Swydd Wag -- Cadeirydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae pob un o aelodau Bwrdd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn rhannu'r cyfrifoldeb corfforaethol am lunio strategaeth, sicrhau atebolrwydd, monitro perfformiad a llywio diwylliant, ynghyd â sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu mor effeithiol â phosib. Mae'r Bwrdd, sy'n cynnwys y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd, naw Aelod Annibynnol, tri Aelod Cyswllt, y Prif Weithredwr ac wyth Cyfarwyddwr Gweithredol yn darparu arweiniad a chyfeiriad, gan sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn ar waith. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n deall anghenion poblogaeth y Bwrdd Iechyd a phwysigrwydd sicrhau amrywiaeth, cynhwysiant a hyrwyddo'r Gymraeg. Bydd gofyn i'r Cadeirydd newydd roi arweiniad cryf i'r Bwrdd a chynnal gwerthoedd GIG Cymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig oherwydd statws y sefydliad o dan Drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth GIG Cymru. Er bod cynnydd da wedi'i wneud ers mis Ebrill
Disgrifiad o'r swydd
Mae Bwrdd y Bwrdd Iechyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o lunio strategaeth, gweledigaeth, pwrpas a diwylliant y Bwrdd Iechyd. Mae'n dwyn y Bwrdd Iechyd i gyfrif o ran darparu gwasanaethau, ei berfformiad, cyflawni ei strategaeth a sicrhau gwerth am arian. Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod risgiau i'r Bwrdd Iechyd, staff a'r cyhoedd yn cael eu rheoli a'u lliniaru'n effeithiol.Dan arweiniad Cadeirydd annibynnol a chan gynnwys cymysgedd o Aelodau Gweithredol ac Aelodau Annibynnol, mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb cyfunol am berfformiad y Bwrdd Iechyd. Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i lywodraethiant effeithiol, am gynnal gwerthoedd y GIG, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru.
Strategaeth
- Arwain y gwaith o ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer y Bwrdd Iechyd, gan nodi a gwireddu'r potensial a'r sgiliau cynhenid o fewn y sefydliad i ddatblygu gwasanaeth arloesol sydd ar flaen y gad yn rhyngwladol;
- Darparu barn a chyngor annibynnol ar faterion ansawdd, strategaeth, gweledigaeth, perfformiad, adnoddau, a safonau ymddygiad;
- Cynnig her adeiladol, dylanwad a chefnogaeth i’r Cyfarwyddwyr Gweithredol i ddatblygu cynigion ar strategaethau o'r fath;
- Cefnogi cyd-aelodau'r Bwrdd i ddarparu arweiniad o fewn fframwaith o reolaethau darbodus ac effeithiol i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sefydliad;
Cynllunio
- Bod yn atebol am berfformiad y Bwrdd ar lefelau cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol drwy gymeradwyo a chyflwyno cynllun tymor canolig tair blynedd a chynllun cyflawni blynyddol.
- Sicrhau bod y Bwrdd yn craffu’n effeithiol ar y cynllun tymor canolig tair blynedd, gan sicrhau ei fod yn sefydlu amcanion clir i gyflawni'r strategaeth; yn cwmpasu'r elfennau angenrheidiol o ran ansawdd, gweithlu, adnoddau gweithredol ac ariannol i'r sefydliad allu cyflawni ei amcanion; a’i fod yn adolygu ei berfformiad yn rheolaidd yn erbyn y cynllun.
Perfformiad
- Derbyn, adolygu a defnyddio prosesau craffu priodol o ran ansawdd, perfformiad, gweithlu a data a gwybodaeth ariannol er mwyn cymharu cyflawniadau yn erbyn targedau a, lle bo angen, helpu i roi camau adferol ar waith.
- Chwilio am amcanion heriol i'r Prif Weithredwr a'r Bwrdd ar gyfer gwella;
- Sicrhau bod trefniadau rheoli effeithiol ar waith i reoli i sicrhau hyfywedd ariannol y Bwrdd Iechyd.
Llywodraethiant
- Sicrhau bod y Prif Weithredwr yn atebol am holl ystod ei gyfrifoldebau.
