Swydd Wag -- Aelodau i’r Cynghorau Iechyd Cymuned ledled Cymru

Manylion y swydd

Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru
Rydym yn chwilio am aelodau newydd i'r Cynghorau Iechyd Cymuned ar gyfer pob ardal yng Nghymru, ac eithrio Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a’r Fro gan nad oes unrhyw swyddi gwag ar hyn o bryd.
Gwirfoddolwyr yw aelodau'r Cynghorau Iechyd Cymuned. Ar ôl cael eu penodi, gall aelodau hawlio costau teithio a threuliau eraill o fewn rheswm yn unol â pholisïau'r Cynghorau.   
3
mis

Rôl y corff

Cefndir


Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau cleifion a'r cyhoedd yn annibynnol a diduedd er mwyn dylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd cenedlaethol eu cynllunio a'u darparu yng Nghymru, a gwella hyn. Gwirfoddolwyr lleol yw aelodau’r Cynghorau, sy’n gweithredu fel llygaid a chlustiau cleifion a’r cyhoedd, gwrando ar farn pobl am y gwasanaeth iechyd, cynorthwyo pobl sy’n dymuno gwneud cwyn am y gwasanaeth iechyd a gweithio gyda’r gwasanaeth iechyd i wella ansawdd gofal i gleifion.


Cynghorau Iechyd Cymuned - strwythur sefydliadol


Mae saith Cyngor o'r fath yng Nghymru, pob un yn gyfrifol am ardal ddaearyddol benodol. Mae'r ardaloedd daearyddol hyn yn cyd-fynd â'r saith Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am lunio a darparu gwasanaethau'r GIG yn yr ardal honno (gweler atodiadau D ac E).


Caiff pob Cyngor ei gefnogi gan dîm bach o staff cyflogedig, yn ogystal ag aelodau awdurdod lleol, y trydydd sector a gwirfoddolwyr. Mae Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru yn goruchwylio’r saith Cyngor.


Gyda’r Cynghorau’n cynrychioli lleisiau cleifion yn eu hardal leol, mae’r Bwrdd yn cynrychioli llais y cleifion a’r cyhoedd ar lefel genedlaethol. Y Bwrdd sy’n gosod y safonau cenedlaethol y mae'n rhaid i'r Cynghorau eu cyrraedd, ac mae’n rhaid iddo ddarparu cyngor, canllawiau a chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am fonitro a rheoli eu perfformiad.


Mae Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru:

  • yn gwrando'n barhaus ar yr hyn sydd gan unigolion a'r gymuned i'w ddweud am eu GIG
  • yn llais i'r cyhoedd drwy hysbysu arweinwyr a rheolwyr y GIG am yr hyn y mae pobl ei eisiau a sut gellir gwella pethau
  • yn meithrin perthynas dda â gwasanaethau lleol y GIG
  • yn ymgynghori'n uniongyrchol â'r cyhoedd ynghylch materion penodol; a throsglwyddo barn y cyhoedd i'r GIG a Llywodraeth Cymru
  • yn rhoi help, cyngor a chymorth i bobl sydd am leisio pryder ynghylch gwasanaethau'r GIG.

Beth mae aelodau'r Cynghorau Iechyd Cymuned yn ei wneud? 


Mae rhai o weithgareddau'r Cynghorau, megis cefnogi unigolion i leisio pryder, yn cael eu gwneud gan staff y Cynghorau. Rôl aelodau'r Cynghorau yw cynnig safbwynt y cyhoedd. Gall aelodau ymwneud â'r gweithgareddau canlynol:


  • ymweld â gwasanaethau iechyd lleol a chraffu arnynt, gan gynnwys:
  • ymweld â meddygfeydd, clinigau ac ysbytai a gwrando ar farn a phrofiadau cleifion, gofalwyr a staff
  • bod yn rhan o bwyllgorau a gweithgorau sydd wedi'u sefydlu i fonitro ac adolygu perfformiad y GIG
  • darllen a rhoi sylwadau ar amrywiaeth eang o ddogfennau'r GIG.
  • ymgysylltu'n barhau â'r cymunedau maent yn eu cynrychioli a'r rheini sy'n darparu'r gwasanaethau iechyd yn y cymunedau hynny.
  • cynrychioli buddion cleifion a'r cyhoedd o ran cynllunio a chytuno ar newidiadau i wasanaethau'r GIG.

Disgrifiad o'r swydd

Beth mae aelodau'n ei wneud?
 

  • Siarad â chleifion a'r cyhoedd a'u hannog i rannu eu sylwadau a'u profiadau o wasanaethau'r GIG
  • Adrodd sylwadau a phrofiadau'r cleifion a'r cyhoedd mewn ffordd glir a chytbwys
  • Cynrychioli safbwynt y cleifion a'r cyhoedd mewn cyfarfodydd gyda'r rhai sy'n cynllunio a darparu gwasanaethau'r GIG
  • Edrych ar gynlluniau a chynigion lleol i newid gwasanaethau

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y priodoleddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi.

