Swydd Wag -- Cadeirydd - Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
Manylion y Swydd
Noder bod y dyddiad cau wedi’i estyn i ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2015 er mwyn ceisio ennyn diddordeb ymgeiswyr cadarn ac amrywiol.
Mae'r Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yn gyfrifol am y canlynol:
• cynghori a chynorthwyo cynghorau unigol ar eu perfformiad
• cynrychioli barn a buddiant y cynghorau yn gyffredinol i Weinidogion Cymru
• gosod safonau i'r cynghorau fel y mae'r Bwrdd yn barnu sy'n briodol. Er enghraifft, eirioli mewn cwynion, craffu ar weithrediad y gwasanaeth iechyd, a'r broses ymgysylltu.
• monitro perfformiad y cynghorau i sicrhau safonau cyson ym mhob un
• monitro ymddygiad aelodau a swyddogion y cynghorau
• gweithredu gweithdrefn gwynion
• sicrhau bod y cynghorau yn gweithio mewn ffordd gydlynus yn genedlaethol ar draws Cymru drwy eu galluogi i gynllunio a chydgysylltu.
Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i lywodraethu effeithiol, am gynnal gwerthoedd y cynghorau, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru.
Bydd y Cadeirydd:
• Yn cynnig arweinyddiaeth gref, effeithiol a gweledol i'r Bwrdd, ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ef/hi ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid;
• Yn sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni ei nodau strategol yn effeithiol. Yn gosod nodau ac amcanion heriol i'r cynghorau ac yn monitro cynnydd yn eu herbyn;
• Yn atebol am berfformiad aelodau'r Bwrdd;
• Yn gyfrifol am ofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Bwrdd yn atebol amdanynt;
• Yn cadw at y Cod Ymddygiad ar gyfer aelodau'r cynghorau. Mae'r Cod yn ymdrin â materion fel gwerthoedd y cynghorau, ymddygiad personol, cyfrinachedd a chyfle cyfartal. Mae'n berthnasol i Gadeirydd y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned. Mae copi ohono yn Atodiad 2.
• Ymgymryd â rôl llysgennad allanol.
Bydd y Cadeirydd yn arddangos y rhinweddau canlynol:
Gwybodaeth a Phrofiad
• Profiad o arwain ar ddatblygu sefydliad sector preifat, sector cyhoeddus neu drydydd sector llwyddiannus, gyda'r gallu i edrych tua'r dyfodol a chynnig arweinyddiaeth strategol;
• Dealltwriaeth o’r berthynas rhwng dyrannu a rheoli adnoddau a chyflenwi blaenoriaethau gwasanaeth o fewn fframwaith o lywodraethu corfforaethol cadarn;
• Hanes o feithrin cysylltiadau hynod effeithiol er mwyn cadw hyder ystod o randdeiliaid;
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion iechyd ar lefelau cymunedol, awdurdod lleol a chenedlaethol
Priodoleddau a Sgiliau Personol
• Y gallu i arwain ac ysbrydoli staff, i edrych i'r dyfodol a nodi'r materion allweddol ar gyfer y Bwrdd;
• Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol â sgiliau dylanwadu a thrafod cadarn;
• Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau hirdymor a thymor byr;
• Sgiliau cyfathrebu gwych, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno, a'r gallu i feithrin cysylltiad â phobl ar bob lefel;
• Y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth gan ddangos parch at farn pobl eraill;
• Y gallu i sicrhau bod y bwrdd yn cydweithio'n effeithiol drwy gymryd rhan mewn proses gadarn a thryloyw o wneud penderfyniadau, gan gymell a datblygu'r bwrdd i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau i sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd.
• Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
• Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn.
Rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos:
• Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, a herio arferion gwahaniaethol;
• Dealltwriaeth glir o 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan, fel y nodir yn Atodiad 3, ac ymrwymiad iddynt.
Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol. Disgwylir i bob ymgeisydd ddangos empathi at yr iaith a rhoi arweiniad ar gryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog yn y GIG yng Nghymru.
Bydd gofyn i ymgeiswyr sy'n cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad ymhelaethu ar sut y maent yn bodloni'r meini prawf uchod gan ddefnyddio enghreifftiau a thystiolaeth.
Yr Iaith Gymraeg
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad Cau
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.