Swydd Wag -- Aelod Annibynnol - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gomisiynydd ac yn ddarparwr gofal iechyd uniongyrchol, ac yn wahanol i fyrddau iechyd eraill yng Nghymru mewn perthynas â chyfran y gwasanaethau a ddarperir i'r boblogaeth gan ddarparwyr gofal iechyd eraill.
Mae cyllideb y bwrdd iechyd tua £300m. Mae 50% yn cael ei wario ar ofal eilaidd ac arbenigol, mae 20% yn cael ei wario ar ofal sylfaenol a 30% ar wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Aelodau Annibynnol, ymysg pethau eraill, yn:
- Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Bwrdd Iechyd Addysgu Polwys ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithgar mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd o ran materion allweddol.
- Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd
- Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
- Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
- Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau;
- Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn.
- Gallu cyfrannu at brosesau 'llywodraethu ac ariannu' y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.
- Deall problemau a blaenoriaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd a'r gallu i ddeall ei rôl a'i waith;
- Y gallu i wneud y swyddogion gweithredol yn atebol am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
- Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth
- Deall egwyddorion llywodraethiant da.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus, yr Uned Cyrff Cyhoeddus E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a rôl yr Aelodau Annibynnol, cysylltwch â:
Vivienne Harpwood, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Ffôn: 01874 712643
E-bost: vivienne.harpwood@wales.nhs.uk
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.