Swydd Wag -- Cadeirydd - Awdurdod Cyllid Cymru

Manylion y swydd

Awdurdod Cyllid Cymru
Rydym yn sefydliad gwaith hybrid, yn gweithio rhwng ein cartrefi a’n prif swyddfeydd yn Ne Ddwyrain Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am swyddfa barhaol newydd yn yr ardal honno. Disgwyliwn gynnal cyfarfodydd Bwrdd yn bersonol, fel arfer yng Nghaerdydd neu'r cyffiniau. Bydd cyfarfodydd a galwadau eraill yn gymysgedd o wyneb yn wyneb ac ar-lein, gyda’r rhan fwyaf o’n gwaith ar-lein ar hyn o bryd. Gallwn ddarparu offer TG.
£400 y dydd (pro rata).

Gellir adennill costau teithio o leoliad eich cartref (yn y DU), yn ogystal â threuliau rhesymol eraill yr eir iddynt wrth gyflawni gwaith i ACC. 

Gallwn hefyd helpu gyda chostau os ydych yn rhiant neu'n ofalwr, a'ch bod yn ysgwyddo costau gofal wrth weithio i ni.

Yn nodweddiadol, 2 i 4 diwrnod y mis ar gyfartaledd. Rydym yn hapus i fod yn hyblyg o ran yr ymrwymiad amser i sicrhau’r ymgeisydd cywir a byddem yn hapus i drafod hyn ymhellach.
3
mis

Rôl y corff

Mae ein Bwrdd yn atebol am swyddogaethau ACC, a roddir iddo drwy statud. Ei rôl yw darparu trosolwg o'r trefniadau ar gyfer arfer y dyletswyddau sy'n deillio o'r swyddogaethau. Gan weithio gyda’r Prif Weithredwr (aelod o’r Bwrdd sydd hefyd yn Swyddog Cyfrifyddu), mae’r Bwrdd yn rhoi sicrwydd bod ACC yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y swyddogaethau yn effeithiol, ac yn gallu parhau i wneud hynny. 

Mae ein Bwrdd yn cynnwys Aelodau Gweithredol (y Prif Weithredwr a dau arall) - Aelodau Anweithredol, ac Aelod Staff Etholedig. Gyda'i gilydd maent yn darparu cydbwysedd iach o her a chefnogaeth i'r sefydliad. Fel grŵp arwain, maen nhw hefyd yn ddylanwadol wrth arwain y diwylliant a’r ffyrdd o weithio rydym eu heisiau yn ein sefydliad, fel arloesi, cydweithio a charedigrwydd. 

Fel Bwrdd adran anweinidogol, nid Bwrdd ACC sy’n pennu strategaeth y sefydliad. Rôl y Gweinidog yw gwneud hynny. Fel ceidwaid swyddogaethau ACC, mae’r Bwrdd yn rhoi sicrwydd a chyngor ar strategaeth mewn perthynas â swyddogaethau ACC. 

Er nad yw Aelodau Anweithredol y Bwrdd yn weision sifil, mae ACC yn rhan o’r Gwasanaeth Sifil ac felly mae’r Prif Weithredwr, fel gwas sifil uchaf yr adran, yn adrodd i Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru – nid yw’r Bwrdd yn dethol na rheoli’r Prif Weithredwr.

Disgrifiad o'r swydd

Fel Cadeirydd Bwrdd ACC, eich rôl fydd:

• arwain y Bwrdd mewn ffordd sy'n gosod y naws ar gyfer y sefydliad, yn esiampl o ran ymddygiad ac ymagwedd, ac yn ysbrydoli diwylliant ACC 
• arwain mewn ffordd sy'n gwerthfawrogi amrywiaeth, gan feithrin a hwyluso trafodaeth agored
• cymhwyso gwybodaeth am arfer gorau traws-sector i heriau ACC
• gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr ac aelodau eraill y Bwrdd, i graffu’n gadarn a cheisio sicrwydd bod swyddogaethau ACC yn cael eu harfer yn effeithiol 
• dangos y safonau uchaf o onestrwydd personol
• arddangos ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (sef Egwyddorion Nolan), fel llysgennad i ACC
• rheoli eich datblygiad eich hun, yn unol â gofynion esblygol y swydd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Rydym yn chwilio am rywun gyda:


