Swydd Wag -- Aelodau - Cyngor Celfyddydau Cymru

Manylion y swydd

Cyngor Celfyddydau Cymru
Cynhelir cyfarfodydd ar-lein, yn Swyddfeydd CCC ym Mae Caerdydd ac mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru. Mae ymateb y Cyngor i Covid-19 yn golygu bod cyfarfodydd ar-lein yn fwy tebygol rhwng y tymor byr a’r tymor canolig
Ni chynigir tâl, ond mae gan Aelodau’r hawl i gostau teithio a threuliau rhesymol eraill o fewn terfynau y cytunwyd arnynt.
2
mis

Rôl y corff

Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1994. Mae Cyngor y Celfyddydau yn cael ei ariannu’n bennaf drwy gymorth grant oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn elusen gofrestredig sy'n ddarostyngedig i’r Gyfraith Elusennau ac mae'n un o bedwar Dosbarthwr y Loteri yng Nghymru.

 

Dyma nodau'r Cyngor fel y’u nodir yn ei Siarter Frenhinol:

 

  • datblygu a gwella gwybodaeth a dealltwriaeth am y celfyddydau a datblygu a gwella ymarfer yn y maes;
  • gwneud y celfyddydau’n fwy hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru;
  • cynghori a chydweithredu â Llywodraeth Cymru a chyrff perthnasol; a
  • cyflawni'r nodau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

 

Rhan o delerau ac amodau'r cyllid yw bod gan Aelodau'r Cyngor gyfrifoldeb unigol a chorfforaethol i Lywodraeth Cymru.

 

Gwybodaeth am Gyngor Celfyddydau Cymru

 

Cyngor y Celfyddydau yw’r asiantaeth sy’n ariannu ac yn datblygu’r celfyddydau yn ein gwlad. Mae’n:

 

  • cefnogi ac yn datblygu gweithgarwch celfyddydol o ansawdd uchel – mae'n buddsoddi arian cyhoeddus, sy’n cael ei ddarparu gan y trethdalwr, ac sy’n cael ei ddyrannu gan Lywodraeth Cymru, gan helpu'r celfyddydau i ffynnu yng Nghymru;

  • datblygu a chyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau – mae'n sicrhau bod mecanweithiau, prosesau a gweithdrefnau priodol ar waith er mwyn cyflawni'r agenda strategol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, fel y’i nodir yn y ddogfen strategaeth gyfredol (y Rhaglen Lywodraethu ar hyn o bryd) a'r llythyr Cylch Gwaith Blynyddol;
     
  • dosbarthu arian y Loteri – drwy geisiadau i'w raglenni ariannu, mae'n buddsoddi mewn prosiectau sy'n datblygu gweithgarwch newydd ym maes y celfyddydau, gan gefnogi unigolion a sefydliadau;

  • rhoi cyngor am y celfyddydau – drwy ei staff a'i gynghorwyr, Cyngor y Celfyddydau sydd â'r casgliad mwyaf yng Nghymru o arbenigedd a gwybodaeth am y celfyddydau;
     
  • rhannu gwybodaeth – mae Cyngor y Celfyddydau yn ganolfan genedlaethol ar gyfer rhwydwaith gwybodaeth am y celfyddydau yng Nghymru. Mae ganddo gysylltiadau rhyngwladol cryf hefyd yn y DU a thu hwnt;
     
  • codi proffil y celfyddydau yng Nghymru – Cyngor y Celfyddydau yw llais cenedlaethol y celfyddydau yng Nghymru, gan sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ansawdd, gwerth a phwysigrwydd celfyddydau'r wlad;
     
  • creu mwy o arian i economi'r celfyddydau – drwy fentrau fel y Cynllun Casglu – cynllun y Cyngor i annog mwy o bobl i brynu celfyddyd − a'i waith i sicrhau cyllid Ewropeaidd; mae'r rhain yn dod â mwy o arian i economi'r celfyddydau; a
     
  • dylanwadu ar gynllunwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau – mae'r celfyddydau'n digwydd mewn llawer o leoliadau gwahanol. Maent yn gallu cael effaith ddramatig ar ansawdd bywydau pobl, ac ar y mannau y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt. Y celfyddydau hefyd, yn aml, sydd wrth wraidd mentrau adfywio economaidd a chymdeithasol, o drawsnewid dysgu mewn ysgolion i hybu iechyd a lles. Mae Cyngor y Celfyddydau yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod y cyfraniad y gall y celfyddydau ei wneud yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a'i ddathlu. 

