meini Prawf Hanfodol 

Gwerthfawrogi anghenion amaethyddiaeth a'r diwydiant bwyd ehangach

  • Gallu dangos eich bod yn gwerthfawrogi’r problemau sy'n wynebu'r diwydiant a'r rhai sy'n talu'r lefi cig coch yng Nghymru. 

Profiad o Ddatblygu Strategol

  • Meddwl creadigol a datblygu strategol;
  • Y gallu i ddadansoddi a gwneud penderfyniadau effeithiol. 

Profiad o Lywodraethu Corfforaethol

  • Monitro effeithiolrwydd gweithgareddau a sicrhau bod gwybodaeth gywir, amserol a chlir ar berfformiad yn cael ei chasglu;
  • Cyflawni gweithgareddau mewn ffordd gywir a phriodol. 

Sgiliau Cyfathrebu

  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol gyda'r gallu i hyrwyddo safbwyntiau HCC a'r diwydiant i'r cyfryngau, y Llywodraeth a rhanddeiliaid;
  • Sgiliau rhyngbersonol da a'r gallu i ddatblygu perthynas gadarn â rhanddeiliaid ac eraill. 

Cydraddoldeb

  • Ei gwneud yn haws cysylltu â rhanddeiliaid HCC a mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda chymunedau a rhanddeiliaid. 

Profiad a Gwybodaeth: Meini Prawf Arbenigol

I sicrhau croestoriad o sgiliau ar Fwrdd HCC, wrth benodi aelodau bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'r meysydd penodol canlynol:  

  • Marchnata (cwsmeriaid/masnach)
  • Cyllid ac archwilio
  • Talwyr ardoll cig coch (cynhyrchwyr cynradd a phroseswyr)
  • Materion cyfreithiol a llywodraethu
  • Academia 

Yn ogystal â'r sgiliau arbenigol, byddai’n ddymunol pe bai gan aelodau'r Bwrdd y Sgiliau canlynol:  

  • Dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Y gallu i herio mewn modd adeiladol.   
  • Hanes profedig o adeiladu perthnasau ag amrediad o randdeiliaid. 
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o broblemau mewn perthynas â dysgu a gwaith ar lefel gymunedol, lefel leol a lefel ranbarthol neu lefel genedlaethol. 
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gyda'r gallu i egluro materion cymhleth mewn ffordd glir a chryno, wrth dangos parch tuag at safbwyntiau pobl eraill.
  • Crebwyll cadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol.
  • Dealltwriaeth o fywyd cyhoeddus ac egwyddorion llywodraethu da.
  • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol yn Gymraeg a Saesneg.
  • Profiad o gael eich holi gan y cyfryngau. 

Y Gymraeg
Mae'n hanfodol bod gan 1 Aelod o'r Bwrdd sgiliau Cymraeg.

Dyddiadau cyfweliadau

17 Chwefror 2020
18 Chwefror 2020

Dyddiad cau

05/01/20 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â: 

Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol

Ffôn: 03000 255454

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.   

I gael rhagor o wybodaeth am swyddogaeth Hybu Cig Cymru a rôl aelodau’r bwrdd cysylltwch â:  

Maria Richards

Ffôn: 03000 255002

E-bost: Maria.Richards@llyw.cymru.  

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.