- Darparu arweinyddiaeth a chyfathrebu cryf, effeithiol a gweladwy ar draws ehangder cyfrifoldebau'r Bwrdd Iechyd, yn fewnol drwy'r Bwrdd Iechyd ac yn allanol drwy’r cysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid o fewn a thu allan i'r GIG ar lefel genedlaethol, gymunedol ac awdurdodau lleol.
- Sicrhau ymrwymiad y Bwrdd Iechyd i'r safonau llywodraethiant uchaf, fel ei fod yn gweithredu er budd y boblogaeth a’r partneriaid y mae'n eu gwasanaethu, a’i fod yn cael ei weld yn bod yn atebol am y gwasanaethau a ddarperir a'r adnoddau a ddefnyddir;
- Sicrhau bod gwybodaeth gywir, amserol a chlir yn cael ei darparu i'r Bwrdd a'r cyfarwyddwyr i fodloni gofynion statudol;
- Sicrhau bod rheolaethau mewnol a systemau rheoli risg yn gadarn ac yn cael eu llywodraethu'n dda;
- Dadansoddi a dehongli gwybodaeth a ddarperir i'r Bwrdd, gan ofyn am eglurhad, sicrwydd pellach, a rhannu gwybodaeth lle bynnag y bo modd;
- Sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio â'i Reolau Sefydlog, ac â’r polisïau, y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol;
Diwylliant ac Ymddygiad
- Dangos Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (sef Egwyddorion Nolan) - anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, didwylledd, gonestrwydd, ac arweinyddiaeth a sicrhau bod holl aelodau’r Bwrdd yn cydymffurfio â’r egwyddorion;
- Sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn dangos gwerthfawrogiad o ddwyieithrwydd a diwylliant, ac yn ymrwymo i hybu, cofleidio, a phrif ffrydio'r Gymraeg;
- Sefydlu diwylliant sy'n annog staff, cleifion, teuluoedd, a'r cyhoedd i godi pryderon sydd wedyn yn cael sylw priodol;
- Sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cofleidio ac yn hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant ar gyfer ei holl boblogaeth, cleifion, staff, a rhanddeiliaid;
- Sicrhau'r safonau uchaf o dreiddgarwch, uniondeb, a llywodraethiant, a sicrhau bod trefniadau llywodraethiant y Bwrdd Iechyd yn cydymffurfio â'r arferion gorau a'r gofynion statudol;
- Darparu arweiniad tosturiol gweladwy wrth gefnogi a hyrwyddo diwylliant iach i'r Bwrdd Iechyd ac adlewyrchu hyn, a gwerthoedd y Bwrdd Iechyd, yn ei ymddygiad ei hun;
- Dod â phrofiad, gwybodaeth a dylanwad y gorffennol i waith y Bwrdd er mwyn hyrwyddo arloesedd a chwilfrydedd a herio normau;
Ymgysylltu
- Meithrin a chynnal cysylltiadau agos rhwng partneriaid y Bwrdd Iechyd a grwpiau rhanddeiliaid i hyrwyddo gweithrediad effeithiol gweithgareddau'r corff iechyd;
- Darparu arweinyddiaeth i gefnogi ac annog cydweithio effeithiol gyda phartneriaid, yn benodol gyda Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau GIG, Awdurdodau Iechyd Arbennig, awdurdodau lleol, y trydydd sector a phartneriaid gofal cymdeithasol, er mwyn sicrhau cynllunio a darparu gwasanaethau diogel a gwasanaethau effeithiol;
- Mynychu cyfarfodydd Llywodraeth Cymru, grwpiau cymheiriaid cyrff iechyd a chyfarfodydd rhanddeiliaid eraill lle bo angen;
- Ymgymryd â rôl llysgennad allanol, gan gyflawni yn llygad y cyhoedd ac ennyn hyder y cyhoedd;
- Gyda chefnogaeth, bodloni’r digwyliad i ddeall busnes y Bwrdd Iechyd trwy ymwneud gweithredol;
Gweithgareddau'r Bwrdd
- Cynllunio cyfarfodydd y Bwrdd gyda'r Prif Weithredwr ac Ysgrifennydd y Bwrdd.