Disgrifiad o'r swydd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ac felly, Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r agenda strategol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru. Mae'n dymuno annog pobl i gymryd rhan weithredol yn y celfyddydau, a sicrhau bod profiadau diwylliannol o ansawdd uchel ar gael i bawb yng Nghymru, ble bynnag y maent yn byw neu beth bynnag eu cefndir cymdeithasol.

 

Disgwylir i aelodau Cyngor:

 

Gymryd rhan a chyfrannu'n effeithiol at weithgareddau'r Cyngor, yn enwedig o ran diffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol, pennu a chyflawni amcanion heriol, a chefnogi polisi Llywodraeth Cymru;

 

Adolygu gwaith y weithrediaeth, craffu arni, ei herio a’i chefnogi;

 

Hyrwyddo safonau uchel o briodoldeb wrth reoli arian cyhoeddus, a sicrhau bod gweithgareddau'r Cyngor yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol, gan sicrhau gwerth am arian o fewn fframwaith arferion gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb;

 

Cymryd rhan yn y broses cynllunio corfforaethol, gan gynnwys cytuno ar gynlluniau cyllidebol blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgarwch corfforaethol;

 

Gweithio fel rhan o Gyngor sy'n gwerthfawrogi gwahaniaeth mewn ffordd gadarnhaol ac sy’n herio ymddygiadau diarwybod;

 

Ar ôl cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, penodi Prif Weithredwr, pe bai'r angen yn codi.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y rôl:

 

Sgiliau Hanfodol

 

  • Gwybodaeth helaeth am y celfyddydau yng Nghymru a dealltwriaeth o flaenoriaethau a pholisïau presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau;

  • Dealltwriaeth glir o faterion sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb, ac ymrwymiad i’r materion hynny ac i hyrwyddo mynediad i'r celfyddydau ac ennyn diddordeb ynddynt;

  • Dealltwriaeth fanwl o'r heriau sy'n wynebu sefydliadau celfyddydol, CCC a'r rheini sy'n gweithio ym maes y celfyddydau ar hyn o bryd, a'r gallu i feddwl yn greadigol ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â'r heriau hynny;

  • Llwyddiant yn y gorffennol wrth weithio mewn un neu fwy o'r ffurfiau /meysydd celfyddydol a ganlyn:

 

  1. sut mae'r celfyddydau'n effeithio ar les cymunedau amrywiol ledled Cymru ac ar y bobl hynny sy'n dioddef anghydraddoldeb;

  2. y diwydiannau creadigol − yn enwedig y celfyddydau digidol, dawns, llenyddiaeth;

  3. hyrwyddo a datblygu'r celfyddydau mewn awdurdodau lleol, mewn sefydliadau addysg neu sefydliadau iechyd; 

  4. masnachol − dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio sgiliau masnachol a chodi arian er mwyn sicrhau'r budd mwyaf posibl i sefydliadau celfyddydol;
     
  • Y gallu i wneud penderfyniadau cadarn ar sail gwaith dadansoddi cadarn a gweledigaeth strategol;

  • Profiad o gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel; yn enwedig y gallu i fod yn llysgennad ar gyfer y celfyddydau a’r gallu i arfer tact ac i fod yn ddiplomataidd wrth ddelio â rhanddeiliaid; a

  • Dealltwriaeth o egwyddorion llywodraethu da.

 

Rydym yn croesawu'n benodol geisiadau oddi wrth fenywod, pobl anabl ac unigolion o gefndir lleiafrifoedd ethnig sy'n wybodus am y celfyddydau yng Nghymru, sydd â diddordeb gwirioneddol yng ngwaith Cyngor Celfyddydau Cymru, ac sy’n gallu cyfrannu'n gadarnhaol at ei wneud yn gorff cyhoeddus sy'n perfformio'n dda.

Dyddiadau cyfweliadau

1 Chwefror 2021
5 Chwefror 2021

Dyddiad cau

23/11/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sylwch fod y gofyniad amser ar gyfer y swydd wag hon oddeutu 1.5 diwrnod y mis. 10 cyfarfod y flwyddyn.



Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:

Tîm Penodiadau Cyhoeddus Yr Uned Cyrff Cyhoeddus E-bost:

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cyngor Celfyddydau Cymru a rôl yr Aelodau, cysylltwch â Gary Williams (Llywodraeth Cymru):

Gary.Williams2@llyw.cymru neu Katy Brown (Cyngor Celfyddydau Cymru):

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch wrth wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â'r Uned Penodiadau Cyhoeddus: 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i: www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.