Swydd Wag -- Aelodau i Fwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymraeg yn Ddymunol)

Manylion y swydd

Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Nid oes penderfyniad wedi ei wneud ar union leoliad y Comisiwn newydd. Mae’r De-ddwyrain wedi cael ei nodi am y tro at ddibenion cyfrifo costau sylfaenol ac oherwydd lleoliad y staff sy'n cael eu cyflogi yn y maes gwaith hwn ar hyn o bryd. Rhagwelir trefniadau gwaith hybrid a disgwylir i ymgeiswyr llwyddiannus dreulio peth amser yn y Comisiwn fel y bo'n briodol. Yn gyffredinol, bydd cyfarfodydd y Bwrdd yn rhai wyneb yn wyneb er mwyn gallu datblygu tîm y Bwrdd, hwyluso trafodaeth adeiladol sy’n cynnig her, a chefnogi ei gilydd, gan gynnwys y Prif Weithredwr.
Bydd swydd yr Aelod Bwrdd yn derbyn £337 y diwrnod. Bydd cynllun i ad-dalu treuliau cynhaliaeth,  a threuliau eraill a ysgwyddir fel rhan o’r gwaith.  Bydd y cynllun hwn yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion. Cewch hawlio treuliau teithio a threuliau rhesymol eraill a ysgwyddir wrth gyflawni cyfrifoldebau llywodraethiant a gweithgareddau
cysylltiedig yn unol â'r cynllun hwn. Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau gofal plant/gofal henoed/gofal cynorthwyol wrth gyflawni cyfrifoldebau llywodraethiant a gweithgareddau cysylltiedig ar ran y corff.  Nid yw'r swydd hon yn bensiynadwy.
2
mis

Rôl y corff

Gan gydweithio â’r sector a Llywodraeth Cymru, bydd y Comisiwn yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o ddarparu sector addysg drydyddol ac ymchwil mwy ymroddedig, rhagorol a theg yng Nghymru, sy’n rhoi blaenoriaeth i fuddiannau dysgwyr, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb, ac yn cyfrannu at ffyniant cenedlaethol. Bydd ein dull gweithredu yn galluogi dysgwyr i symud yn hwylus o addysg orfodol i addysg drydyddol, gan adeiladu ar ein hymgyrch genedlaethol i ddiwygio addysg.

Disgrifiad o'r swydd

Penodi Aelodau i Fwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

 

Bydd y Bwrdd yn cynnwys hyd at 17 o unigolion, sef Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd (Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi), Prif Weithredwr a hyd at 14 o Aelodau.

 

Bydd y Bwrdd hefyd yn cynnwys aelodau cyswllt di-bleidlais. Bydd yna bedwar aelod cyswllt o leiaf, yn cynrychioli’r dysgwyr a’r gweithlu addysg.

 

Bydd Aelodau’r Bwrdd yn cyfrannu at y trefniadau pontio sydd eu hangen er mwyn sefydlu'r corff newydd erbyn Ebrill 2024. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda'r Prif Weithredwr i sicrhau bod systemau a phrosesau priodol yn eu lle i’w gwneud yn bosibl i staff drosglwyddo’n ddidrafferth.

 

Bydd yr Aelodau yn atebol i Gadeirydd y Bwrdd, a bydd disgwyl iddynt helpu i lywio penderfyniadau a’r hyn a gyflawnir yn ystod y broses o sefydlu’r Comisiwn ac wedyn. Bydd yr Aelodau yn cefnogi’r Cadeirydd i sicrhau bod cyngor awdurdodol ac amserol yn cael ei roi i Weinidogion Cymru drwy swyddogion, a bydd yn rhoi adborth i'r sectorau.

 

Rhaid i 20% o leiaf o Aelodau’r Bwrdd feddu ar sgiliau Cymraeg, ac mae gofyn i bob Aelod ddangos gwerthfawrogiad o ddwyieithrwydd a rhannu ymrwymiad y Comisiwn i hyrwyddo’r Gymraeg.

 

Yn unol â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, caiff camau eu cymryd i sicrhau bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn cynrychioli holl garfanau’r boblogaeth ac yn gynhwysol, ac yn ymroddedig i amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Rôl y Bwrdd

Bydd y Bwrdd yn:

  • Sicrhau bod y safonau llywodraethiant uchaf yn cael eu sefydlu a’u gweithredu er mwyn cyflawni dyletswyddau, swyddogaethau a chyfrifoldebau cyfreithiol y Comisiwn;

  • Sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i gynnig sicrwydd o ran rheoli risg, llywodraethiant a rheolaeth fewnol;

  • Rhoi arweiniad effeithiol, gan ddiffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion sy'n cynnig her;

  • Hyrwyddo safonau uchel o ran rheoli cyllid cyhoeddus a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian;

  • Sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol mewn perthynas â defnyddio cyllid cyhoeddus;

  • Adolygu gwybodaeth ariannol ynghylch gwaith rheoli’r sefydliad yn rheolaidd;

  • Sicrhau bod y Comisiwn yn gweithredu o fewn cyfyngiadau ei awdurdod ac unrhyw awdurdod a ddirprwyir iddo drwy gytundeb â Llywodraeth Cymru, ac yn unol ag unrhyw amodau eraill sy’n ymwneud â defnyddio cyllid cyhoeddus;