• profiad arwain mewn sefydliadau newidiol neu gymhleth 
• profiad o arwain prosiectau mawr o'u cychwyn, eu datblygu a'u cyflwyno
• dull arweinyddiaeth gynhwysol, gydweithredol
• profiad o reoli risg, perfformiad a chyllid
• barn gadarn a lefel uchel o onestrwydd, gydag ymrwymiad i saith egwyddor ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus


Rydym yn chwilio’n arbennig am ymgeiswyr sydd â phrofiad o arwain ac 
arbenigedd yn un neu fwy o’r canlynol:

• y defnydd o dechnoleg ddigidol i ysgogi trawsnewid, arloesi neu awtomeiddio prosesau, gan arwain at ganlyniadau gwell
• defnyddio data i lywio penderfyniadau a/neu wella gwasanaethau 
• datblygiad sefydliadol, neu amgylcheddau gweithredol newidiol neu gymhleth

Dyddiadau cyfweliadau

13 Gorffennaf 2022
15 Gorffennaf 2022

Dyddiad cau

05/06/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Gallwch ddarganfod mwy amdanom trwy edrych ar y canlynol: 

Neges fideo o groeso o Dyfed Alsop a Kathryn Bishop

Canlyniadau Arolwg Pobl

Cynllun Corfforaethol 2019-22

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21

Gallwch hefyd ymweld â llyw.cymru.acc, a’n cyfrifon Twitter, LinkedIn ac YouTube.

Ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Fel corff cyhoeddus, mae’n briodol ein bod ni fel cyflogwr yn cynrychioli’r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu. Rydym yn llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i annog ystod mor eang ac amrywiol o bobl i wneud cais am benodiadau i gyrff cyhoeddus. Rydym yn falch o gael Bwrdd sy’n cael ei gynrychioli’n gyfartal gan ddynion a menywod, ac sydd ag ystod oedran mwy amrywiol na llawer.

Gwyddom ein bod yn gwneud gwell penderfyniadau drwy gael Bwrdd sy’n gwir adlewyrchu cymdeithas Cymru – pobl o bob cefndir gwahanol – i’n helpu i ddeall yr ystod o anghenion sydd gan bobl.

Byddem yn croesawu’n arbennig geisiadau gan y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar Fyrddau, gan gynnwys menywod, pobl o dan 30 oed, pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Rydym yn cynnig amgylchedd cynhwysol, cefnogol, felly mae croeso i chi ddarganfod mwy am y rôl hon.

Cynllun gwarantu cyfweliad

Rydym yn gyflogwr Ymroddedig Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn defnyddio’r diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n golygu ein bod yn cydnabod bod pobl yn cael eu hanalluogi gan rwystrau mewn cymdeithas, nid gan eu nam neu wahaniaeth. Gall y rhwystrau hyn fod yn rhai corfforol, fel adeilad sy’n atal mynediad i rywun sy’n defnyddio cadair olwyn, neu gallant gael eu hachosi gan agweddau pobl at wahaniaeth. Mae’r model cymdeithasol yn ein helpu i gydnabod yr anhawster a achosir gan y rhwystrau hyn, a bod cael gwared arnynt yn creu mwy o gydraddoldeb i bawb.

Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl ac y mae eu cais yn bodloni meini prawf gofynnol y swydd. Wrth ‘feini prawf gofynnol’ rydym yn golygu bod yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i ni yn eich cais sy’n dangos eich bod yn gyffredinol yn bodloni’r lefel cymhwysedd ar gyfer y rôl ac unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiad a ddiffinnir fel rhai hanfodol.

Sut i wneud cais

Rydym yn croesawu trafodaethau anffurfiol am y rôl a ACC i’ch helpu i benderfynu a yw hyn yn addas i chi. Penodwyd Audeliss Executive Search i gefnogi ACC wrth benodi, ac maen nhw ar gael i drafod y rôl yn anffurfiol ac am unrhyw gyngor ar geisiadau ffurfiol. I drafod unrhyw agwedd ar y rôl hwn, anfonwch e-bost at Louise Gore yn Audeliss yn: louise@audeliss.com

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.