Nid oes angen i aelodau fod yn arbenigwyr ar waith y GIG. Rydym yn chwilio am unigolion o bob cefndir sydd â diddordeb gwirioneddol mewn helpu eu cymunedau lleol i wella'r gwasanaethau y mae'r GIG yn eu darparu.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr arddangos dealltwriaeth glir o’r canlynol, ac ymrwymiad iddynt:

 

  • materion cydraddoldeb ac herio arferion sy’n gwahaniaethu; a
  • ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan. Mae dolen gyswllt isod:

 

https://www.gov.uk/government/publications/the-7-principles-of-public-life


Disgwylir i aelodau’r Cyngor Iechyd Cymuned gadw at God Ymddygiad ar gyfer aelodau’r Cyngor Iechyd Cymuned. Mae’r Cod yn ymwneud â materion fel gwerthoedd y Cyngor Iechyd Cymuned, ymddygiad personol, cyfrinachedd a chyfle cyfartal. Mae dolen gyswllt isod:


http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/899/2019%20Code%20of%20Conduct%20Procedure%20welsh.pdf

 

Meini Prawf Hanfodol

Bydd angen i aelodau ddangos:

  • Diddordeb gwirioneddol mewn gwrando ar eraill a sgiliau cymdeithasol cryf iawn
  • gallu I gynrychioli eraill mewn ffordd gytbwys
  • gallu i uniaethu â phobl o wahanol gefndiroedd
  • gallu i weithio'n effeithiol fel rhan odîm

 

Y Gymraeg 

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol ar gyfer y swyddi hyn. Fodd bynnag, mae disgwyl i bob ymgeisydd ddangos eu bod yn deall natur ddwyieithog Cymru ac egwyddorion Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mwy na Geiriau. Mae hyn yn cynnwys, yn benodol:

  • Pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol yn y sector iechyd;
  • Peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg;
  • Hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg drwy egwyddor y cynnig rhagweithiol.  

Dyddiadau cyfweliadau

2 Medi 2019
6 Medi 2019

Dyddiad cau

02/08/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Nodwch ein bod yn ceisio penodi aelodau i’r holl ardaloedd Cyngor Iechyd Cymuned yng Nghymru, ar wahân i Gyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a’r Fro lle nad oes sedd wag ar hyn o bryd. Ond, gall fod cyfleoedd i fod yn aelod cyfetholedig (sydd ddim yn pleidleisio) o Gyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a’r Fro. Gall unigolion sydd â diddordeb mewn bod yn aelod cyfetholedig gysylltu â Chyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a’r Fro yn uniongyrchol ar 02920 750112.

Noswuch, mae rhai pobl nad ydynt yn gymwys i fod yn aelod o Gyngor Iechyd Cymuned. Mae’r rhain yn cynnwys:
 

  • Pobl sydd wedi eu cael yn euog o drosedd yn ystod y 5 mlynedd diwethaf ac sydd wedi treulio cyfnod o 3 mis neu fwy yn y carchar (yn ddedfryd ohiriedig ai peidio)
  • Methdalwyr heb eu rhyddhau
  • Pobl sydd wedi'u diswyddo o waith cyflogedig gyda'r gwasanaeth iechyd (ar wahân i ddileu swydd) neu sydd wedi'u diswyddo o benodiad cyhoeddus yn y gwasanaeth iechyd
  • Cadeiryddion, aelodau, cyfarwyddwyr neu weithwyr cyflogedig corff gwasanaeth iechyd sy’n gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl sy’n byw yn yr un ardal â’r Cyngor Iechyd Cymuned
  • Aelodau Cyngor arall
  • Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol neu Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol, Fferyllwyr Cofrestredig, Optometryddion Cofrestredig neu Optegwyr Cyflenwi Cofrestredig, Bydwragedd neu Nyrsys Cofrestredig sy'n gweithio yn yr un ardal â'r Cyngor Iechyd Cymuned
  • Pobl sy'n ymgeisio i fod yn Aelod neu sydd eisoes yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Tŷ'r Cyffredin a/neu Senedd Ewrop.

 

8 mlynedd yw'r cyfnod hwyaf o wasanaeth ar Gyngor Iechyd Cymuned.


Manylion Cyswllt:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â: 

Tîm Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr aelod annibynnol, cysylltwch â Phennaeth Profiad y Claf Llywodraeth Cymru: (  03000 253967 neu Rhian.williams5@llyw.cymru mailto: Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Thîm Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru (manylion uchod).

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.