  • Sicrhau bod y Gweinidog yn cael gwybod am unrhyw newidiadau sy'n debygol o gael effaith ar gyfeiriad strategol y sefydliad neu ar ei allu i gyrraedd ei dargedau, ac am y camau sydd eu hangen i ddelio â newidiadau o'r fath;

    • Sicrhau bod y Gweinidog yn cael gwybod yn brydlon am unrhyw bryderon o ran gweithgareddau’r Comisiwn, gan gynnwys gweithgareddau a allai effeithio ar lefel yr adnoddau sydd eu hangen i’r dyfodol, ac unrhyw newidiadau o ran arferion neu bolisi a allai fod â goblygiadau ariannol eang;

    • Cymryd camau priodol i ddatrys a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon neu newidiadau o’r fath sydd â goblygiadau ariannol eang, a rhoi sicrwydd i’r Gweinidog drwy swyddogion Llywodraeth Cymru yn eu cylch;

    • Sicrhau bod y Comisiwn, wrth wneud penderfyniadau, yn ystyried canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru;

    • Sicrhau bod gweithgareddau’r Comisiwn yn cael eu cyflawni yn effeithlon ac yn effeithiol; monitro perfformiad i sicrhau ei fod yn cyflawni'n llawn ei nodau, ei amcanion a'i dargedau perfformiad;

    • Hyrwyddo a gweithredu yn unol ag egwyddorion bywyd cyhoeddus Nolan (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweinyddiaeth).

     

    Bydd Aelodau’r Bwrdd yn:

    • Chwarae rôl allweddol o ran cefnogi’r Cadeirydd i bennu cyfeiriad strategol y Comisiwn, ac asesu a gwerthuso’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth fusnes, cynlluniau ac amcanion perfformiad y sefydliad;

    • Helpu i ddatblygu cylch gorchwyl y Bwrdd ochr yn ochr â’r Cadeirydd i sicrhau y cytunir ar rôl a chylch gwaith y Bwrdd o’r cychwyn cyntaf;

    • Cyfrannu at gyfarfodydd y Bwrdd, er mwyn hwyluso trafodaethau llawn gwybodaeth a diddorol, a gwneud penderfyniadau effeithiol;

    • Darparu arbenigedd ar addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan hyrwyddo anghenion dysgwyr addysg drydyddol;

    • Cadeirio neu’n cyfrannu at gyfarfodydd pwyllgor statudol yn ogystal â phwyllgorau cynghori eraill (anstatudol) y gallai’r Bwrdd eu sefydlu;

    • Cydweithio â rhanddeiliaid wrth ddatblygu blaenoriaethau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan sicrhau arferion gorau, gwerth am arian ac y cydymffurfir â blaenoriaethau eraill y llywodraeth;

    • Meithrin perthynas gydag arweinwyr y sector, megis Is-gangellorion a Dirprwy Is-gangellorion prifysgolion, penaethiaid colegau, cyfarwyddwyr addysg awdurdodau lleol, prifathrawon ysgolion â chweched dosbarth, prif weithredwyr darparwyr hyfforddiant preifat ac ati;

    • Hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus; cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian.

     


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Sgiliau Gofynnol ar gyfer y Bwrdd

Wrth benodi’r Bwrdd, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru, o dan Atodlen 1 o’r Ddeddf, roi sylw i gyfansoddiad Bwrdd y Comisiwn a sicrhau bod yna brofiad a gallu (rhyngddynt) mewn nifer o feysydd:

I gael eu hystyried, mae'n rhaid i ymgeiswyr ddangos, felly, fod ganddynt y gallu i weithredu ar lefel bwrdd mewn un neu ragor o’r meysydd canlynol:

Hanfodol 

darparu addysg neu hyfforddiant;

  • gwneud gwaith ymchwil neu ei weinyddu;
  • hyrwyddo anghenion dysgwyr mewn addysg drydyddol;
  • rheoli ariannol neu gyfrifyddu;
  • rheoli cyffredinol yn y sector preifat;
  • llywodraethiant bwrdd, sicrwydd a/neu reoli risg;
  • materion cyfreithiol;
  • hyrwyddo a datblygu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Yn ogystal, mae’n rhaid ichi ddangos bod gennych y nodweddion a’r sgiliau i fodloni'r holl feini prawf hanfodol canlynol ar gyfer y penodiad hwn: 

  • Dealltwriaeth glir o gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymrwymiad iddynt, a pharodrwydd i herio arferion sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl
  • Y gallu i arddangos dealltwriaeth o ymrwymiadau rôl gyhoeddus, fel y'u diffinnir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan
  • Record gwych o ysbrydoli ac ysgogi staff a rhanddeiliaid sy'n dangos eich bod yn gweithio mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff
  • Y gallu i herio meddylfryd a phrofi barn, gyda pharodrwydd i gael eich herio, ac annog trafodaeth agored er mwyn dod i benderfyniadau gwell

 

Dymunol

Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad oes gennych sgiliau o'r fath, dylech fod yn barod i wneud ymrwymiad i ddysgu ar ôl cael eich penodi.  Darperir hyfforddiant, gan gynnwys cefnogaeth a hyfforddiant unigol.

Dyddiadau cyfweliadau

29 Mai 2023
2 Mehefin 2023

Dyddiad cau

27/03/23 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.