Swydd Wag -- Aelodau Annibynnol - Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
Manylion y Swydd
Mae'r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yn gyfrifol am y canlynol:
• cynghori a chynorthwyo cynghorau unigol ar eu perfformiad
• cynrychioli barn a buddiant y cynghorau yn gyffredinol i Weinidogion Cymru
• gosod safonau i'r cynghorau fel y mae'r Bwrdd yn barnu sy'n briodol. Er enghraifft, eirioli mewn cwynion, craffu ar weithrediad y gwasanaeth iechyd, a'r broses ymgysylltu.
• monitro perfformiad y cynghorau i sicrhau safonau cyson ym mhob un
• monitro ymddygiad aelodau a swyddogion y cynghorau
• gweithredu gweithdrefn gwynion
• sicrhau bod y cynghorau yn gweithio mewn ffordd gydlynus yn genedlaethol ar draws Cymru drwy eu galluogi i gynllunio a chydgysylltu.
Rôl yr aelodau annibynnol, yn ôl disgrifiad taflen ffeithiau gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr, yw gwneud cyfraniad creadigol i'r Bwrdd drwy gynnig beirniadaeth wrthrychol. Dylent gynnig barn annibynnol ar faterion strategaeth, perfformiad ac adnoddau, gan gynnwys safonau ymddygiad. Byddant yn canolbwyntio ar faterion y Bwrdd, heb ymyrryd â materion gweithredu dydd i ddydd.
Bydd yr aelodau annibynnol:
• Yn gorfod chwarae rhan lawn a gweithredol yn llywodraethu'r Bwrdd, a bydd disgwyl iddynt roi barn annibynnol ar faterion perfformiad, rhag-gynllunio ac atebolrwydd;
• Yn cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eu hannibyniaeth, eu profiad yn y gorffennol, a'u gwybodaeth a'u gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli beunyddiol;
• Yn cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydlynol, cadarn a thryloyw;
• Yn deall gwaith y Cynghorau maes o law er mwyn caniatáu i'r Bwrdd berfformio'n effeithiol;
• Yn gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill, a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn, er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau.
• Ar gael i baratoi ar gyfer cyfarfodydd a bod yn bresennol ynddynt.
• Yn cadw at y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau'r cynghorau. Mae'r Cod yn ymdrin â materion fel gwerthoedd y cynghorau, ymddygiad personol, cyfrinachedd a chyfle cyfartal. Mae'n berthnasol i Aelodau Annibynnol y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned. Mae copi ohono yn Atodiad 2.
Bydd pob Aelod Annibynnol yn arddangos y rhinweddau canlynol:
Gwybodaeth a Phrofiad
• Y gallu i herio'r Bwrdd yn wrthrychol, gan gadw barn annibynnol ar faterion perfformiad, rhag-gynllunio ac atebolrwydd;
• Y gallu i gymhathu, asesu a dadansoddi gwybodaeth gymhleth a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
• Y gallu i weithio gyda'r Prif Weithredwr, y Cadeirydd ac aelodau eraill y Bwrdd i sicrhau bod y Bwrdd yn arwain y Cynghorau Iechyd Cymuned yn effeithiol. Lle y bo angen, byddwch yn dangos sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddwyn y Prif Weithredwyr i gyfrif am berfformiad wrth gynnal cydberthynas adeiladol ar yr un pryd;
• Y gallu i gyfrannu at brosesau 'Llywodraethu' y Bwrdd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.
Priodoleddau Personol a Sgiliau
• Arweinyddiaeth a hunan-ymwybyddiaeth, a'r gallu i ennyn parch a sylw.
• Uniondeb cymeriad, safonau moesol uchel, crebwyll a pharodrwydd i herio.
• Ymddwyn mewn modd sy'n canolbwyntio ar y dinesydd, er mwyn hyrwyddo'r bwrdd, drwy weithio'n agos gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill.
• Sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau.
• Sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i wrando a'r gallu i gyfathrebu gydag aelodau a staff cyflogedig y Bwrdd;
• Y gallu a'r sgiliau i weithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill;
• Dealltwriaeth o'r ffordd y mae gwrthdaro'n codi a sut i ymdrin â hyn mewn ffordd effeithiol a sensitif;
• Y gallu i adnabod problemau posibl ac ymdrin â risg;
• Parodrwydd i groesawu newid ac arloesi, a'r awydd i ddysgu gwybodaeth a sgiliau newydd.
Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos:
• Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac arferion gwahaniaethol heriol ac ymrwymiad iddynt.
• Dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan, fel y nodir yn Atodiad 3, ac ymrwymiad iddynt.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol. Fodd bynnag, disgwylir i bob ymgeisydd ddangos empathi at yr iaith, a dangos arweiniad wrth wella'r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir yn y GIG yng Nghymru.
Bydd gofyn i ymgeiswyr sy'n cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ymhelaethu ar sut y maent yn bodloni'r meini prawf uchod gan ddefnyddio enghreifftiau a thystiolaeth.
Yr Iaith Gymraeg
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad Cau
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.