Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe : Penodi Cadeirydd

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Port Talbot
£69,840 y flwyddyn
15
mis

Rôl y corff

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (a elwid gynt yn BIP Abertawe Bro Morgannwg) ei greu ar 1 Ebrill 2019, ar ôl i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o BIP Abertawe Bro Morgannwg i’r bwrdd newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae BIP Bae Abertawe yn gwasanaethau poblogaeth o tua 390,000 o bobl yn ardaloedd Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe ac mae gennym gyllideb o tua £1 biliwn. Mae’r bwrdd iechyd yn cyflogi oddeutu 12,500 o staff.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i lywodraethu effeithiol, am gynnal gwerthoedd y GIG, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru. 

 

Bydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:-

 

  • Yn datblygu Gweledigaeth Strategol ar gyfer gwasanaethau'r Bwrdd yn y dyfodol, gan nodi a gwireddu'r sgiliau a'r potensial cynhenid o fewn y sefydliad i ddatblygu gwasanaeth arloesol o'r radd flaenaf;

 

  • Yn cynnig arweiniad cryf, effeithiol a gweladwy ar draws cyfrifoldebau'r Bwrdd, yn fewnol drwy'r Bwrdd, ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd ac yn genedlaethol;

 

  • Yn sicrhau bod y Bwrdd yn darparu'n effeithiol nodau strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd drwy gyflawni nodau strategol, polisïau a threfn lywodraethu;

 

  • Yn gyfrifol am gynnal yr ansawdd uchaf o ran safonau ac arferion iechyd cyhoeddus, gan wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd;

 

  • Yn atebol am berfformiad y Bwrdd ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd ac yn genedlaethol, drwy gytuno ar gynllun tymor canolig integredig tair blynedd a chynllun cyflawni blynyddol, a'r gwerthusiad blynyddol o’r cyraeddiadau yn erbyn y cynllun yn gyhoeddus gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;

 

  • Yn sicrhau bod y Prif Weithredwr yn atebol am bob un o'i gyfrifoldebau;

 

  • Yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid, yn arbennig Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector a Phartneriaid Cymdeithasol, a hefyd gyda chontractwyr gofal sylfaenol, i sicrhau bod gwasanaethau diogel ac effeithiol yn cael eu cynllunio a'u darparu;

 

  • Yn rhoi sicrwydd a threfn lywodraethu ar gyfer gofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Bwrdd yn atebol amdanynt;

 

  • Yn rhoi sicrwydd bod y Bwrdd yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, yn unol â'r fframwaith a'r safonau a osodwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru;

 

  • Yn mabwysiadu rôl fel llysgennad allanol, gan gynrychioli'r Bwrdd yn gyhoeddus a meithrin hyder y cyhoedd.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Bydd y Cadeirydd yn dangos y priodoleddau canlynol:-

Gwybodaeth a Phrofiad

Hanfodol

Y gallu i ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer y dyfodol;

Y gallu i ddarparu arweinyddiaeth ar systemau a gweithio gyda Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, grwpiau cymunedol, cleifion a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu ac ysgogi'r weledigaeth strategol honno;

Y gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

Dealltwriaeth eang o faterion llywodraethu a sut y mae llywodraethu yn berthnasol i reoli corfforaethol, clinigol a rheoli gwybodaeth.

Dymunol

Deall problemau a blaenoriaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;

Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;

Dyddiadau cyfweliadau

20 Ionawr 2020
22 Ionawr 2020

Dyddiad cau

13/12/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol

Ffôn: 03000 255454

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu trafodaeth anffurfiol am rôl y Cadeirydd, cysylltwch â:

Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru.

Ffôn: 03000 251182 (Dr Goodall)

E-bost: Andrew.Goodall@llyw.cymru.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/hafan

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 03000 255454 neu anfonwch e-bost i penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

 

Sut i wneud cais

Mae'r Atodiadau sydd ynghlwm yn rhoi manylion ynghylch rôl y Cadeirydd, manyleb y person, a rôl a chyfrifoldebau Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rhoddir amlinelliad o'r broses ddethol hefyd.

I wneud cais, ewch i wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/

I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar swydd wag Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yna cliciwch ar y botwm 'Gwneud cais' ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf ichi wneud cais am swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru, a thrwy wneud hynny byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu cyflwyno, trwy'ch cyfrif.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen ichi gyflwyno'r ffurflen gais a dwy ddogfen ategol.

Mae’r ddogfen gyntaf yn ddatganiad personal sy’n ateby cwestiynau ar dudalennau 3 a 4 o’r pecyn gwybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn. CV llawn, cyfredol yw'r ail ddogfen ategol y bydd rhaid ichi ei chyflwyno.

Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen i'r adran “Rhesymau dros ymgeisio” o'r ffurflen gais ar-lein.

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.