- Hwyluso cyfraniad effeithiol gan Aelodau'r Bwrdd a sicrhau perthynas adeiladol o fewn y sefydliad a rhwng Cyfarwyddwyr Gweithredol ac Aelodau Annibynnol.
- Cadeirio cyfarfodydd bwrdd y Bwrdd Iechyd a sesiynau datblygu arweiniol a chyfarfodydd eraill o aelodau fel y bo'n briodol;
- Cymryd rhan yn llawn yng ngwaith y Bwrdd a'r Pwyllgorau, gan gynnwys ymgysylltu cyn ac ar ôl cyfarfod a gwerthusiadau blynyddol i gefnogi llywodraethiant da;
- Ar y cyd ag Aelodau eraill y Bwrdd, cyflawni ei ddyletswyddau fel Cadeirydd Cronfa Elusennol y Bwrdd Iechyd, y mae'r Bwrdd yn gweithredu fel yr ymddiriedolwr corfforaethol ar ei chyfer.
- Cael arfarniad perfformiad personol blynyddol, gan gymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant a datblygiad ychwanegol a amlygwyd o ganlyniad i'r broses werthuso er mwyn sicrhau bod amcanion personol yn cael eu cyflawni
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.
Meini Prawf Hanfodol
Gwybodaeth a Phrofiad
- Hanes o brofiad strategol ar lefel bwrdd mewn sefydliad cyhoeddus, preifat neu yn y trydydd sector;
- Y gallu i feithrin gweledigaeth ac arwain y gwaith o ddatblygu strategaethau diffiniedig wrth geisio cyflawni nodau hirdymor, tymor canolig a byrdymor;
- Y gallu i ddangos ymrwymiad i ymgysylltu â phobl sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus;
- Dealltwriaeth o amrywiaeth a chynhwysiant ac ymrwymiad iddynt;
- Y gallu i ddangos gwerthfawrogiad o ddwyieithrwydd a diwylliant, ac ymrwymiad i hybu a phrif ffrydio'r Gymraeg.
- Y gallu i ddeall a hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth
- Gallu amlwg i weithio ar y cyd ac fel rhan o dîm i gyflawni nodau cyffredin;
- Y gallu i ddarparu, ac i annog eraill i ddarparu, her annibynnol a chraffu wrth gynnal perthynas adeiladol;
- Y gallu i ysgogi a datblygu'r bwrdd i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd;
- Tystiolaeth o ddealltwriaeth o lywodraethiant effeithiol
Priodoleddau Personol
- Ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) a gwerthoedd y corff iechyd;
- Sgilau rhyngbersonol cryf a sgiliau dylanwadu, a'r gallu i weithredu fel eiriolwr a llysgennad effeithiol;
- Craffter, a’r crebwyll i ddeall materion perthnasol ac i ddeall y berthynas rhwng y rhai sydd â diddordeb, gan ddangos barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
- Y gallu i fod yn annibynnol ac yn wydn. Y Meini Prawf sy'n Ddymunol
- Profiad amlwg o arweinyddiaeth a rheoli newid strategol gan gynnwys newid diwylliant;
- Dealltwriaeth o reoli risg a systemau rheoli a sicrwydd mewnol;
- Sgiliau Cymraeg;
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol; fodd bynnag, bydd disgwyl i bob ymgeisydd ddangos ymrwymiad i’r iaith a'r diwylliant, a dangos arweiniad i gryfhau a hyrwyddo darpariaeth gwasanaethau dwyieithog o fewn y GIG yng Nghymru (gweler yr Wybodaeth a’r Profiad Hanfodol uchod). Pan fydd ymgeiswyr am ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf dymunol, dylent roi syniad o'u sgiliau o ystyried y lefelau sgiliau canlynol.
Safonau mewn bywyd cyhoeddus
Deall - Gallu deall rhai sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith
Darllen - Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Siarad - Gallu cyfrannu at rai sgyrsiau sy'n ymwneud â'r gwaith
Ysgrifennu - Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol am bynciau pob dydd
Safonau mewn bywyd cyhoeddus
Bydd disgwyl i chi ddangos safonau uchel o ymddygiad corfforaethol a phersonol. Bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus gydymffurfio â Chod Ymddygiad Aelodau Byrddau Cyrff Cyhoeddus.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.